Yn ôl at y Grŵp Gorffen

4 Maw

Cyn gorffen â’r “Grŵp Gorffen”, tair agwedd arall ar y mater hwn.

1.    Cymdeithas wirfoddol

Yn y blogiad diwethaf ond un, mi ysgrifennais hyn am natur a statws yr Eisteddfod Genedlaethol:  “Cymdeithas wirfoddol ydyw, yn gweithredu dan ei chyfansoddiad ei hun. Mae’n elusen gofrestredig, a than y ddeddf yn ‘Gwmni Cyfyngedig dan Warant’: ond nid yw hyn oll yn ei gwneud yn gorff statudol, sefydledig gan lywodraeth ac atebol i lywodraeth.”

Ond os cymdeithas wirfoddol, mae’n gyfrifoldeb ar ei haelodau ailystyried o bryd i’w gilydd eu buddsoddiad yn ei pharhad a’i llwyddiant. O edrych fy adroddiad banc, gwelaf fy mod yn mentro’r swm o ddwybunt yr wythnos (£104 y flwyddyn) ar y lotri Hapnod, a’i helw tuag at gynorthwyo’r Eisteddfod. Un waith yn y pedwar amser bydd yr hap yn fy ngwobrwyo â rhyw wobr megis £25. Faint ohonom sydd bellach yn cymryd y gambl fawr hon yn wythnosol, a beth yw ei gwerth i’r Eisteddfod, ni wn. Mae’n siŵr bod yr ateb yng nghyfrifon y Llys. Ym mhen hyn, gwelaf fy mod, bob mis Ebrill, yn talu’r swm aruthrol o ddegpunt, fy aelodaeth o’r Llys. Dylwn – dylem – fod yn cyfrannu llawer mwy.

Pwy yw’r “ni” yn “dylem”?  Pawb sydd am weld ffyniant yr Eisteddfod, ac yn gallu fforddio.   Pwy, a faint, sy’n gallu fforddio, ni wn, ond daw un categori i’r meddwl ar unwaith. Ni, y dosbarth proffesiynol Cymraeg-ddibynnol. Efallai nad oes gennym y moddion i gyflawni dim byd mawr iawn (er, synnwn i ddim nad oes gan rai ohonom); ond rydym yn fwy cysurus nag y bu neb o’n tadau a’n teidiau erioed o’r blaen mewn hanes.  Cryn gyfran ohonom yn deuluoedd dau gyflog, dau bensiwn.  Oll oherwydd ein bod yn Gymry.

Faint ohonom sydd, i gyd? Mil? Pum mil? Mwy?  Wn i ddim, ond byddai arolwg trefnedig yn sicr o gynnwys y rhain:

Yr academwyr Cymraeg.
Athrawon a phrifathrawon ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg, ac athrawon mewn ardaloedd Cymraeg.
Darlledwyr a staff Cymraeg y corfforaethau darlledu.
Perchenogion a staff y cwmnïau teledu annibynnol.
Staff Cyngor Gwynedd.
Gweinyddwyr o Gymry yn y colegau (nifer bychan).
Staff y Llyfrgell Genedlaethol, a rhai llyfrgellwyr eraill.
Staff y Cyngor Llyfrau.
Staff Llenyddiaeth Cymru.
Staff tai cyhoeddi Cymraeg.
Y Cyfieithwyr (rhai cannoedd).
Staff y Comisiwn Iaith (!!).
Gweision Sifil eraill o Gymry.

Dyna dipyn. Beth am gyfreithwyr, penseiri, meddygon, deintyddion, cyfrifyddion, peirianwyr?  Ie, pobl broffesiynol, a rhai yn eu plith a fyddai’n dymuno cael eu cyfrif, mae’n ddiamau. Ond nid pobl ddibynnol ar y Gymraeg fel y rhestr uchod.

Bwriwch fod Llys yr Eisteddfod yn pennu tâl aelodaeth newydd, realistig. I ddechrau, gosodwn y Gorseddogion o’r naill du, gan eu bod hwy’n aelodau ar delerau gwahanol, eu cydnabyddiaeth am mai nhw (wel, rhai ohonyn nhw) sy’n cynnal y sioe drwy’r wythnos.  Ar gyfer yr aelodau “dillad eu hunain”, faint ddywedwn ni?  Beth petaem ni’n ei seilio hi ar aelodaeth nodweddiadol cymdeithas wirfoddol arall, gyfarwydd a phoblogaidd yn ein gwlad, ac un y mae gan rai o’r Eisteddfodwyr brofiad helaeth ohoni?   Beth petai’r hen Glyn Adda, yn sydyn reit yn ei henaint, yn magu rhyw awydd i golbio pêl o gwmpas Maes Golff Aberadda?   Cynghorir fi y costiai iddo bedwar can punt y flwyddyn mewn tâl aelodaeth o’r clwb. Wedyn byddai’r dillad a’r offer cymwys. Gwersi, efallai, mewn crefft a fyddai’n hollol newydd iddo. Mynd a dod i’r fangre. A threuliau anodd eu hosgoi “y pedwerydd twll ar bymtheg”, fel y dywedir.  Mewn clwb cyfagos, câi dalu llai, £280.  Ond mewn rhai nid nepell gofynnid ganddo lawer mwy. A beth petai, fel Eisteddfodwr da, am berthyn i ddau neu dri o glybiau yr un pryd?

Dywedwch ein bod yn meddwl am ryw hicyn fel yna. Mil o aelodau yn talu pum can punt yr un? Neu ddwy fil yn talu dau gant a hanner?  Ni byddid fawr o dro’n codi’r hanner miliwn blynyddol y mae Leighton yn ei warafun, ac fe gâi’r llywodraeth roi hwnnw at rywbeth arall.

Realistig?  Fe ddylai fod, ond mae llawer i “ddylai” yn y byd hwn.  Dywed llais yr Hen Amheuwr:   “Rydym yn sôn yn awr am awduron methiant hanesyddol, gwaradwyddus.  Dyma’r union bobl, yr union ddosbarth, sydd newydd fethu yn y dasg gwbl angenrheidiol o greu gwasg ddyddiol Gymraeg.”   Problem pobl fel ni yw nad oes raid inni lwyddo. Rydym wedi llwyddo dipyn bach. Rydym yn ôl-reit. Petaem yn bobl wedi cyrraedd yma o Bangladesh heb ddwy gragen i’w crafu yn ei gilydd, byddai’n rhaid inni wneud rhywbeth ohoni. Ond nid oes unrhyw reidrwydd felly arnom ni, ac am hynny chwarae plant yr ydym gyda phob achos, yn cynnwys achos ein parhad ein hunain.

2.     Arbed costau

Yn ôl y sibrydion mae’r Dwsin Doeth yn meddwl am ryw gynllun a fyddai’n golygu dwy safle barhaol i’r Eisteddfod, un yn y Gogledd ac un yn y De, i’w defnyddio bob yn ail â theithio. Rhaid imi gyfaddef y gwir. Ymhell, bell yn ôl, yn y 1970au, bûm yn ffansïo rhyw syniad tebyg i hyn, meddwl y byddai’n arbed rhyw dipyn, rhyw ychydig ddegau o filoedd o bunnau’r flwyddyn  fel yr oedd yr adeg honno. Rwyf wedi hen, hen newid  fy meddwl. Byddai angen prynu’r safle barhaol, ac wedyn ei chynnal ochr yn ochr â safleoedd eraill. Gall na byddai’n arbediad o gwbl. Tebycach y byddai’n golled.  A pha un bynnag mae dyddiau arbed ychydig ddegau, a hyd yn oed  hanner miliwn, wedi mynd heibio. Wrth lywodraeth sy’n grwgnach ei chyfraniad, neu am osod telerau wrtho a fyddai’n newid natur yr Eisteddfod, gallwn awgrymu pethau fel hyn.  I wneud rhyw arbediad bach, beth am gynnal “Changing the Guard” dridiau’r wythnos yn lle bob dydd?  Neu beth am i’r Saethau Cochion beintio’r awyr mewn dau liw yn lle tri?  Dyna ichi arbediad. Neu oni fyddai rhyw ddwy long Trident yn ddigon, yn hytrach na’r pedair y mae’r llywodraeth Lafur yn awyddus i’w cael i Gymru?

3.     Carwyn a Trident

Daw hyn â ni at rai ystriaethau cefndirol, sylfaenol. Yr haf diwethaf, pan gyhoeddodd Carwyn Jones, a’i ddweud ddwy waith, y byddai “mwy na chroeso” i lynges Trident angori yng Nghymru petai ryw ddydd yn gorfod gadael yr Alban, rhaid ei fod yn gwybod ei fod, o fewn ychydig wythnosau, i gael ei urddo’n aelod o Orsedd y Beirdd.  A oedd yn ymwybodol o gwbl o draddodiadau, neu o leiaf honiadau, hedd-garol yr Orsedd?   (Ac os mai dim ond honiadau fu’r rhain dros y blynyddoedd, cofiwn bob amser yr hen wirionedd  fod “rhagrith yn gompliment i rinwedd”.)  Ceisiodd yr Archdderwydd ei atgoffa gyda’r anogaeth “Cod ni i fro’r awelon pur” &c &c, ond ni fyddai waeth dweud “carreg a thwll” mwy na dyfynnu Waldo yn y fath sefyllfa. Dylai’r Orsedd fod wedi tynnu’n ôl y gwahoddiad iddo.  Ai ddim yn cofio, neu ddim yn deall, yr oedd Carwyn?   Neu ddim yn malio?  Mwy na thebyg fod yr esboniad yn y fan yna yn rhywle.  Ond beth ddywedech chi ddarllenwyr am ddamcaniaeth arall?  Rhown hi ar ffurf cwestiwn, gan y byddai ei rhoi fel gosodiad yn priodoli gormod o gyfrwystra, neu o ddealltwriaeth, i’n Prif Weinidog.  Ai herio’r Eisteddfod yr oedd Carwyn drwy ddweud peth mor wrthnysig ar ei throthwy?  Ei phrofi, drwy’r Orsedd (sy’n gyfystyr â hi yn y meddwl poblogaidd), i weld faint gymerai?  Paratoad ar gyfer bygythiad Leighton, a ddaeth ar faes Bro Morgannwg?

A oes rhyw Agenda ar waith yn y fan hyn, rhyw Bwrpas Cyffredin?  Tan gochl datganoli, mae’n gwbl bosibl tanseilio’r gwir sefydliadau cenhedlig.  Edrychwch ar hanes Prifysgol Cymru.  Meddyliwch eto am yr adroddiad ar y Gymraeg fel pwnc Lefel A. Ymosodiad yw hwn ar ysgolheictod Cymraeg, ac ar yr iaith ei hun, ac ar ei llenyddiaeth. Darllenwch flog echdoe.

Os mai denu’r llongau tanfor i Gymru yw uchafbwynt gweledigaeth economaidd, gymdeithasol a gwleidyddol y llywodraeth hon – a gallwn gymryd mai dyna yw nes clywn yn wahanol – pa ddiben trafod unrhyw beth â hi, yr Eisteddfod, y Gymraeg, unrhyw beth?  Maddeuer hefyd radd ddofn o sgeptigiaeth ynghylch lobïo (un o eiriau mawr y dydd) ar unrhyw bwnc.

About these ads

Un Ymateb to “Yn ôl at y Grŵp Gorffen”

  1. G.Jones Mawrth 19, 2013 at 11:48 pm #

    Cytuno 99.987%. Ni ellir hepgor Un Nos Ola Leuad !

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn

%d bloggers like this: