Bylchau yn y Naratif

19 Tach

Efallai y dylwn fod wedi anfon yr ysgrif hon i rifyn Tachwedd Barn, y rhifyn hanner can mlwyddiant, oherwydd mae’n cyffwrdd â thraddodiad y cylchgrawn. Cynigiais ddrafft ohoni, yn hytrach, ar gyfer rhyw rifyn diweddarach.  Nid oedd Barn am ei chyhoeddi.

Dyma gyfle felly i adolygu, ac i gywiro ambell beth.

Mewn dyddiau a fu, bu sefyllfa Prifysgol Cymru yn un o bynciau mawr Barn.  Daeth Alwyn D.Rees yn olygydd yng ngwanwyn 1966, ddwy flynedd ar ôl ennill buddugoliaeth nodedig o fewn cynteddau’r Brifysgol. Gellir gofyn ‘buddugoliaeth i bwy?’, a gellir ateb yn gryno ‘i’r Cymry’. Gydag eithriadau prin iawn, gwrth-Gymreigwyr diedifar, penaethiaid y colegau a mwyafrif mawr aelodau eu seneddau, a’r Saeson ar y staffiau, oedd yn galw am ddatgymalu’r Brifysgol ffederal yn nechrau’r 1960au. Fe welent yma un sefydliad wedi ei ddynodi’n ‘Gymreig’ y gallent ei ddinistrio. Bryd hynny yr oedd eraill o sefydliadau’r Cymry yn weddol ddiogel dan amodau eu siarteri a’u cyfansoddiadau, a heb fod gan lywodraeth y dydd, llywodraeth Lundain, unrhyw fwriad i ymyrryd â hwy. Yn y Gymru ddatganoledig mae pethau’n wahanol, gyda Chynulliad Cenedlaethol a llywodraeth yn arfau y gellir, yn y dwylo anghywir, eu defnyddio i danseilio’r gwir sefydliadau cenhedlig. Gwylied Llyfrgell Genedlaethol Cymru ei hun. Gwylied yr Eisteddfod ei hun. Gwylied adrannau Cymraeg y Prifysgolion eu hunain.

Rhwng 1966 a blwyddyn ei farw, 1974, cynhaliodd Alwyn D.Rees ar dudalennau Barn, ymhlith nifer o achosion eraill, ddau achos perthynol i’r Brifysgol. Yn gyntaf, adeiladu ar benderfyniad Llys y Brifysgol fis Mai 1964 i gadw’r drefn ffederal; ac yn ail, gwrthwynebu’r hyn a welai ef fel ehangu’r colegau ymhell tu hwnt i anghenion Cymru. Gallai ymddangos ar y pryd fod yr achos cyntaf wedi ei ennill, ond daeth yn fwyfwy amlwg fod yr ail yn cael ei golli. Ymlaen yr aeth yr ehangu, gydag amrywiol ganlyniadau ac effeithiau; nid lleiaf yr effaith ar gynrychiolaeth seneddol Ceredigion. Stori ryfedd at eto, os gellir ei hadrodd byth, yw sut y daeth gwrth-ehangwyr dechrau’r 1970au, o blith yr academwyr Cymraeg, yn ehangwyr brwd erbyn diwedd y degawd. Chwarter canrif eto ac yr oedd y Brifysgol wedi datgymalu’n ymarferol, nid yn uniongyrchol y tro hwn oherwydd llid gelynion (er bod hwnnw yna trwy’r adeg), ond yn bennaf am na ellid, gyda’r fath niferoedd, gynnal yr elfen o arholi allanol a roddai gryfder i’r graddau.

Down, felly, at y sefyllfa heddiw. Beth am Gwglo ‘Prifysgol Cymru’?   Ar y chwith i’n sgrîn daw nifer o gyfeiriadau lle gallwn gael mwy o wybodaeth.  Ar y dde y mae arfbais y Brifysgol, gyda’r dyfyniad hwn oddi ar Wikipedia: ‘The University of Wales is a confederal university founded in 1893, and merged with Swansea Metropolitan University and Trinity Saint David in 2012.’  I ddechrau, mae’r ‘confederal’ yn anghywir. Prifysgol a fu’n ffederal, ond a aeth yn rhan o’r corff conffederal ‘Addysg Uwch Cymru’ yw’r disgrifiad iawn.  Ond fel y dylai pawb weld bellach, mae yma beth mwy. A mis o 2012 i fynd fel yr wyf yn sgrifennu hwn, nid yw’r uno wedi digwydd eto, ac os cliciwn ar y chwith gallwn agor dogfen gwestiwn-ac-ateb weddol fanwl sy’n pwysleisio fod y broses yn un gymhleth ac yn debyg o gymryd blynyddoedd.  Clywn yn aml fod Wikipedia yn ddiarhebol o anghywir, ond pam yn y byd mawr nad yw Prifysgol Cymru’n mynnu cywiro’r gosodiad hwn?  Pam, o ran hynny, na chywirodd hi yn syth yr hyn a adroddodd y newyddion radio a theledu nos Wener, 21 Hydref y llynedd, a phapurau y bore wedyn, fod y Brifysgol ‘wedi ei diddymu’?

A dwsin o gopïau ar ôl o’m hen bamffledyn bach Trwy Ofer Esgeulustod: Brad a Dinistr Prifysgol Cymru (£3.00), os gwnaf ail argraffiad neu ei ddiweddaru ar gyfer y blog hwn, bydd angen ychwanegu cryn dipyn a chywiro ambell beth.

Cywiro i ddechrau.  Afresymegol, mi dybiwn i, oedd y syniad fod Prifysgol Cymru yn mynd yn rhan o beth a oedd yn rhan ohoni ei hun, sef Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant (Metropolitan Abertawe, bellach).  Mewn llythyr yn Y Cymro (26 Hydref) eglurodd Emyr Lewis nad yw Prifysgol Cymru: YDDS yn rhan o Brifysgol Cymru, ond ei bod yn sefydliad annibynnol oddi ar ddiwygiadau 2005.  Wel iawn, os mai dyna a ddywed siarter YDDS. Cywiraf hyn, ond ni allaf dderbyn gosodiad Emyr Lewis nad oes dryswch. Mae mwy o ddryswch, os rhywbeth, nag o’r blaen.  Y diwrnod yr aeth YDDS yn annibynnol ar Brifysgol Cymru, pam, o bob enw posibl yn y byd, dewis yr enw ‘Prifysgol Cymru: YDDS’?  Oni fyddai ‘Prifysgol YDDS’ wedi bod yn ddigon?  Neu, os am fod yn fanylach, ‘Prifysgol Gorllewin Cymru: YDDS’, neu ‘Prifysgol De-Orllewin Cymru: YDDS’?  Os camddeallodd rhai ohonom, gellir maddau inni!

Yn ddiweddar rhoddodd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor dwbl Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru: YDDSMA, ddau gyfweliad, y cyntaf yn y Western Mail (26 Medi) a’r ail yn Y Cymro (2 Tachwedd). Yn y cyfweliad cyntaf, esboniodd inni: ‘This is about having the chance to craft a new narrative’. Bylchau mawr a welaf i yn y naratif hyd yma.  Dyma restru, nid am y tro cyntaf, rai o’r cwestiynau y byddai’n dda cael atebion iddynt.

1.   Wythnos cyn y cyfarfod hwnnw, 21.10.11, pam y teimlwyd yn sydyn yr angen am ‘Lywydd’ i’r Brifysgol, swydd nad oedd neb wedi clywed sôn amdani o’r blaen mewn 118 o flynyddoedd?   Yng nghyfweliad Y Cymro rhydd yr Athro Hughes ran o’r ateb. Swydd oedd hon, meddai, a grewyd ar gyfer yr Athro Marc Clement, a oedd tan hynny yn Is-Ganghellor y Brifysgol; fe’i gwnâi ‘yn gyfrifol am agweddau entrepreneuraidd Prifysgol Cymru’. Ond maddeuer inni am holi ymhellach: (a) Beth yw’r agweddau entrepreneuraidd, a beth sy’n newydd ynddynt?  (b) Oni allai’r Athro Clement fod wedi gofalu’n iawn am y rhain o gadair yr Is-Ganghellor?  (c) Os oedd yn gwbl anghenrheidiol gwacáu swydd yr Is-Ganghellor, pam penodi iddi aelod o’r Cyngor a chanddo eisoes, fe ellid meddwl, lond ei ddwylo fel Is-Ganghellor sefydliad arall? (ch) Dan ba statud neu ordiniant y bu hyn oll yn bosibl?  (d) Pwy, o fewn y Cyngor, a gynigiodd ac a eiliodd, a faint o rybudd a roddwyd?   (Fe ddylai’r cofnodion ateb y ddau gwestiwn olaf, ac mae’n hysbys fod cais wedi ei wneud amdanynt dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.)

2.    Yn fuan iawn ar ôl 21.10.11 adroddwyd fod Tywysog Cymru wedi derbyn  gwahoddiad i fod yn ‘Noddwr Brenhinol’ y sefydliad newydd, y cyfuniad o Brifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru: YDDS.   (a) Gan fod y Tywysog eisoes yn Ganghellor Prifysgol Cymru, ac y disgwylid i’r sefydliad newydd etifeddu holl briodoleddau’r Brifysgol, pa angen am Noddwr Brenhinol yn ogystal?   (b) Wrth estyn y gwahoddiad iddo, a eglurwyd i’r Tywysog nad oedd y sefydliad newydd wedi dod i fodolaeth eto, a bod gofyn pasio mesur seneddol o leiaf cyn iddo ddod i fodolaeth?  A gamarweiniwyd y Tywysog?   (c) Pwy a estynnodd y gwahoddiad?  A thrwy ba awdurdod?  Efallai y dywedir mai cwestiynau gwamal yw’r rhain. Eithr onid yw’r holl beth yn chwerthinllyd?

3.    Drachefn yng nghyfweliad Y Cymro rhoddwyd ateb i beth a fu’n poeni rhai ohonom ers bron i flwyddyn, pam y tynnwyd yn ôl yn sydyn o San Steffan y drafft fesur seneddol a fwriedid i wneud yr uniad yn bosibl?  Oherwydd, medd yr Is-Ganghellor, fod trefniadau bellach wedi eu cwblhau i Lywodraeth Cymru ddelio â’r mesur, trefniadau nad oeddynt yn bod tan yn ddiweddar.   Ond erys cwestiynau, a’r pennaf ohonynt yw hwn:   Pam na fu gair am y mesur, ar wefan Prifysgol Cymru, ar wefan PC: YDDS, yn y cylchgrawn Campus? Yma rhaid imi gywiro eto, yng ngoleuni gwybodaeth a roed  (6.12.12) gan Gofrestrfa Prifysgol Cymru.  Bu rhaghysbysiad dyddiedig 28.11.11 yn y London Gazette, ac ymhlith yr Hysbysiadau Cyhoeddus a Chyfreithiol yn y Western Mail.  Yr oedd hwnnw’n grynodeb pur gynhwysfawr o brif fannau’r mesur, ac mae’n debyg fy mod ar fai nad oeddwn wedi ei weld.  Ond nid wyf wedi siarad â neb arall a oedd wedi ei weld chwaith!  Mae dau beth yn dal yn od yn ei gylch: (a) y ffaith na roddwyd cyhoeddusrwydd pellach iddo yng nghyfryngau’r ddwy brifysgol eu hunain; (b) y ffaith mai yn enw PC: YDDS y cyhoeddwyd ef, ac na ellir ei ystyried felly yn rhan o’r ymgynghoriad angenrheidiol rhwng Prifysgol Cymru a’i haelodau ei hun.

4.    Sut y gellir sôn, fel y gwneir, am ‘uno … dan Siarter 1828 Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant’?  A oes, neu a fu, y fath Siarter?  Onid Siarter Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, coleg diwinyddol Anglicanaidd, oedd hon yn 1828?  Onid rhyw ddwyflwydd oed yw siarter Prifysgol Cymru: YDDS?

5.    Fe ddywedodd yr Is-Gangellor, medd Y Cymro, ‘ei fod ef a Chyngor Prifysgol Cymru wedi ystyried cau Prifysgol Cymru i lawr’.  Do?  Do wir?  Heb ymgynghori â’i graddedigion, sef mwyafrif mawr mawr ei haelodau?  Gwrando ar ddymuniad Llywodraeth Cymru, ie, ac ar ddymuniad y Cyngor Cyllido (HEFCW), ac ar awgrymiadau Adroddiad McCormick.  Ond beth amdanom ni, y rhai sydd biau’r Brifysgol, yn ôl ei Siarter, a’r rhai y mae’r swyddogion oll a’r Cyngor yn atebol inni?  Pwy a benderfynodd, ac ar ba sail,  y gellid anwybyddu’r statudau hynny (rhif 11 yn arbennig) sy’n mynnu fod ymgynghori â’r graddedigion cyn gwneud unrhyw newid o bwys i ffurf  Prifysgol Cymru?

6.    Fel un o ddiwygiadau 2005-7 fe ddiddymwyd, fe ddinistriwyd, Urdd y Graddedigion, y corff a oedd yn bodoli i roi llais yn y Brifysgol i fwyafrif mawr mawr ei haelodau. Yn lle ‘graddedigion’ fe aed i ddweud ‘cyn-fyfyrwyr’ neu ‘alumni’, – sy’n hollol anghywir yng nghyd-destun ac yn hanes Prifysgol Cymru, fel yr wyf wedi dweud yn ddigon aml ar goedd heb i neb fentro anghytuno.  Oni wyddom oll mai trwy raddio  y daethom yn aelodau o Brifysgol Cymru, a bod yr aelodaeth a’i breintiau wedyn yn para am oes?  Cynfyfyrwyr o’n colegau ydym, ac aelodau Prifysgol Cymru o’r foment y bu inni ysgwyd llaw â’r Dirprwy Ganghellor neu ei gynrychiolydd.  Pwy a benderfynodd y gellid anwybyddu’r rheol a’r egwyddor sylfaenol hon?  Ym mha hawl? A drafodwyd y peth gan y Cyngor? A fu pleidlais?

7.    Fe ddisgwylir inni goelio fod Urdd y Graddedigion un ai wedi ei holynu neu i gael ei holynu (mae dwy stori wahanol) gan ‘Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr’.  Mae hyn un ai wedi digwydd, neu i ddigwydd ‘yn y flwyddyn newydd’.  Gofynnaf eto, fel y gofynnais o’r blaen heb dderbyn ateb: pwy yw swyddogion y gymdeithas hon, a’i phwyllgor?  Sut, pryd, yr etholwyd hwy?  A rhag gwamalu, mi atebaf y cwestiwn: nid oes y fath gymdeithas. Yr hyn sydd yw Swyddog Cyn-fyfyrwyr, aelod o staff y Brifysgol. E-bostiais hi y llynedd pan oedd colofnau’r tŷ i’w gweld yn dechrau siglo, i ofyn pryd yr oedd y graddedigion i gael trafodaeth ar yr hyn a oedd yn amlwg yn argyfwng. Rwy’n dal i ddisgwyl ateb, fel i nifer o gwestiynau tebyg i’r rhain heddiw, a anfonais at Ysgrifennydd Cyngor y Brifysgol ar 30 Hydref 2011.

8.    Ac un cwestiwn arall, a atebaf fy hun eto rhag goddef dim mwy o nonsens: onid yw penderfyniad 21 Hydref 2011 yn hollol anghyfansoddiadol?   Ateb: Ydyw, wrth gwrs.

Ie, ‘naratif’ ryfedd ac ofnadwy yw hon. Ffars, sgandal a gwaradwydd. Ond beth sydd i’w wneud?  Cwestiwn at eto.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: