Mae Glyn Adda am dynnu eich sylw at waith llenorion llawer mwy nag ef ei hun, sydd ar gael bellach yn y gyfres ‘Cyfrolau Cenedl’. Cyhoeddwyd eisoes:
1. Canu Twm o’r Nant £15
2. Twm o’r Nant : Dwy Anterliwt £15
3. William Williams : Prydnawngwaith y Cymry £10
4. Emrys ap Iwan : Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys £8
Llawer rhagor i ddod. Os methwch â’u gweld yn eich siop lyfrau, cysylltwch â: dalennewydd@yahoo.com
Mae rhifau 1 a 2 ar gael gyda’i gilydd fel PECYN TWM O’R NANT. Bargen i chi am £25 (yn lle £30).
Hefyd PECYN LLANDYGÁI, sef Prydnawngwaith y Cymry ynghyd â chofiant yr awdur, Un o Wír y Medra (Gwasg Gee, 1999) am y pris manteisiol o £20 (yn lle £27.50).
Darllenais erthygl wych yn Barn yn ddiweddar gan Dafydd Glyn Jones yn myfyrio beth fyddai ymateb Twm o’r Nant (neu Emrys ap Iwan, dw i didm yn cofio rwan!) petai’n gweld Cymru heddiw. Rhoddodd awydd i mi ddarllen ei gyfrol Canu Twm o’r Nant, yn enwedig gan mod i’n frodor o ardal Dinbych.
O ddarllen cofnodoin eraill y blog yma, dw i’n sylwedodli mai chi ydy Dafydd Glyn Jones. Doh! Gwych eich bod yn blogio.