Ffederaliaeth: Cyfle ynteu Magl?

23 Maw

Yn Sylw, rhif 1 (Awst 2009) mae Cynog Dafis yn trafod llyfr newydd David Melding AC, Will Britain Survive beyond 2020? ac yn gweld rhai pethau yn ei ddadl yn adleisio rhyw bethau a ddywedais innau ychydig flynyddoedd yn ôl.  Gallwn ddadlau ynghylch ystyr ‘adleisio’: go brin fod Mr. Melding yn gwneud ei bwyntiau am fy mod i wedi eu gwneud eisoes; ond os golygir fod y ddau ohonom, yn dod o gyfeiriadau gwahanol iawn a chydag amcanion gwahanol, wedi digwydd taro ar rai o’r un pethau, mae hynny’n berffaith bosibl.  Beth bynnag, dyma archebu’r llyfr yn syth gan y Sefydliad Materion Cymreig (pris £11.99 a’r cludiant), a’i ddarllen â diddordeb mawr. Ailddarllen rhai o’m hen ysgrifau fy hun hefyd, yn y gyfrol Agoriad yr Oes: copïau’n dal ar gael o’r Lolfa, pris £14.95.  Diolch am y geirda, Cynog!

Cynnyrch y cyfnod rhwng dau refferendwm oedd y rhan fwyaf o’m hysgrifau i, a’r cymhelliad yn gymysgedd, ar y naill law, o ddiddordeb mwy-neu-lai academaidd yn esblygiad syniadau’r Cymry amdanynt eu hunain ynghyd â’r mynegiant llenyddol ohonynt, ac ar y llaw arall awydd i ganfod rhyw ffordd ymlaen dros fryniau tywyll, niwlog y blynyddoedd 1979-97.  Yn sicr nid fy mwriad oedd bwrw’r mudiad cenedlaethol a’r mudiad ymreolaeth yn eu holau, ond y gwrthwyneb.  Rwyf am gofnodi eto na ddywedais air yn erbyn annibyniaeth i Gymru, ar dir moesol, gwleidyddol nac economaidd.  Awgrymais yn unig fod rhyw bethau – pethau dwfn a gwydn iawn –  yng ngolygwedd y Cymro arno’i hun a oedd yn awgrymu y byddai rhyw  lun ar ffederaliaeth o fewn Ynys Brydain yn nod ymarferol i gyrchu ato.  A fyddai’n ateb terfynol, ni ddywedais.  Oherwydd, yn un peth, byddem yn sicr, hwyr neu hwyrach, o ddod wyneb yn wyneb â ‘gwir broblem Ynys Brydain’ (AYO, t. 97). Hanfod y broblem honno yw bod esblygiad, hunaniaeth a hunanganfyddiad yr Alban yn dra gwahanol i eiddo Cymru, ac yn cyfeirio’n fwy diamwys tuag at annibyniaeth.  Cwestiwn pellach yw sut y byddai Lloegr yn cymryd at undeb ffederal neu led-ffederal.  Wedi pallu o’r wladwriaeth unedol a sicrhaodd lwyddiant Lloegr dros nifer o genedlaethau, onid annibyniaeth fyddai ei dewis hi?  Y rhai ohonom a fu’n darllen tipyn ar y Daily Telegraph dros y blynyddoedd diwethaf, gwelsom arwyddion o duedd i feddwl felly.  Pen draw’r duedd fyddai cicio’r Cymry allan.  Fe enir rhai cenhedloedd yn annibynnol, mae eraill yn ennill annibyniaeth drwy ymdrech, ac mae eraill eto y gwthir eu hannibyniaeth arnynt gan amgylchiadau. Un pryder sy’n codi ei ben weithiau yw a fyddai Cymru’n seicolegol barod ar gyfer amgylchiadau felly pe baent yn ei goddiweddyd.

Mae amcan Mr. Melding yn wahanol, sef diogelu’r undeb. Cred fod y wladwriaeth unedol bellach yn ansefydlog, ac mai cofleidio rhyw ffurf ar ffederaliaeth yw gobaith y Deyrnas os yw i oroesi ‘tymestl o genedlaetholdeb’.  A siarad o’r ochr hon, ni allaf ddweud fy mod yn clywed dim o sën y dymestl ar hyn o bryd, ond fel y pwysleisia Mr. Melding mae grymoedd yn gweithio dan yr wyneb drwy’r adeg, a gall pethau ddigwydd yn sydyn weithiau.  A rhoi un enghraifft yn unig, pan gyhoeddodd Gwynfor Evans Diwedd Prydeindod yn 1981, pwy fyddai’n proffwydo yr ysgrifennid y llyfr nesaf ar yr un testun gan wleidydd Ceidwadol, aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymreig, yn ei ddisgrifio’i hun fel ‘cenedlaetholwr’ ac yn annog ei gyd-Dorïaid i wneud yr un modd?

Gobaith gwreiddiol Mr. Melding, meddai, oedd ‘hyrwyddo dehongliad Torïaidd o hanes y genedl Gymreig o fewn y wladwriaeth Brydeinig’.  Ond wrth ddarllen y llyfr, ac yna wedi ei orffen, yr hyn a welaf i yw dehongliad a fydd yn newydd, yn anghyfarwydd ac yn agoriad llygad i Dorïaid yn anad neb. Dyma inni Gildas, Beda, Pelagius, Gwrtheyrn, Sieffre o Fynwy, Gerallt Gymro, y Gododdin, y Mabinogi, Armes Prydain, Richard Price, Iolo Morganwg, David Jones, John Davies, R.R.Davies a Gwyn Alf Williams; rhyngddynt yn cyflwyno stori go wahanol i honno lle mae ‘Lloegr Eingl-Sacsonaidd’ yn dilyn ‘Prydain Rufeinig’, a lle’r arweinir ymlaen drwy Alfred a’r Cacennau, Magna Carta a Gwragedd Harri VIII at ‘eu Godidocaf Awr’. Yn gynyddol wrth ddarllen ymlaen, cefais fy hun yn gofyn cwestiwn, ac efallai y bydd rhai o’r darllenwyr Ceidwadol yn ei ofyn hefyd:   ble mae’r Dorïaeth?  Gyda phob tudalen disgwyliwn ryw chwiff o’r  brandi a’r sigârs, rhyw gip ar y bochau cochion dicllon, rhyw ebwch gan y Llew Prydeinig – neu man lleiaf rhyw amddiffyniad go egnïol o’r farchnad rydd a threthi isel ynghyd ag ymosodiad ar ‘ormod o lywodraeth’. Ond dim o’r pethau hyn: sy’n awgrymu y bydd gan dipyn o Dorïaid Cymru dipyn o ffordd i’w thrafaelio eto os ydynt am gofleidio Torïaeth Mr. Melding.  Faint ohonynt fydd yn darllen y llyfr, nis gwn.  Ond gan mai yr awdur yw eu cyfarwyddwr polisi, byddai’n well iddynt wneud. Yn wir, rwy’n gobeithio y gwnânt, oherwydd fe gânt drafodaeth olau, ddiddorol, adeiladol, un sy’n rhydd o rai o’r  rhagdybiau mwyaf llyffetheiriol ynghylch sefyllfa’r Cymry.

Mae rhai o’r dyfarniadau yn gonfensiynol, ond nid llai cywir am y rheswm hwnnw cofier.  Mae hefyd nifer o ddyfarniadau sydd yn ffres ac annibynnol ac wedi eu mynegi’n fachog.  Rhaid croesawu’r gweld clir a’r dweud croyw ar sawl testun.  Amheuir y ddogma gyffredin nad oedd y fath beth â  ‘chenedlaetholdeb’ cyn y Chwyldro Diwydiannol, neu cyn y Diwygiad Protestannaidd.  Gwrthodir rhoi unrhyw goel i’r enllib Llafuraidd cyfarwydd fod Saunders Lewis yn ‘pro-fascist’.  Cydnabyddir athrylith Iolo Morganwg a phwysigrwydd gwleidyddol creu Gorsedd y Beirdd, ‘an act of  towering genius’.  Dywedir y gwir am gomisiwn Kilbrandon, rhagredegydd refferendwm 1979, ‘its chaotic and prolix report’.    Atgoffir ni peth mor ddiweddar mewn hanes yw’r Deyrnas Gyfunol fel yr ydym ni’n ei hadnabod, mor fyr fu einioes yr Ymerodraeth Brydeinig, a chyn lleied hefyd y galar ar ei hôl. Ond pwysleisir yr un pryd mai’r Cymry oedd awduron y syniad o un wladwriaeth yn Ynys Brydain, gwirionedd a anghofiwn yn rhy aml.  Teflir heibio’r ofergoel bod rhyw ‘werthoedd democrataidd creiddiol’ yn diffinio Prydeindod; nid yw’r rheini, medd Mr. Melding yn hollol gywir, ond gwerthoedd unrhyw wladwriaeth ryddfrydol fodern.  Mae ganddo hefyd bethau na allant ond bod yn gaswir i’w blaid ei hun, mwyaf arbennig ei chyfraniad alaethus  yn nghyfnod Salisbury, Balfour, Bonar Law a Carson, sef can mlynedd union yn ôl, tuag at ddwysáu problem Iwerddon:   ‘awr dduaf a mwyaf dinistriol y Blaid Geidwadol’. O na bai rhyw Dori wedi cyhoeddi’r gwirionedd hwn ddechrau’r 1970au, fel ag i osgoi ailadrodd rhai o’r un camweddau gan lywodraeth Heath.

Yn gynnar iawn yn y llyfr (t. 4) fe welir yn glir ac fe ddatgenir yn groyw un ffaith sylfaenol am ymwybyddiaeth Brydeinig a pherthynas pobloedd Prydain.  Y ffaith honno, a ddylai fod yn fan cychwyn pob ystyriaeth bellach, yw mai yr un peth yw Prydeindod a Seisnigrwydd i’r Sais, ac mai  rhywbeth i’r bobloedd Geltaidd yn unig yw’r ‘cenedligrwydd dwbl’. Bydd rhai ohonom yn adnabod hon yn syth fel ‘dadl J.R.Jones’ (awdur na chyfeirir ato, a hynny’n rhyfedd braidd, o sylwi ar amrywiaeth ac addasrwydd ffynonellau’r ymdriniaeth).  Ys gwn-i a gytunai Mr. Melding â cham nesaf ymresymiad JRJ, mai dim ond un wir genedl sydd yn Ynys Brydain, cenedl y Saeson?

Cloriennir annibyniaeth a ffederaliaeth, y ddwy yn eu tro, a’r un mor ystyriol y ddau dro, heb chwythu na rhefru.  Y casgliad dan y pen cyntaf yw nad oes dadl absoliwt yn erbyn annibyniaeth, ac y gallai fod yn iawn mewn amgylchiadau arbennig petai’n ddewis pendant y bobl.  Am ffederaliaeth, dodir o’r neilltu yn deg ac yn daclus y gwrth-ddadleuon mwyaf cyffredin:  nad yw’r bosibl rhwng unedau anghyfartal eu maint; ei bod yn groes i gymeriad ‘organaidd’ cyfansoddiad anysgrifenedig Prydain; ei bod yn gymhleth; y byddai’n arwain at chwalfa.  Ni saif yr un o’r gwrthwynebiadau hyn, medd Mr. Melding.  Ei gasgliad hollol deg yw nad oes dim o’i le ar annibyniaeth o ran egwyddor … ond bod yn well ganddo ffederaliaeth.

