Cerdd: Archfarchnadoedd

23 Maw

Mi af i eto i NETTO,
       I NETTO eto’r af:
Mae’n eitha nêt yn NETTO,
       Boed aeaf neu boed haf.
Tra fydd y jeli’n seto,
       A hithau’n dywydd braf,
Mi fytaf un Cornetto,
       Os eto yn NETTO’i caf.

               *   *   *

Nid af i NETTO eto,
       I NETTO nid af mwy:
Yr ystyr yw fod ASDA
       Yn gwneud yn un y ddwy.
I arbed ar y costa’
       A stretsio’r pres yn hwy,
Ymestyn am yr ASDA
       Yn awr ar hast yr wy’.

Mi es i ddoe i ASDA,
       I ASDA yr es i,
I brynu reis a phasta,
       Torth frown a theisen gri.
O fanno mi ges bas ’da
       Rhyw fodan BBC,
A dyna’r fenyw ffasta’
       Y bues i mas ’da hi.

Mi es ryw ddydd i LIDL,
       I  LIDL yr es i,
Gan wylo dagrau’n hidl
       ’Rôl claddu Mot y ci.
Ond yno roedd rhyw iodlwr,
       Yn iodlan “Iodl-i-i-i-i”,
A chenais ar fy ffidl
       Ryw ffidl-didl-di.

Mi es i ddoe i TESCO,
       I  TESCO ddoe yr es,
A gwelais Ionesco
       Yn sefyll ar ben rhes.
Dywedodd “Tyrd yn nes, co’,
       Rwy’n meddwl am dy les.
’Mond sgwennu at UNESCO,
       Cei lond dy gês o bres.”

Mi es i ddoe i ALDI
       Heb ofni cael fy nal,
Ond gwelais Garibaldi
       Yn llechu wrth y wal.
“Cer o’na Garibaldi,
       I chwara dal-di-fi!
Os waldi fi yn ALDI,
       Mi waldith Waldo di!”

Mi af i’n awr i WAITROSE
       Tra canu bydd y tils,
I brynu tun tomatos,
       ’Run fath â Cêt a Wils,
A wedyn cwrw cania’
       A photel fach o win,
A chanaf “Rule Britannia”
       Ar jiwbilî’r hen Gwîn;
A “Land of Hope and Glory”
       Ddatseiniaf hyd y nen,
Ac yma – feri sori –
       Y daw fy stori i ben

(Diolch i Llafar Gwlad am ganiatâd i ailgyhoeddi rhai o’r penillion hyn.).

 

Un Ymateb to “Cerdd: Archfarchnadoedd”

  1. adrianroberts Mawrth 28, 2012 at 2:20 pm #

    Bardd rhagorol, yn mynegi yn ei gaan werthoedd newydd Cymru. Gwir bob gair. Dyma “Hen Wlad fy Nhadau” ‘r oes newydd. Edrychaf ymlaen at y dydd y clywaf ei chanu gan Bryn Terfel o flaen dorf enfawr yn y mileniwm.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: