Problem yr Enw – a Phroblemau Eraill

29 Hyd

Mae’n well i bob plaid gael enw, ac rwy’n sylwi fod gan y rhan fwyaf o bleidiau gwleidyddol enwau, sy’n eu disgrifio’n fras: y Blaid Lafur, y Blaid Geidwadol, Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol,  Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig, Plaid Monster Raving Loony  &c. Dyna ni, mae’r enwau yna bob un yn dynodi rhywbeth ac yn cynnig bras arweiniad i’r etholwr. Ond mae un blaid sydd, ers rhai blynyddoedd, wedi gwneud heb enw, neu heb enw ystyrlon, o leiaf. ‘Plaid’ y bu’n ei galw ei hun, fel petai siop yn ei galw ei hun yn ‘Siop’, neu fel petawn i’n cyhoeddi llyfr a’i alw yn ‘Llyfr’.  Mae’r enw’n ddisynnwyr yn Gymraeg, ac yn annealladwy ond i’r sawl sy’n medru Cymraeg, neu o leiaf yn gwybod mai’r cyfieithiad o ‘plaid’ yw ‘a party’.  OS mai ‘Plaid’ yw enw Cymraeg y blaid hon, yna ‘A Party’ ddylai ei henw Saesneg fod.  ‘OS … ,’ meddwn i, ond fe wyddom wrth gwrs nad ei henw Cymraeg yw ‘Plaid’, ond math o law-fer  i gyfeirio ati yn Saesneg; rydym i gyd wedi ei ddefnyddio ar dro. Gwyddom hefyd, pan fyddwn yn ei thrafod yn Gymraeg, na byddwn ni byth yn dweud ‘Plaid’, ond yn hytrach ‘Blaid’, sef talfyriad o ‘Y Blaid’, yn union fel y byddwn ni’n arfer gollwng y fannod yn: siop, lôn, capel, tŷ &c &c.   

            Daeth ‘Plaid’ i fodolaeth swyddogol yn 2006, yr un diwrnod â’r pabi melyn. Ond barnwyd bryd hynny, neu’n fuan wedyn,  y byddai’n well iddi gael is-deitl Cymraeg yn ogystal. Rhoddodd hyn ‘Plaid: Plaid Cymru’, gan ychwanegu at y nonsens, a heb ennill – mentraf feddwl – dim un bleidlais ychwanegol.

            Yn awr deallwn mai’r bwriad yw ei galw, yn Saesneg, ‘The Party of Wales’.  Ai y bwriad yw gadael i’r Cymry Cymraeg yr enw ‘Plaid’, – nad yw’n gwneud unrhyw synnwyr yn Gymraeg?

            Bu i’r blaid hon unwaith enwau Cymraeg a Saesneg cyfatebol, yn dweud yn glir dros beth y safai: ‘Plaid Genedlaethol Cymru’ a ‘The Welsh Nationalist Party’.  O hollti blewyn, fe ellid dadlau nad oedd y cyfieithiadau yn fanwl, ac y dylesid dweud un ai ‘Plaid Genedlaetholaidd Cymru’ neu ynteu ‘The Welsh National Party’. Ond ni chydiodd ‘WNP’ erioed, ac nid awgrymwyd ef. Mabwysiadwyd ‘Plaid Cymru’ yn y 1940au, ac ni bu erioed unrhyw anhawster ynglŷn ag ef; yr oedd yn berffaith ddealladwy i bawb a oedd ag unrhyw ddiddordeb o gwbl.  Ond wedi dechrau mwydro a stompio, mae’n anodd dod allan ohoni.

            ‘Plaid Cymru’ fydd hi i bron bawb ohonom, wrth gwrs, cefnogwyr a gwrthwynebwyr, tra bydd hi, a ‘Welsh Nash’ i rai, — ac nid yn unig i’r gwrthwynebwyr chwaith. ‘Welsh Nash ydw i wsti boi! Ew ia!’ 

            Ond ar draws cwestiwn yr enw, mae hen gwestiwn arall y mae rhai cefnogwyr yn addef ei glywed yn eu pennau y dyddiau hyn. Os cael enw newydd, onid yw’n bryd cael plaid newydd, dan un? 

            Ar 4 Gorffennaf eleni, cafodd rhai ohonom achos i feddwl fod yr hen Blaid Cymru wedi dod yn ôl, o dan yr arweinyddiaeth newydd. Pwnc dadl yn y Cynulliad oedd datganiad diweddar y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fod ‘mwy na chroeso’ i longau tanfor Trident angori yn Aberdaugleddau os bydd raid iddynt adael yr Alban.  Cyflwynodd Plaid Cymro gynnig yn condemnio’r fath alwad. ‘Dyma blaid,’ meddai Glyn Adda wrth wrando’r drafodaeth, ‘sydd wedi rhoi Academi Filwrol Sain Tathan yn derfynol y tu ôl iddi, ac sy’n barod i ddechrau ar y gwaith mawr o ailadeiladu ar ôl trafesti’r blynyddoedd diweddar’. Ni chymerwyd llawer o sylw o’r ddadl gan y cyfryngau yng Nghymru, nac yn wir o’r digwyddiad a oedd yn gefndir iddo; ond mentraf feddwl fod ambell un arall y cynheswyd eu calonnau am ddiwrnod neu ddau. Cyflwynwyd y cynnig gan Simon Thomas, gan ddadlau’n gryno ac yn groyw.

            Beth oedd cymhelliad Carwyn yn estyn y gwahoddiad ffôl, anghyfrifol a di-alw-amdano? Nid oedd neb yn rhyw sicr iawn ar y pryd, nac wedyn. ‘Pryfocio’, awgrymodd rhai.  Mae Glyn Adda’n amau fod yr ateb yn y term ‘Llafur Glas’, a fathwyd tua’r un adeg i ddynodi Llafuriaeth sydd yn amlwg geidwadol, ac am i bawb ddeall hynny, ar bethau perthynol i Brydeindod.  Yr enw, wrth gwrs, sy’n newydd, nid y peth. Dyma Lafur erioed, neu o leiaf oddi ar y diwrnod yn 1914 pan  wrthododd hi arweiniad Keir Hardie.  Yn etholiadau lleol Mai 2012 fe enillodd Llafur Glas fuddugoliaeth nodedig dros ‘Genedlaetholdeb Coch’ Leanne Wood.  Ai rhyw ffordd o danlinellu a dathlu hynny oedd yr ymserchu sydyn hwn yn yr  arfau dinistr, gyda’r neges wedi ei hanelu’n arbennig at gadarnleoedd Llafur Glas, etholaethau Morgannwg a Gwent?  Aeth Carwyn o’i ffordd i ailadrodd ei bwynt ymhen deuddydd neu dri, a’n hatgoffa na chawn ni mo’r llongau tanfor os bydd Cymru’n mynd yn wlad annibynnol. Paul Flynn, y gwladgarwr gorau yn holl wleidyddiaeth Cymru ers llawer, llawer blwyddyn, a’i trawodd hi ar ei phen gyda’i gwestiwn: ‘dadl o blaid ynteu yn erbyn annibyniaeth yw hynny?’ 

            Daeth Llafur allan ohoni ar 4 Gorffennaf drwy gynnig gwelliant, nad oedd hwn yn fater datganoledig. Gwirionedd, y buasai’n well ei gofio ychydig ddyddiau ynghynt. Gwan ddifrifol oedd amddiffyniad Carwyn yn y ddadl: wrth gwrs yr oedd arfau niwclear yn anfoesol, ond byddent yn dod â gwaith, – dadl a ddarniwyd yn syth gan yr ochr arall. Ailadroddodd Mark Drakeford ei wrthwynebiad personol cyson i arfau niwclear, ond rywsut neu’i gilydd llwyddodd i gefnogi gwelliant y Llywodraeth yn y diwedd. Yr oedd araith Julie Morgan yn gwbl gabolotshlyd.  Wrth gwrs, am mai arweinydd y Torïaid ydyw, roedd raid i Andrew R.T. Davies roi ambell ruad Prydeingar yn y mannau priodol, ond yn wir yr oedd ei ymresymiad ef yn fwy rhesymegol nag eiddo’r Llafurwyr. Bron na pharodd Rhodri Glyn Thomas inni ddweud ‘maddeuwyd rhai pethau’, os nad ‘maddeuwyd popeth’. Ac wrth wrando araith Leanne, daeth i un gwrandawr o leiaf, am funud awr, y teimlad fod yma unwaith eto blaid y byddai Gwynfor a Wynne Samuel, Glyn James a Chris Rees, Harri Webb a Dafydd Orwig, yn ei hadnabod.

            Ond mae wythnos yn amser hir …  Daeth amheuon newydd, a’r rheini’n deffro’r cof am hen amheuon. Daeth mater iaith y Cofnod, ac yn awr y cawdel hwn ynghylch yr enw. I rai ohonom mae ‘helynt Y Byd’ yn dal fel rhyw ddannoedd fud yn y cefndir.  Pwnc o ddiddordeb lleiafrifol efallai, na chostiodd fawr ddim yn nhermau pleidleisiau.  Ond nid felly fater ysgolion Gwynedd, sy’n bygwth ymgodi eto, fel pe na bai unrhyw wersi wedi eu dysgu oddi wrth y rhwyg costus o’r blaen. Gwn fod eraill fel finnau a fyddai’n barod i’w hargyhoeddi gan ddadl o blaid ysgolion mwy; ond hyd yma nid ydym wedi ei chlywed.  Rhyw bethau fel yna o hyd, yn cyfrannu at ddarlun o blaid sylfaenol ansicr ynghylch ei chyfeiriad a’i phwrpas. Ac ym mhen hynny, y pechod marwol, anfaddeuol o wrthod ateb llythyrau. 

            Ym Mhrydain, beth bynnag am wladwriaethau eraill, dim ond miliwnydd gwallgo a fyddai’n meddwl sefydlu plaid newydd. Ond ai digon enw newydd?  Fe erys y cwestiwn gyda ni y rhawg.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: