Y Dwsin Doeth – Tipyn o Jôc

29 Hyd

Un o’r amryw bethau da yn rhifyn diweddaraf y cylchgrawn Llên Cymru yw ysgrif gan yr Athro Gerwyn Wiliams ar flynyddoedd olaf Cynan. ‘Pob Beirniadaeth Drosodd?’ gofyn teitl yr ysgrif gan ddyfynnu’r bardd, a daw’n amlwg yn fuan iawn bod yn rhaid ateb ‘nac oedd’. Yn ystod y blynyddoedd hyn, diwedd y 1960au, wynebodd Cynan feirniadaeth cyn galeted ag a welodd erioed, nid o du sefydliad llenyddol cysetlyd y tro hwn, ond o du to iau a oedd yn barod i fynd lawer pellach nag ef ar rai llwybrau.  Drwy gydol yr astudiaeth mae cyferbyniad eglur iawn yn ein taro, rhwng penwendid coron-addolgar y Cofiadur ar y naill law, a’i gadernid di-syfl ar fater rheol iaith yr Eisteddfod ar y llaw arall. Gwelwn yn awr yn gliriach nag erioed o’r blaen mor ddiysgog y safodd Cynan pan oedd eraill o fewn yr Orsedd a Chyngor yr Eisteddfod yn simsanu. I weld pwy oedd y rheini, darllener yr erthygl.

Prin yr â eisteddfod  heibio heb i rywrai ddechrau cynrhoni ynghylch y rheol Gymraeg. Gellir dibynnu’n wastad  ar y cerddorion i godi rhyw gnecs, yn eu mawr awydd i ddangos eu bod cystal bob dydd ar ‘The Italian Song’ â Tomos Tŷ Pella yng nghyngerdd enwog  yr Henllys Fawr ers talwm. Dros drigain mlynedd bellach mae’r Eisteddfod wedi dal at ei pholisi a’i hegwyddor, ond dro ar ôl tro cyfyd y demtasiwn i anwadalu.

Cofia rhai ohonom gyfarfod arbennig o’r Llys, a gynhaliwyd yn Aberystwyth ddiwedd  2004. Gobeithio nad wyf yn camddarlunio mewn unrhyw fodd wrth geisio crynhoi yr hyn a fu. Nid galwad am ddiddymu, na newid, na llacio’r rheol Gymraeg oedd ger bron y tro hwnnw, ac ni chredaf y byddai neb a oedd yno yn addef bod yn bleidiol i hynny yn yr union dermau yna. Ond gofynnid  i’r Llys gymeradwyo gwaith y Cyngor a’r Bwrdd Rheoli, yn diwygio’r cyfansoddiad fel ag i gael mwy o fantais drethiannol fel ‘Cwmni drwy Warant’ o dan un o’r Deddfau Cwmnïau.  Fel y dehonglid y Ddeddf ar y pryd, gan y rhai yr ymddiriedid hynny iddynt, — sef y cyfreithwyr sydd bob amser yn fintai gref, ddylanwadol a gwasanaethgar hefyd ar Gyngor yr Eisteddfod, — os am fwynhau’r fantais ariannol nid oedd yn bosibl i gorff neu gymdeithas wirfoddol fod â chyfansoddiad na ellid byth ei newid. O dderbyn hyn, fe allai agor y ffordd i newid y rheol Gymraeg pe codai rheswm arall dros wneud hynny. Ar ôl trafodaeth bur anesmwyth bodlonwyd, â mwyafrif mawr, i dderbyn y newid pe bai Comisiynwyr yr Elusennau yn mynnu bod yn rhaid wrtho. Fe allasai hyn greu argyfwng cyfansoddiadol, oherwydd gweithredai’r Eisteddfod dan gyfansoddiad yn dweud nad oedd hawl i newid y rheol. Yr unig ffordd i’w newid, felly, petai pethau wedi dod i’r pen, fyddai diddymu’r cyfansoddiad yn llwyr gan gyfarfod o’r Llys, fel bod yr Eisteddfod, yn dechnegol, yn peidio â bod fel corfforaeth am ryw ysbaid fer neu hir, cyn mabwysiadu cyfansoddiad newydd. Ond ddaeth hi ddim i hynny, a’r prif reswm, yn ôl a glywais i, oedd pwysau a pherswâd taer iawn ar y swyddogion gan fudiad bychan ond penderfynol Cylch yr Iaith. Aed yn ôl, ac edrych eto yr y Ddeddf, a gweld nad oedd honno, wedi’r cyfan, yn gofyn y newid y tybid ei bod yn ei ofyn! A thawelodd pethau!

Mae i’r Eisteddfod bob amser ei gelynion. Gŵyr y rheini ei bod hi’n rhywbeth mwy na chyfuniad o sioe dalentau a gŵyl gelfyddyd. Gwyddant yn iawn am ei harwyddocâd gwleidyddol-ddiwylliannol fel un o gyfryngau parhad y Cymry. Bob hyn a hyn, maent yn chwilio am fannau gwan yn y mur, ac yn cadw llygad am bobl y gellir eu prynu.  Y dyddiau hyn eto, a oes angen i’r Eisteddfod, drwy ei chyrff democrataidd, arfer pwyll a gofal, gan wrthod cymryd ei phrynu nac ychwaith ei gwthio?   Oes y mae, dyna gred yr hen Glyn Adda, â’r wybodaeth sydd ganddo ar hyn o bryd.

Ar faes Eisteddfod Bro Morgannwg daeth datganiad gan Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg a thros y Gymraeg, fod ‘rhaid moderneiddio’ os yw’r Eisteddfod am dderbyn rhagor o nawdd gan Lywodraeth Cymru.  Holwyd ef yn bur daer gan ohebydd y BBC, beth oedd ystyr y moderneiddio. Nid oedd ganddo ateb nac awgrym o gwbl. Bellach fe benodwyd y darlledwr Roy Noble i gadeirio panel o ddeuddeg sydd i ddweud wrth y Gweinidog, a dweud wrth yr Eisteddfod ac wrth y byd yn gyffredinol, beth yw’r moderneiddio. Dyma’r rhai a fedyddiwyd, gan achosi tipyn o chwerthin, ‘Y Dwsin Doeth’. Rhestra Golwg (4 Hydref) rai o bynciau eu trafod: ‘sefydlu lleoliadau parhaol, cydweithio agosach rhwng yr Urdd a’r Brifwyl, a chwilio am fwy o arian.’  Beth sydd a wnelo’r tri pheth hyn â moderneiddio?  Dim o gwbl, hyd y gwelaf.

Pa un bynnag, mantra yw’r ‘moderneiddio’, ag iddo tua’r un faint o werth â llafarganu drosodd a throsodd  ‘rydym yn byw yn yr unfed ganrif ar hugain’. Atebodd rhai o swyddogion yr Eisteddfod, yn gwbl gywir, fod yr Eisteddfod yn ei hadolygu a’i haddasu ei hun yn barhaus, a bod newidiadau mawr wedi digwydd dros y degawd diwethaf.  Ac fel gwyliau a defodau cenhedlig ym mhob man, rhaid hefyd dderbyn fod  ynddi elfennau y mae’n bwysig peidio â’u moderneiddio; fel pethau ffug-hynafol y mae eu gwerth. Onid e, beth am foderneiddio tipyn ar Trooping the Colour, The Changing of the Guard, Swann Upping neu’r Twenty-one Gun Salute, er mwyn iddynt haeddu mwy o bres?

Ymddengys mai’r neges wreiddiol, yn ystod wythnos yr Eisteddfod,  oedd:  os na wrandewch chi, ni chynyddir y cymhorthdal. Ond bellach, yn ôl adroddiad Golwg,  mae’r telerau’n galetach: os na wrandewch chi fe gewch lai. ‘Cymerir oddi arno, ie yr hyn sydd ganddo.’  ‘Mae Leighton Andrews,’ medd Golwg, ‘yn gwadu ei fod wedi sefydlu pwyllgor bach i ddod i gasgliadau fydd at ei ddant ef.’  Ond eto ymddengys y Gweinidog yn gwbl sicr  y bydd argymhellion y pwyllgor yn werth gwrando arnynt.  Yn wir bydd raid  gwrando arnynt neu dalu pris.

Deil ef ymhellach (a daliaf i ddibynnu ar yr un adroddiad) ei bod yn bryd i Lys yr Eisteddfod ‘wrando ar leisiau newydd o’r tu allan’.  Yn syml, medd Glyn Adda, nac ydyw. O’r tu mewn y mae gwrando’r lleisiau, lleisiau eisteddfodwyr, ac yn y diwedd  lleisiau’r rheini a wêl yn dda ymuno â’r Llys, peth y mae gan unrhyw un yr hawl i’w wneud.  ‘Dyw’r Eisteddfod,’ ebr y Gweinidog eto, ‘ddim yn glwb preifat sydd yn cael ei redeg gan y Llys.’ Yr ateb hanesyddol a chyfansoddiadol i hyn yw: ydyw, y mae.  Nid corff cyhoeddus, statudol (fel, dyweder, y Llyfrgell Genedlaethol, yr Amgueddfa Genedlaethol, a’r prifysgolion) yw’r Eisteddfod Genedlaethol, ond cymdeithas wirfoddol, agored a democrataidd ei llywodraeth, y gall llywodraeth leol a chanol ddewis ei chefnogi’n ariannol neu beidio, fel y gwêl orau.

Nid ‘lleisiau newydd’ ychwaith yw pob un o’r Deuddeg Disgybl; yn eu plith mae ambell hen lais go gryglyd erbyn hyn.  Clywyd un, yn arbennig, yn Eisteddfod Casnewydd 2004, yn gweiddi o gefn Pabell y Cymdeithasau, ‘Sit down you fascist!’ pan oedd siaradwraig ar ei thraed yn atgoffa’r cyfarfod yn dawel a chwrtais am y rheol Gymraeg.  Nid pawb a gofia’r stori waradwyddus hon, a gwrthododd y wasg Gymraeg wneud fawr ohoni ar y pryd. Daw cyfle i’w chofnodi ryw dro eto, efallai.

Y tro hwn fe’n sicrheir ar bob tu nad oes angen poeni am y rheol Gymraeg. Ond sylwer ar y geiriau.   ‘Dyw’r rheol Gymraeg ddim yn mynd i gael ei thrafod gan nad yw’r Gweinidog yn teimlo bod angen ei newid.’  Fi sy’n italeiddio.  Beth petai’r Gweinidog yn teimlo fod angen ei newid?  Neu ryw weinidog ar ei ôl?  A fyddai i’w thrafod wedyn?  Yr ateb yw na fyddai, nid am y rheswm hwnnw. Llys yr Eisteddfod yn unig a allai benderfynu a fyddai’r rheol i’w thrafod mewn unrhyw amgylchiadau, ac ni ellid ei thrafod ond o fewn amodau cyfansoddiad yr Eisteddfod.

Gan bwyll, felly. Bydd yr hen Glyn Adda’n siomedig iawn os bydd Cyngor yr Eisteddfod, y Llys neu’r swyddogion, unrhyw rai ohonynt, yn barod i neidio bob tro y bydd y Dwsin yn chwibanu. A thra bydd y Dwsin uwchben eu tasg, cofied eisteddfodwyr ddau neu dri o bethau.  Cofiwn, yn gyntaf, fod gweinidogion llywodraeth yn dod ac yn  mynd. Byr yw oes pob un ohonynt fel gweinidog. Dim ond bod geiriau Mark Antony hefyd yn wir bob amser, ‘y drwg a wna dynion, fe fydd byw ar eu holau’. Gadewch inni gofio hefyd nad yw pob Cymro’n eisteddfodwr, na phob Cymro gwlatgar chwaith, na phob Cymro diwylliedig. Math arbennig o Gymro yw eisteddfodwr.  Hyn-a-hyn sydd o’r math hwnnw, ac efallai eu bod yn mynd yn llai. Creadigaeth gwerin ar ei chynnydd oedd yr Eisteddfod.  Am lu o resymau fe ddaeth y cynnydd hwnnw i ben, fe ddarfu am y werin hwyliog, eiddgar, hyderus, a’i holynu gan ddosbarth proffesiynol braidd yn llipa a diallu heb ynddo wir ewyllys i’w barhau ei hun. Ie, peth a fu yw’r ‘dyrfa dydd Iau’ o rhwng deugain a hanner can mil. Un rheswm, mi fyddaf i’n amau ynof fy hun, yw bod yr Orsedd i’w gweld yn rhy aml, ac y buasai’n well pe byddid wedi cadw defod y Fedal Ryddiaith yn sioe dillad-eich-hun ar y dydd Mercher.  Rheswm pwysicach, rheswm syml a ddylai fod yn amlwg i bawb,  yw bod llai ohonom, llai o Gymry. Rydym yn darfod yn ôl tair mil y flwyddyn, medd ystadegau olaf Bwrdd yr Iaith cyn iddo ddiflannu. Hon yw’r broblem, diflaniad y Cymry, diwedd y genedl. At hon y dylai llywodraethau Cymru  droi eu sylw.

Darllenais gyfweliad â Roy Noble yn yr un rhifyn o Golwg. Nid oedd yn ffôl, ac roedd ei agwedd tuag at y rheol Gymraeg yn ddigon iach. Ond y cwestiwn mawr yw hwnnw  a gododd Angharad Mair yn rhifyn nesaf yr un cylchgrawn (11 Hydref), ‘Beth yw gêm Leighton?’ Gêm Llafur yn wastad, ymyrraeth, busnesu, gwarafun symiau bychain i bethau Cymraeg, a gosod amodau ar y rheini,  tra’n lluchio’r miliynau yn hapus ddiamod, ddifeddwl at eu hoff bethau eu hunain, twrnameint golff Casnewydd a rhoi dim ond un enghraifft.  Da y gwnaeth Angharad Mair ein hatgoffa nad yw cyfraniad y llywodraeth yn ddim ond 15% o gyllid yr Eisteddfod wedi’r cyfan.

Felly, pan ddaw adroddiad y Dwsin Doeth ger bron, gobeithio y gwelwn Lys yr Eisteddfod, fel yr unig gorff a chanddo’r hawl i benderfynu, yn arfer tipyn o sgeptigiaeth iach, a dogn go dda o hiwmor. Tipyn o jôc yw’r Dwsin, a rwdlian y mae’r Gweinidog.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: