Ynys Ynni, dyna’r lle!

3 Chw

Erthygl sobreiddiol yn y Daily Telegraph heddiw, 2 Chwefror, Gŵyl Fair y Canhwyllau neu ‘Groundhog Day’ …

Erthygl sobreiddiol yn y Daily Telegraph heddiw, 2 Chwefror, Gŵyl Fair y Canhwyllau neu ‘Groundhog Day’ …

Ond dyna ddigon o wamalu.

Pwnc yr erthygl yw claddu gwastraff niwclear. A Chyngor Sir Cumbria wedi gwahardd claddu dim mwy ohono, gan droi hebio fuddsodiad dichonol o £12 biliwn, ble rhown ni o?

Yn ei anwybodaeth, ni all yr hen G.A. ond adrodd yr hyn a ddywed awdur yr erthygl, Geoffrey Lean. Mae dau fath o wastraff niwclear, meddai. Gwastraff canolradd neu lai peryglus yw’r naill, slwtsh ymbelydrol a hen ddarnau wedi malu o’r atomfeydd eu hunain.  Y cam cyntaf yw amgáu hwn mewn concrit. ‘Gwastraff lefel uchel’ yw’r llall, y peth a gynhyrchir gan yr adweithyddion eu hunain,  ‘y mymryn lleiaf mewn cymhariaeth, ond llawer mwy peryglus’.  Y cam cyntaf gyda hwn yw ei gau mewn gwydr. (‘Mal pelydr mewn gwydr yn gwau’, chwedl Ieuan Brydydd Hir.)

Iawn, un mewn concrit a’r llall mewn gwydr. Be wedyn?  Bydd yn rhaid, meddai’r arbenigwyr, claddu’r ddau fath yn ddwfn yn y ddaear.  ‘Bydd rhaid ei ynysu oddi wrth ddynol ryw am gannoedd o filoedd o flynyddoedd, miliwn efallai – graddfa amser a all weld moroedd yn codi a gostwng, a  rhewlifoedd yn dod ac yn mynd’. Cyfieithu eto:

‘Ac er hyn, yn ystod degawdau cyntaf yr oes niwclear, fe ystyriwyd y gwastraff fel rhyw ôl-feddwl cymharol ddibwys, a chyda rhyw ddifaterwch rhyfeddol.  Fe ollyngwyd llwythi anferth o Sellafield i Fôr Iwerddon mewn “arbraw gwyddonol bwriadol”, i weld beth fyddai’n digwydd. Ac mae gwastraff gwenwynig dros ben wedi ei adael ar y safle yn Cumbria hyd y dydd hwn  mewn pyllau a seilos, a’r rheini’n dirywio, gan greu – fel y dywedodd Swyddfa’r Archwiliadau Cenedlaethol fis Tachwedd  –   “risg anoddefadwy i’r cyhoedd”.’

Yr ateb?  Drilio twll i grombil y ddaear, pum  cilomedr o ddyfnder, gan obeithio y daw hynny â ni at haen ddigon sefydlog i fedru claddu’r defnydd  hyd dragwyddoldeb.

Ond ble?  Mae Sgotland yn gwrthod, mae Gwlad yr Haf yn gwrthod. Ac yn awr Cumbria, hen gartref yr ymbelydredd ei hun. Does ond un lle amdani …

Ynys Môn wrth gwrs!  Ynys Ynni!  Pum cilomedr o dan ddaear Môn, yng nghyffiniau Llangefni neu Lannerch-y-medd  dywedwch, fe fyddai’n berffaith saff yno, wedi ei ynysu oddi wrth ddynol ryw am filiwn o flynyddoedd. Oni fyddai … ? Neu yn o lew o saff, o leiaf  … Gobeithio ’te.

Ond twt, peidiwch â phoeni gormod am y ddaeareg. Yr ewyllys yw’r peth mawr. Ynys sydd mor awyddus i gynhyrchu mwy o’r stwff, go brin y byddai hi’n gwrthod rhoi cartref tragwyddol iddo. Meddyliwch am yr hwb i’r iaith!  Gofynnwch chi i bobl ifainc chweched dosbarth unrhyw un o ysgolion uwchradd yr ynys.  A chofiwch eiriau un o sêr disglair Cyngor Môn ar raglen ‘Pawb â’i Farn’ dro yn ôl: ‘mae’r poisn yn dŵad drosodd o Chernobyl beth bynnag, wedyn waeth inni gael o fan hyn ddim’. Dyna ichi arweiniad golau! Dyna ichi safon mewn trafodaeth gyhoeddus!  ‘Pwy rydd i lawr wŷr mawr Môn?’

Ia, ’rhen Goronwy!  Sut deudodd o hefyd?

Pan ganer trwmp Iôn gwiwnef,
Pan gasgler holl nifer nef,
Pan fo Môn a’i thirionwch
O wres fflam yn eirias fflwch,
A’i thorrog wythi arian,
A’i phlwm a’i dur yn fflam dân,
Pa les cael lloches o’r llaid?
Duw ranno dŷ i’r enaid!

A ballu, a ballu …

Un Ymateb to “Ynys Ynni, dyna’r lle!”

  1. Rhys Chwefror 12, 2013 at 4:14 pm #

    Ddywedodd o hynny ar deledu?! Waw.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: