Cofnodion Meic

29 Hyd

Hunangofiant Meic Stephens [:] Cofnodion (Y Lolfa, 2012), £9.95.

‘Torchwch eich llewys, ddyn ifanc!’ oedd cyngor Syr Ifan ab Owen Edwards i Meic Stephens, mewn llythyr a ddehonglodd y derbynnydd, o leiaf, fel un ‘eithaf crablyd a hunanbwysig’. 1966 oedd y flwyddyn. Roedd Meic yn torchi llewys bryd hynny, ac wedi gwneud ers blynyddoedd cyn hynny, ac os oes rhywun rhwng hynny a heddiw wedi torchi llewys dros ddwy lenyddiaeth Cymru, a thros achos ein cenedl drwodd a thro, Meic Stephens yw hwnnw. Torchi llewys fu raid i ninnau hefyd, pawb oedd dan addewid i Meic. Cofiaf eisteddfodau cyfain o ffoi o flaen Meic am fy mod ar ei hôl hi gyda rhyw dasg neu’i gilydd !

Yn yr hunangofiant odiaeth o ddifyr hwn sgrifenna Meic gyda llawer o deimlad am bethau personol a theuluol, a chydag angerdd am y llu pethau cyhoeddus y bu ynglŷn â hwy, gan roi teyrngedau cynnes lle maent yn haeddiannol, ac aml gelpen wirioneddol galed hefyd i bobl yng Nghymru a fu’n euog o ‘lapan’, ‘conan’ a ‘whalu whaldod’.  Mae eisiau’r plaendra hwn; byddai’n dda gennyf petawn wedi gallu arfer mwy arno yn ystod y blynyddoedd, ond daw ychydig yn haws wrth fynd yn hŷn. Cafodd Meic ei hun yn weinyddwr ym myd y celfyddydau, yn fath o fandarin llenyddol am ran helaeth o’i yrfa, ond gall dystio hefyd, ‘sentar ydw i wrth reddf’. Clywodd  beth tyndra rhwng y ddwy agwedd, a sylwyd ar hynny  hefyd gan bobl saff, sefydliadol a gwynai weithiau fod Meic yn ‘wleidyddol’!

Un o’r pethau personol iawn yw’r ymchwil hir am wir hanes teulu ei dad. Yn anuniongyrchol efallai, cafodd hyn ei effaith ar y gweithgarwch cyhoeddus yn ogystal, drwy fod yn rhyw fath o ysgogiad i ddechrau barddoni yn y Gymraeg, ac nid yn unig hynny ond barddoni yn y Wenhwyseg hefyd.  Wn i ddim a fyddai Meic yn cyfrif hon, hen iaith ei ardal er nad iaith ei fagwraeth, yn bedwaredd iaith iddo, ar ôl Saesneg, Ffrangeg a Chymraeg. Saif ei gerddi bellach fel yr ymgais fwyaf estynedig erioed, a’r fwyaf llwyddiannus, i roi lle i’r dafodiaith hon mewn llenyddiaeth, ac mae’r arlliw cryf ohoni drwy’r hunangofiant hwn yn ychwanegu at ei ddiddordeb.

Yr wyf yn awr am gyfyngu’n llym, a sôn yn unig am ddetholiad bach o’r pethau mwy cyhoeddus.

Cafodd Meic brofiad o ddysgu, o gadair Athro, mewn dwy brifysgol.  Mae’n ddeifiol o blaen am y ddwy, er yn gwerthfawrogi rhai pethau yn y naill a’r llall, yn arbennig cyfeillgarwch unigolion. ‘Semester yn Seion’ fu ei arhosiad ym Mhrifysgol Brigham Young, Utah, UDA, lle daeth wyneb yn wyneb â ‘ffydd anhygoel y Mormoniaid’ ac yna benderfynu fod ‘un tymor yn hen ddigon’:   ‘po fwyaf a ddysgwn am y Saint, mwyaf gwrthun y daethant yn fy ngolwg i’.  ‘Gwacter meddwl, hygoeledd a hunangyfiawnder’ oedd yr argraffiadau mwyaf arhosol.  Gwaeth os rhywbeth, tristach, oedd ei brofiad ym Mhrifysgol Morgannwg, sydd bellach wedi trawsfeddiannu ei bentref genedigol, Trefforest, gan ‘achosi rhychfa’ fel y dywed  mewn un man, a chyda’r canlyniad ‘nace lle i fagu plant oedd Trefforest bellach’. ‘Pob math o gybolfa o raddau diwerth’ yw ei grynodeb o ddarpariaeth y brifysgol hon; nodweddid ei myfyrwyr gan ‘ddiffyg gwybodaeth am unrhyw beth ond canu poblogaidd a chwaraeon a rhaglenni teledu’.  ‘R’odd y mwyafrif,’ meddai, nid yn unig yn gwbl anwybodus am y byd cyfoes a hanes gweddol ddiweddar, ond hefyd ‘yn hollol ddi-glem am hanes a diwylliant y trefi lle’u magwyd nhw’.

Cyfyd hyn fwy nag un cwestiwn y dylem fod yn meddwl yn ddifrifol amdanynt ond nad oes ymron neb yn fodlon gwneud, lleiaf oll y sefydliad addysgol yng Nghymru. (1) Ai doeth o gwbl oedd yr hyn a ddigwyddodd ledled y Deyrnas yn ystod y 1970-80au, dynodi’r colegau politechnig yn ‘brifysgolion’?  Onid gwell fuasai cadw’r terfyn rhwng dau fath o sefydliad eithaf gwahanol yn eu hanfod?  (2) Dyma Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant wedi ymuno â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, sef y cyn-goleg politechnig. Peth doeth, o safbwynt Coleg Dewi Sant yn arbennig?   (3) Am y bwriad i wneud yr hyn oll sy’n weddill o Brifysgol Cymru yn rhan o’r un cyfuniad, sef yr hyn a benderfynodd y Cyngor flwyddyn yn ôl mewn awr o wallgofrwydd, mae’n anodd dod o hyd i eiriau. A feddyliodd rhywun, er enghraifft, am yr ymhlygiadau i’r Ganolfan Uwchefrydiau, Aberystwyth? Pawb sydd ag unrhyw ran, neu unrhyw lais, yn y materion hyn, brysiwch, brysiwch i ddarllen tudalennau 188-199 o Cofnodion. Dysgwch, ystyriwch ac edifarhewch os medrwch fodd yn y byd!  (4) Gwêl Meic ddiffygion mawr ym mharatoad y myfyrwyr cyn iddynt gyrraedd campws Trefforest:   ‘Ro’dd y rhan fwyaf o’r myfyrwyr ym Mhrifysgol Morgannwg yn dod o ddosbarth gweithiol Cymo’dd y De. Ro’dd eu tlodi diwylliannol yn dicyn o sioc a siomedigaeth imi. Yn amlwg, dyma blant o’dd wedi eu hamddifadu o bob braint addysgiadol a chymdeithasol. Do’dd dim amcan am wleidyddiaeth ’da nhw ac felly do’n nhw ddim yn gallu newid eu byd.’   Canlyniad, yn rhannol mae’n ddiau, i bron ganrif o stiwardiaeth ‘plaid y gwithwrs’.  Canlyniad hefyd i ddallineb y byd addysgol o’r top i’r gwaelod, ei ddawn i osgoi ffeithiau, a’i ymroad diarbed i ffantasi, gwag siarad, neu a benthyca ymadrodd hoff gan yr awdur eto, ‘whalu whaldod’.

Mater sy’n codi ar fwy nag un tudalen yw cyflwr y wasg yng Nghymru yn y ddwy iaith. Sawl gwaith fe ddeuir yn ôl at y penderfyniad poenus, ddiwedd y 1980au, a dadleuol o hyd, i atal cefnogaeth Cyngor y Celfyddydau i’r Faner a chefnogi sefydlu Golwg.  Am sabwynt gwahanol ar yr un hanes gellir darllen llyfr Hafina Clwyd, Prynu Lein Ddillad, tt. 120-33, 178-81. Pwysleisia Meic drosodd a throsodd mai yr anhawster mawr, a’r hyn a gostiodd einioes Y Faner yn y diwedd, oedd cael unrhyw ffigurau cyson a dibynadwy gan ei pherchenogion, Gwasg y Sir, Y Bala. Yn y mater hwn mae gennyf lawer o gydymdeimlad â Meic ac â Phwyllgor Llenyddiaeth Cyngor y Celfyddydau. Sôn yr ydym, wrth gwrs, am Y Faner fel cylchgrawn yn y 1970-80au, wedi mwynhau cyfnod o adfywiad disglair dan olygyddiaeth Jennie Eirian Davies, ac i’w weld yn dal ei dir dan olyniaeth o olygyddion eraill, ond yn amlwg yn methu â chael dau ben llinyn ynghyd.  Ond mae fy meddwl yn mynd yn ôl yn awr, fel y gwna yn aml, tu hwnt i’r cylchgrawn at yr hen Faner ac Amserau Cymru, y papur newydd a sefydlwyd gan Thomas Gee, gan gymryd i mewn Amserau Gwilym Hiraethog.

Wrth droi dalennau Baner y 1950-60au heddiw, un o’r prif bethau i’m taro yw mor ddarllenadwy ydoedd. Gallech bob amser fod yn hyderus o gyrraedd diwedd brawddeg heb roi eich troed mewn rhyw bwll o gameirio, camramadeg ac felly ddiffyg ystyr. Yr ail beth yw ei bod yn dweud wrthych beth a ddigwyddodd, fel nad oedd raid gwybod y ffeithiau ymlaen llaw er mwyn deall yr adroddiad. Yr ochr negyddol oedd y cyfyngiadau ar yr hyn yr adroddid amdano, a’r diffyg ‘mynd ar ôl straeon’, – llawer o hwnnw’n ganlyniad diffyg adnoddau (pryd yr oedd gan Y Cymro yn yr un cyfnod bedwar neu bump o ohebwyr galluog allan yn y priffyrdd a’r caeau, a threfnwyr busnes ardderchog o weithgar, yn ogystal â’r staff golygyddol).  Ac wrth ddarllen hen rifynnau o’r Faner heddiw mae gofyn inni’n hatgoffa’n hunain o rywbeth arall: er ei bod yn ddarllenadwy, ac yn dweud yn llawn ac eglur yr hyn a ddigwyddodd, yr oedd yr adroddiadau fel rheol dair wythnos yn hwyr, peth a ysgogodd un hen wag i ddweud, ‘pwrpas Y Faner yw, nid dweud y newydd wrthych chi, ond gofalu nad ydych yn ei anghofio’! Ond y peth pwysicaf o ddim, efallai: plentyn radicaliaeth y 19eg ganrif oedd Y Faner tra pharhaodd yn bapur newydd. Yr oedd yn tragwyddol ymgyrchu o blaid rhyw bethau ac yn erbyn eraill, –  ‘achubwn beth-a’r peth!’, ‘ymaith â hwn-a-hwn!’ – o rifyn i rifyn yn ddi-feth. Y canlyniad oedd mynd yn rhagddywedadwy ac yn obsesiynol, ac felly yn ddiflas fel newyddiaduraeth. Ond rhaid gofyn yn ddifrifol wrth feddwl am y wasg Gymraeg heddiw, ie y wasg Saesneg yng Nghymru hefyd, ai yr unig ddewis arall yw peidio ag ymgyrchu dros ddim byd?

Cyfeiriaf at un enghraifft yn arbennig o ddechrau’r haf hwn, a’m hymateb iddi efallai yn dangos fy oed, sef gwahoddiad ofnadwy o ffôl ac anghyfrifol Carwyn Jones i longau tanfor Trident wneud eu cartref yn Aberdaugleddau. Dyma’r peth mwyaf negyddol ac adweithiol a ddigwyddodd yng ngwleidyddiaeth Cymru oddi ar sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol, cyfyd amheuon difrifol ynghylch gwerth y Cynulliad, a dylai gau’r drws ar unrhyw gydweithio rhwng Plaid Cymru a Llafur tra fydd Carwyn yn arweinydd. Lol oedd yr unig gyhoeddiad i fynd i’r afael â’r peth a’i drin mewn modd teilwng o’n traddodiad radicalaidd. Gallaf ddychmygu Gwilym R. a Mathonwy yn yr hen Faner yn dyrnu ar hyn am wythnosau bwygilydd, nid  fel ag i newid meddwl y llywodraeth Lafur efallai, ond i ofalu fod cnewyllyn o’r etholaeth, o leiaf, na châi anghofio beth fyddai gan y gydwybod radicalaidd i’w ddweud am ynfydrwydd o’r fath.

Mater arall, lleiafrifol ei ddiddordeb efallai, ond dangosydd o safonau bywyd a meddwl cyhoeddus yng Nghymru, yw’r hyn yr wyf wedi cyfeirio ato o’r blaen yn yr ysgrif hon: argyfwng Prifysgol Cymru a’r ateb hollol loerig a gynigiwyd iddo y llynedd gan y Cyngor a’r swyddogion. Clod uchel i Karen Owen am gyfres o adroddiadau llawn yn Y Cymro. Ond distaw fel llygod fu gweddill y wasg a’r cyfryngau Gymraeg am hyn, sgandal fwyaf byd addysg yng Nghymru o fewn cof neb ohonom. Pam tybed?

Dim ond un peth a ddywedaf am feddyliau braidd yn drist pennod olaf y llyfr, y dadrith ynghylch y mudiad cenedlaethol a chyflwr pethau yn y Gymru ddatganoledig, – pethau a ddaeth yn themâu nifer o awduron degawd cyntaf ein canrif, yn cynnwys Robat Gruffudd, Arwel Vittle (neu Elis Ddu), Goronwy Jones y Dyn Dŵad, a Meic ei hun.  Wrth rannu llawer o’r siomedigaeth, a gobeithio y daw rhyw awel wynt o rywle eto, – er na wn o ble – daw i’m meddwl sylw trawiadol Adrian Hastings yn ei lyfr da dros ben The Ethnic Origins of Nations (1997), ei bod yn bosibl i bobl, dan amodau hanesyddol arbennig, fynd yn fwy tebyg i wladwriaeth ac yn llai tebyg i genedl. Digwyddodd, meddai, i’r Alban am gyfnod o’i hanes. Ac efallai ei fod yn digwydd i Gymru heddiw.

Yn olaf, i’r byd eisteddfodol. Rhwng 2002 a 2012 fe ymgeisiodd Hwnco Manco, Blorens, Retina, Shasbi, Crambo, Elcawawcs, Fferegs, Coeca, Trostre a Xanthe oll yn eu tro am Goron yr Eisteddfod Genedlaethol; a dyna guro record Sylcos, Pythagoras, (?)Pygmalion, Efnisien, Hud ar Ddyfed a  Penityas yn eisteddfodau 1948-54. Fel Harri Gwynn, fe ddaeth Meic Stephens yn ail neu’n nesaf ati o leiaf ddwywaith, ac fe ddylai fod wedi ennill o leiaf unwaith. Mae cam eisteddfodol yn rhan o hanes yr hen ŵyl; yr ymateb iddo sydd wedi tawelu, rhan o ‘fynd yn llai o genedl’ efallai. Addewir cyfrol, ‘Cerddi’r Llwy Bren’!

Llawer o bethau fel yna, mewn cyfrol ddifyr ac ysgogol tu hwnt.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: