Ymlaen wysg ein cefnau?

23 Maw

Dyma bôl Gŵyl Ddewi’r BBC yn mesur agweddau’r Cymry at wahanol raddau o ymreolaeth. Bron i draean yr etholwyr (64%) yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gael yr hawl i amrywio trethi – hawl i bennu pob treth medd 28%, hawl i bennu rhai trethi medd 36%.  Ond yr un pryd, dim ond 7% yn ffafrio annibyniaeth  – yn codi i 12% petai’r Alban yn dod yn wlad annibynnol.

Stori ddigon cyson oedd gan arolwg YouGov fis ynghynt, dim ond 33 y cant o gefnogwyr Plaid Cymru o blaid annibyniaeth, hyd yn oed petai’r Alban yn ei chael.   Yr oedd 42 y cant o’r Pleidwyr am weld ‘mwy o bwerau’, ond nid annibyniaeth. Ni ddywed YouGov ddim byd pellach am natur na graddfa’r pwerau hyn. Pe byddid yn pwyso ar y Pleidwyr, y peryg yw y byddai cyfran ohonynt yn dweud ‘senedd lawn’, – ymadrodd yr un mor ddiystyr â’r enw ‘Plaid’ ei hun.

O ffigurau YouGov eto, tynner allan y 33% (annibyniaeth) a’r 42% (mwy o bwerau), a dyna adael 25% o Bleidwyr heb awydd am ddim byd yn rhagor. Tybed, tybed ai cofio y mae’r rhain rybudd Saunders Lewis, fod yr iaith yn bwysicach na hunanlywodraeth, ac y byddai ei thranc, o fethu â chwrdd â rhai amodau,  yn gynt dan ymreolaeth na than lywodraeth Loegr?  Ai am ohirio y maent tan y dydd y bydd ‘arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o’n gwlad’?  Na, tynnu coes yr wyf wrth ofyn y cwestiwn. Yn yr hanner can mlynedd oddi ar Tynged yr Iaith ni chwrddais erioed ag un etholwr o unrhyw blaid, ac ni chlywais am yr un, a oedd yn ymwrthod â mesur o ymreolaeth am y rheswm hwn, neu a bleidleisiodd ‘na’ mewn un o’r tri refferendwm am yr un rheswm.

A barnu wrth arolwg YouGov eto, daeth ‘mwy o bwerau’ yn ddewis mwyfwy poblogaidd ar draws y pleidiau, gyda 42% drachefn o’r holl atebwyr, meddir, yn cefnogi ‘datganoli pellach’; a dim llawer llai, 39%, o bleidleiswyr Llafur yn ffafrio’r un peth.

Rywle rhwng ‘datganoli’ ac ‘annibyniaeth’ fe ddylai fod y dewis ffederal.  Ymddengys nad oedd yr un o’r ddau arolwg hyn wedi holi dim yn ei gylch.

Yn draddodiadol, polisi’r Rhyddfrydwyr oedd ffederaliaeth. Faint ohono sydd wedi ei etifeddu gan y Democratiaid Rhyddfrydol, mae’n anodd dweud. Y dyddiau hyn ni chlywir hwy yn ei annog gydag unrhyw eiddgarwch, ac mae’n arwyddocaol mai o fewn y ffrynt Unoliaethol y cyfrifir Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban yn ystod y drafodaeth bresennol.  Charles Kennedy (3 Mawrth) yn galw ar Lafurwyr a Thorïaid i ymuno ag ef yn yr ymgyrch ‘Na’, – ond yn addo ymgyrchu dros fwy o bwerau i Senedd yr Alban ar ôl cael y  ‘Na’. Dyma inni Ddemocrat Rhyddfrydol i’r gwraidd.

Anfarwol!

Drigain mlynedd yn ôl, yr oedd carfan fechan o ffederalwyr o fewn y Blaid Lafur yng Nghymru. Y rhain oedd cefnogwyr ‘Ymgyrch Senedd i Gymru’ a  ‘Mesur S.O. Davies’, ddechrau’r 1950au. Ni ddaeth dim o’r mesur, fel y gwyddom, ac ni bu ‘ffederal’ yng ngeirfa Llafur wedyn.  Ond ddiwedd Ionawr fe ddywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ‘bod angen dechrau paratoi’n awr ar gyfer y posibilrwydd o Alban annibynnol’, ac y ‘dylai’r ddadl am ddyfodol yr Alban fod yn fater i wledydd Prydain i gyd’ (adroddiad GOLWG).  Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn trefnu cynhadledd ddiwedd Mawrth dan yr enw ‘Wales and the Changing Union’.

Yn ddiddorol iawn, lleisiau Ceidwadol y dyddiau hyn sy’n ceisio ennyn trafodaeth ar yr ateb ffederal. Dyma fyrdwn Paul Davies mewn datganiad diweddar, a David Melding mewn llyfr yn 2009. Pam y diddordeb, a all ymddangos yn annisgwyl, o’r cyfeiriad hwn?  Beth yw prif apêl ffederaliaeth y dwthwn hwn i ddau Geidwadwr, sydd hefyd yn ddau o ddynion callaf y Cynulliad? Y byddai’n rhoi pwerau ychwanegol i Gymru, ynteu y byddai’n fodd o ddiogelu’r Undeb ar sylfaen newydd? Tra fydd ‘Ceidwadwr’ yn gyfystyr ag ‘Unoliaethwr’ (a chofiwn nad oes raid i hynny barhau’n dragwyddol), rhaid casglu mai’r ail; ond ni olyga hynny nad ydynt yn ddiffuant ynghylch y cyntaf. (Gwahanol yw barn trwch eu pleidleiswyr, os coeliwn ffigurau YouGov: 30% o Geidwadwyr Cymru am barhau â’r system bresennol petai’r Alban yn ymadael, a chymaint â 40% am ddileu llywodraeth Cymru yn llwyr, — peth y mae gan lywodraeth y Deyrnas, cofiwn bob amser, yr hawl i’w wneud unrhyw adeg y mae’n dewis.  ‘Grym a ddatganolir, grym a gedwir,’ ys dywedodd J.Enoch Powell flynyddoedd lawer yn ôl.)

Adolygiad ar lyfr diddorol David Melding yw’r eitem ‘Ffederaliaeth: Cyfle ynteu Magl?’ yr wyf yn ei hatgynhyrchu yma gyda chaniatâd Y FANER NEWYDD.  Ysgrifennais yr adolygiad cyn etholiad diwethaf Senedd yr Alban, a chyn y refferendwm yng Nghymru, heb ragweld canlyniad y naill na’r llall.  Mae’r hen ysgrif felly wedi ei goddiweddyd gan ddigwyddiadau, ond gadawaf hi fel yr oedd, gan obeithio bod ynddi rywbeth a ddeil o ddiddordeb.

Dau sylw cyn gorffen.

Yn gyntaf, sylwn nad yw ffederaliaeth ar agenda Cenedlaetholwyr yr Alban o gwbl. Annibyniaeth neu ‘eithaf datganoli’ yw’r ddau ddewis. Daliaf i feddwl mai’r ateb ffederal fyddai’n mynd â hi yn yr Alban petai’n cael ei gynnig, a daliaf i feddwl hefyd y gallai ddechrau cydio yng Nghymru. Onid i’r cyfeiriad hwnnw, heb roi enw ar y peth, y mae’r 64% yna yn y pôl Gëyl Ddewi yn cyfeirio?  Ond tebyg fod gan Alex Salmond ei reswm da ei hun dros beidio â’i gynnwys. Fel rwyf yn awgrymu yn yr adolygiad, fe allai brofi’n ateb rhy rwydd, rhy gyfforddus. A gallai ‘devo max’, drwy fod yn ateb dros-dro, llai sefydlog, baratoi’r ffordd yn well ar gyfer y nod o annibyniaeth.

Yn ail, a allwn ni gytuno, unwaith y byddai’r Alban wedi mynd, mai gwastraff amser fyddai unrhyw drafod ar ffederasiwn o’r hyn a fyddai ar ôl?  Undeb o Loegr, Cymru a rhan o dalaith Wledd?  Mae’n swnio’n rhyw greadur ungoes, unglust, hynod ansefydlog. Anodd ei ddychmygu’n ateb unrhyw bwrpas; ac un o ganlyniadau mwyaf tebygol annibyniaeth i’r Alban fyddai gorfodi Protestaniaid Gogledd Iwerddon i ailystyried eu sefyllfa, ac edrych i gyfeiriad arall am ateb.  Ac am Gymru, onid ei thynged  fyddai gwybod ei lle fel yr hyn a fu, a’r hyn ydyw, oddi ar Ddeddfau 1536-42, sef rhan o Deyrnas Loegr?  Tybed nad y 40% yna o bleidleiswyr Ceidwadol sy’n iawn yn hynny o beth?

A fyddai dewis arall?  Mae rhai cenhedloedd a enir yn annibynnol, eraill yn ennill eu hannibyniaeth drwy ymdrech, ac eraill eto y gwthir annibyniaeth arnynt gan amgylchiadau. Soniodd Harri Webb am Gymru’n ‘ymdeithio tuag at annibyniaeth wysg ei chefn’.  Ai ar gyfer hynny y dylem ddechrau paratoi?

Ond gweler yr hen adolygiad eto, rhag ofn ei fod yn taflu peth goleuni.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: