Gwell hwyr …

18 Mai

Mae’r hen G.A. dipyn yn hwyr gyda’r stori hon, ond nid mor hwyr â’r rhan fwyaf o’r cyfryngau yng Nghymru.

Un o bwyllgorau dethol San Steffan yw’r Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus (Public Administration Committee), ac mae ei bwrpas yn hunan-amlwg, ceisio gwarantu fod gweinyddiaeth ym mhob adran o lywodraeth yn cael ei dwyn ymlaen yn gywir.

Ymhlith aelodau’r pwyllgor mae’r cenedlaetholwr gorau sy’n cynrychioli Cymru heddiw mewn unrhyw dŷ senedd, a’r dyn a fyddai, mewn byd wedi ei drefnu’n well, yn Brif Weinidog Cymru, sef Paul Flynn A.S. (Gorllewin Casnewydd).

Y pwnc gerbron y pwyllgor ar 6 Mai oedd gwrthrychedd y Gwasanaeth Sifil ar adeg refferendwm. Anelodd Paul Flynn gwestiynau at Syr Bob Kerslake, pennaeth y Gwasanaeth Sifil, am fod argymhellion gan y Trysorlys, yn erbyn undeb ariannol rhwng Lloegr ac Alban annibynnol, wedi eu gwneud yn gyhoeddus.

Galwodd cadeirydd y pwyllgor, Bernard Jenkin A.S., ar Alun Cairns A.S. i ofyn y cwestiwn nesaf, ond protestiodd Paul Flynn nad oedd ef wedi gorffen eto, na phrin wedi dechrau. Ond na, yr oedd wedi cael ei gyfle medd y cadeirydd. Yna gadawodd Mr. Flynn y cyfarfod, gan ddweud wrth y cadeirydd, “Rydych chi’n ddefnyddio’r pwyllgor yma fel stynt i geisio creu trafferth i Senedd yr Alban a’r syniad o ddatganoli.”

Yn ddiweddarach dywedodd Mr. Flynn nad oedd yn fwriad ganddo ymddiswyddo o’r pwyllgor, a bod ganddo ragor o gwestiynau i’w gofyn, e.e. am yr oedi cyn cyhoeddi adroddiad Chilcot ar Ryfel Irác.

Annibyniaeth – neu ddim – i’r Alban yw’r cwestiwn pwysicaf, mwyaf sylfaenol i ddod gerbron etholwyr a llywodraethau yn yr ynys hon mewn mil o flynyddoedd. Petai hi’n “ie” byddai hynny y glec fwyaf erioed i’r Sefydliad Prydeinig, a byddai raid i’r Cymry hefyd, o dipyn i beth, ddechrau ceisio deall ystyr y penderfyniad. Pan yw un o A.S.au mwyaf profiadol y Blaid Lafur, mewn pwyllgor seneddol, yn cyhuddo penaethiaid y Gwasanaeth Sifil o gamarfer eu dylanwad mewn mater mor dyngedfennol â hwn, mae’n ddigwyddiad arwyddocaol, ac i’r cyfryngau fe ddylai fod yn stori.

Cyfeiriad gan un o gyfranwyr “Wings over Scotland” a’m harweiniodd i at yr hanes, a chefais bod Newyddion ITV Cymru a WalesOnLine wedi ei adrodd. Rywfodd fe osgôdd sylw’r cyfryngau Cymraeg.

Mae rhywbeth mawr o’i le yn rhywle. Ac mae rhywun yn gofyn cwestiwn: tybed a fyddai lawn mor ddrwg pe bai papur dyddiol Cymraeg wedi dod i fodolaeth?

Gadael sylw