Gofyn wedyn (t. 215), pam y mae cenedlaetholwyr yn ofni’r ateb ffederal?  Mewn ateb i’r cestiwn, dywedaf ddau beth. Yn gyntaf, nid wyf mor sicr eu bod.  Dyfalaf yn hytrach nad gwrthwynebus ydynt, ar hyn fel ar bethau eraill, ond rhy ddiog i feddwl rhyw lawer. Yn ail, ceisiaf osod, mor glir ag y gallaf, yr hyn sydd, neu a allai fod, yn wrthwynebiad dilys a sylfaenol o du cenedlaetholwr. Ar fwy nag un cyfrif byddai ffederaliaeth yn ateb atyniadol, yn cynnig setliad y gallai mwyafrif da o’r etholaeth Gymreig fod yn gysurus gydag ef, yn dod ag amrediad o bwerau gwir fuddiol, ac yn gosod statws Cymru fel cenedl tu hwnt i bob amheuaeth.  Yn erbyn hynny mae’r pryder y byddai’n ateb rhy braf, ac y byddai’n gosod atalfa ar ‘y broses’, proses a allai, mewn amgylchiadau arbennig, arwain at rywbeth mwy a gwell.  Ai cyfle a fyddai, ynteu magl?  Yn rhan o wladwriaeth ffederal,  ni byddai Cymru’n aelod o’r Gymuned Ewropeaidd nac o’r gymuned fyd.  I genedl-wladwriaethau annibynnol yn unig y mae’r aelodaeth honno’n agored.  Mae Luxembourg yn aelod, nid yw Catalunya  – mae mor syml â hynny.  Byddem, drwy dderbyn ffederaliaeth, yn fforffedu’r hawl i unrhyw bresenoldeb rhyngwladol; yn gyfnewid byddem yn prynu’r moddion a’r rhyddid i drefnu’r rhan helaethaf o fywyd Cymru yn ôl ein goleuni ac i gwrdd â’n hangen.  Pe bai hynny’n cynnwys y moddion i ddiogelu’r Gymraeg a rhywsut yn y byd i’w hadfer, a fyddai’n ddigon o gyfnewid am bopeth arall?  Daliaf i gael pyliau o feddwl felly.

Soniaf cyn terfynu am rai cwestiynau a rhai anawsterau eraill y mae darllen y llyfr wedi fy ngyrru i’w hailystyried.  Hwyrach y gall rhai o’r darllenwyr  gynnig atebion lle rwyf yn anwadalu.

Trefn ffederal ar sail sofraniaeth gwahanol genhedloedd Prydain, dyna weledigaeth Mr. Melding, ac nid wyf yn amau dim ar ei diffuantrwydd. Un o broblemau Cymru, hyd y gwelaf i, yw sut i ddatgan y sofraniaeth.  Nid yw’n broblem i’r Alban, gyda’i chyfundrefnau cyfreithiol ac addysgol ar wahân, ei chof am senedd a brenhiniaeth, ei hamrywiaeth o symbolau poblogaidd.  Am Loegr, mae hi’n cyhoeddi  ei sofraniaeth bob dydd o’r flwyddyn drwy ryw ddefod neu’i gilydd, ac yn cyflogi teulu brenhinol i fod yn ganolbwynt y ddefodaeth.  Er mor gyfoethog yw Cymru mewn rhai cyfeiriadau, mae hi’n dlawd o symbolau a sefydliadau i’w hatgoffa iddi fod, rywdro cyn 1997, yn genedl wleidyddol  – cred rhai na fu.  Wn i ddim a allwn yn ddiogel fynd yn ôl i’r flwyddyn 383, pan ‘aeth Macsen Wledig o Gymru a’n gadael yn genedl gyfan’; peryg y byddai rhywun yn gofyn ble mae’r dystiolaeth.  Ond yn sicr gallwn fynd yn ôl i 1404. Ailagor Senedd Machynlleth, ar ôl sicrhau iddi sylfaen ddemocrataidd a demograffaidd briodol, a rhoi iddi ran yn llywodraeth Cymru, dyna, fe ymddengys i mi, y ffordd orau ac efallai’r unig ffordd o gyhoeddi’r sofraniaeth honno sy’n beth mor ganolog yng ngweledigaeth a strategaeth wladgarol Mr. Melding.  Byddai’n fodd o ddatgan nad datganoli yw’r cyfan o ymreolaeth; byddai’n rhywbeth gweladwy, diddorol, hanesyddol, gyda’r elfen o ramantiaeth sydd, fel y gŵyr y sefydliad Seisnig yn well na neb, yn un o anhepgorion gwleidyddiaeth lwyddiannus.

Cymru, Lloegr a’r Alban, ie, iawn.  Ond beth am Ogledd Iwerddon?   Byddai raid i unrhyw Geidwadwr feddwl a llyncu’n galed iawn cyn hepgor honno o’r undeb ffederal; ar y llaw arall, sarhad ar yr Alban a Chymru, heb sôn am Loegr, fyddai eu gosod mewn unrhyw fodd ar yr un gwastad â’r Chwe Sir. Os cenedl ddiwladwriaeth fu Cymru, gwladwriaeth ddigenedl fu, ac yw, Gogledd Iwerddon fel yr ydym wedi ei hadnabod oddi ar 1920. Nid oes ateb yn y pen draw ond i Ulaidh helaethach, y dalaith hanesyddol, ddod o hyd i’w dyfodol mewn undeb arall.

Down yn awr at anawsterau creiddiol, bron na ddywedem ‘clasurol’, sef y rhai y mae a wnelont â rhannu cyfrifoldebau.  Wedi cytuno mai’r llywodraeth ganolog, neu ffederal, sy’n rheoli mewnfudiad, fe’n gadewir ni Gymry â chwestiwn caled, pwy sy’n rheoli mewnlifiad?  A fu cwestiwn llai academaidd erioed? Cyn bwysiced, pwysicach fe ddywedai rhai, yw cwestiwn ‘amddiffyniad Ynys Brydain rhag estron genedl’, a dyfynnu testun awdl un o hen eisteddfodau’r Gwyneddigion.   Ganed Plaid Genedlaethol Cymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf, gyda’r egwyddor ‘martsied Lloegr ffordd y myn y tro nesaf, peidied â disgwyl i ni fartsio gyda hi’, egwyddor leiafrifol a hynod amhoblogaidd, ond un ddiosgoi wrth ddiffinio cenedlaetholdeb Cymreig modern. O fudiad a fu’n hynod  eclectig ar nifer o bethau eraill, fe gadwodd y Blaid yn bur gyson at yr egwyddor hon, tan y diwrnod ychydig dros ddwy flynedd yn ôl pan estynnodd yr arweinyddiaeth groeso brwd i Academi Filwrol Sain Tathan. Yr unig reswm y gallaf feddwl amdano pam nad yw trwch yr aelodau eto wedi galw’r arweinwyr yn chwyrn i gyfrif yw eu bod yn methu â choelio’u clustiau.

Rwy’n credu ein bod yn dod yn awr at y fan lle mae’r llwybrau’n gwahanu. Mae hyn nid am fod Mr. Melding yn Dori; byddai unrhyw wleidydd Llafur llwyddiannus yn cymryd yr un safbwynt yn union.  Ysgrifenna (t. 219): ‘There are too many grey areas where devolved administration can compete for jurisdiction with Westminster.  The SNP’s anti-nuclear stance on defence illustrates the danger.’   Gobaith Mr. Melding yw y byddai trefniadaeth ffederal dan gyfansoddiad ysgrifenedig yn symud yr amwysedd hwn gan adael cyfrifoldeb amddiffyn yn derfynol ddiamwys yn nwylo’r llywodraeth ganolog.  Darllenwn yn wir am ddadl ddicllon (‘angry exchange’, fel y dywedir) yn San Steffan yn ddiweddar: David Cameron yn haeru, ‘fe all llywodraeth y DU leoli Trident ym mha fan bynnag y myn’, ac Alex Salmond yn ateb, ‘ddim yn yr Alban’.  Dros yr hanner can mlynedd diwethaf, ac yn brigo i’r wyneb bob hyn a hyn, bu traddodiad ymhlith cenedlaetholwyr Cymreig ar yr adain dde o fynnu nad yw pwnc arfau niwclear yn berthnasol o gwbl i’r achos cenedlaethol, ac y dylid gwahaniaethu rhyngddo a mater Penyberth, a oedd yn effeithio’n uniongyrchol ar dir Cymru ac ar y Gymraeg. Nid wyf erioed wedi cytuno. Oherwydd yn union fel y crewyd yr undeb i fod yn galon ymerodraeth, yr un modd fe gynhelir y rhwysg milwrol er mwyn parhau’r undeb.  Os gall cenedlaetholwyr yr Alban a Chymru gyfrannu rhywbeth, bach neu fawr, tuag at amddifadu Lloegr o’i harf niwclear, rhaid ystyried hynny’n  rhan o’u cenhadaeth  hanesyddol. I’r Cymry, dyma’n wir fyddai Dial Dafydd ap Gruffydd.

A ydym i’w chrynhoi hi felly:  annibyniaeth, diwedd Trident; ffederaliaeth, cadw Trident? Ac ai dyma’r pwynt lle mae cenedlaetholwyr yn ffarwelio â Mr. Melding gan ddiolch iddo am lawer o bethau difyr a chall? I awgrymu ateb, rwyf am fentro nid yn unig y peth ofer hwnnw, dyfalu, ond hefyd ac am y tro y peth gwirion hwnnw, darogan.  Mae’n ymddangos i mi y gallai llywodraeth Albanaidd ffederal, ddim llai na llywodraeth annibynnol, petai’n dewis, ei gwneud hi’n amhosibl cadw Trident yn Aber Clud.  Ond cyn i hynny ddigwydd, peidier â synnu gormod ped achubid y blaen, ac osgoi’r  embaras mawr yng nghoridorau grym, drwy benderfyniad i beidio ag adnewyddu’r arf drudfawr.  Rhydd i bawb ddehongli’r penderfyniad wedyn, yn ôl ei chwaeth ei hun, fel un mawrfrydig gan Brydain (cyffelyb i derfynu’r gaethfasnach ers talwm), neu fel un pragmataidd i ailddosbarthu costau arfogaeth.  Na synner, ymhellach, os bydd y Ceidwadwyr wedi deall hyn o flaen Llafur.  I ddarllenwyr y Telegraph mae arwyddion bron bob dydd.  Yr hyn sydd wedi rheoli ymddygiad Llafur mewn swydd, bron o’r cychwyn cyntaf, yw ofn colli Lloegr Ganol, neu a’i roi fel arall, ofn y Torïaid.  Yr oedd yr un peth yn union yn wir am y Rhyddfrydwyr o’u blaenau.  Nid oes raid i’r Torïaid ofni’r Torïaid, oherwydd hwy yw’r Torïaid.

Heddiw, 18 Tachwedd 2009, dyma adroddiad Confensiwn Cymru Gyfan i law.  Gwelaf fy enw fel un o’r tystion drwy’r Rhwydwaith.  Yr hyn a anfonais fel tystiolaeth oedd drafft cynharach o’r hen ysgrif hon, a sgrifennais ddechrau Awst.   Dof yn ôl hefyd, yn fyfïol, at fy hen lyfr Agoriad yr Oes, y cyfeiriodd Cynog Dafis mor garedig ato.  Ryw ddiwrnod ym mis Chwefror mi es â bwndel bach o gopïau i gyfarfod â chynrychiolwyr y Confensiwn a oedd yn cynnal eu stondin mewn canolfan siopa ym Mangor.  Nid oedd dim un ohonynt am brynu copi, pawb â’i esgus: ‘ni’n gorfod bod yn niwtral’, ‘’sdim  arian ’da fi’.  Cytunodd un ohonynt i wneud nodyn o’r teitl, y cyhoeddwr a’r pris a sôn wrth gadeirydd y Confensiwn amdano. A gafodd ef ei gopi, a’i ddarllen, nis gwn, oherwydd nid oes llyfryddiaeth o ffynonellau printiedig gyda’r adroddiad. Yr oeddwn wedi rhyw led-obeithio am Syr Emyr:

A phan ddaw ef i adrodd,
Os na wnaiff fy nghofio i,
O cofied David Melding,
Sydd, er ei fod yn Dori, yn dweud fwy neu lai yr un peth â mi.

Ond fe ddywed y Confensiynwyr, mae’n debyg, mai maes eu llafur hwy oedd pwerau’r Cynulliad Cenedlaethol, ac agweddau etholwyr Cymru tuag at helaethu’r rheini. Nid oedd disgwyl iddynt fwrw’u golygon tuag at diroedd pell ffederaliaeth ac annibyniaeth, ac nis gwnaethant.  Am annibyniaeth, y cyfan a ddywedir yw fod rhyw wyth y cant o’i phlaid, a llawer yn ei hofni, neu, a bod yn fanylach, yn ofni bod ‘pwerau llawn’ yn gyfystyr â hi.  Wrth ddarllen yr adroddiad yn gyflym heddiw, methaf â gweld yr un gair yn dechrau â ‘ffed-‘.

Pwnc at rywdro eto, mae’n ddiau.  Popeth a ddywedaf o hyn i’r diwedd, fe’i dywedaf fel un na waredodd byth ei ffobia o refferenda oddi ar yr ail o Fawrth, 1979.  Pan ac os daw dydd ceisio barn y Cymry mewn refferendwm eto, ni bydd prinder o ddewisiadau posibl, ond faint ohonynt a fydd yn cyrraedd y papur pleidleisio sy’n gwestiwn arall. Am ddewis (1),   cau’r Llywodraeth a’r Cynulliad a phopeth sydd yn y Bae, a throsglwyddo’r siop, y merlyn a’r drol unwaith eto i ofal rhyw William Hague neu ryw John Redwood, fel y bu yn y dyddiau gynt, fe awgryma’r adroddiad fod y gefnogaeth iddo yn llai nag y byddwn i wedi disgwyl.

Mae’n debyg y bydd yno’r dewis (2) o aros yr un fath.  (3) ‘Senedd lawn’?  ‘Yn aml,’ medd yr adroddiad (adran 6.2.6) , ‘câi “pwerau llawn” ei gamddehongli gan godi ofn ar rai a oedd yn cysylltu’r term ag annibyniaeth.’   Ond, Gonfensiynwyr, mae ‘pwerau llawn’ yn gyfystyr ag annibyniaeth; neu fe fyddant, hyd oni rowch chi ddiffiniad o ‘pwerau llawn’ sy’n dangos y gwahaniaeth.   Beth am (4) cydraddoldeb â’r Alban?  Diddorol fyddai cael ymateb y Cymry i hwn.  Os oes dadl yn ei erbyn, pwy sydd am godi ar ei draed i’w rhoi? Ac a oes rhywun am sbelio’r cwestiwn yn gwbl eglur?  – ‘a hoffet ti, Gymru, fod yn gydradd â’r Alban ond gan barhau, wrth gwrs, yn israddol ac atebol i Loegr?’.   Dyna ichwi bedwar dewis.  Ond daliwch arni … mae yna un posibilrwydd arall (5) a fyddai o leiaf yn werth ei ystyried.  Cydraddoldeb rhwng Cymru, yr Alban a Lloegr, oll o dan y goron  — neu, a dilyn awgrym gogleisiol ond nid disynnwyr Mr. Melding yn ei Brolog, o dan ddwy goron?  Nid oes dim yn yr adroddiad i awgrymu y bydd y cwestiwn hwn ar y papur pleidleisio.  Ond dyma’r cwestiwn a fyddai’n ei setlo-hi, ac efallai y daw ei awr.

(Y FANER NEWYDD, rhifyn 50, Gaeaf 2009.  Diolch i’r golygyddion am ganiatâd caredig i ailgyhoeddi’r ysgrif hon.)

Advertisements

Un Ymateb to “Ffederaliaeth: Cyfle ynteu Magl?”

Trackbacks/Pingbacks

  1. Cydradd â phwy ? | Blog Glyn Adda - Mawrth 6, 2015

    […] ffederalaidd, yr oedd fy ffydd ffederal innau, gyfryw ag oedd, yn dechrau pallu. (Gweler blogiadau 23 Mawrth 2012  a 24 Ionawr 2014.)  Pam y bu hyn?  Pethau. Digwyddiadau.  ‘Events, dear boy, events,’ […]

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: