Celyn, Derlwyn a Dolwyn

6 Chw

Gwylio y nosweithiau hyn rai o’r rhaglenni yn dwyn i gof  “Y Weithred” yng Nghapel Celyn hanner can mlynedd union yn ôl.   Pethau, cwestiynau, yn troi yn y meddwl, fel y maent wedi gwneud dros y blynyddoedd a dweud y gwir.  Rhai o’r pethau a’r cwestiynau hyn a ysgogodd yr hen Glyn Adda i sgrifennau’r stori fach “Dyddiau Olaf Derlwyn”, sydd yn y gyfrol Camu’n Ôl a Storïau Eraill.  Y sawl sydd am ei darllen, cofied gyngor Aristoteles, y beirniad llenyddol cyntaf.  Sôn am y ddrama y mae’r hen Roegwr, ond mae’r hyn y mae’n ei ddweud yr un mor briodol am unrhyw fath o stori.  Gwaith drama, meddai, yw dangos gweithred.  Nid gweithred a ddigwyddodd, ond un a allasai ddigwydd.  Mae’r stori hefyd, fel dwy arall yn yr un gyfrol, yn ceisio dweud rhywbeth, o hyd braich, am ryfeloedd ofnadwy’r ugeinfed ganrif.

            Drwy gyd-ddigwyddiad, clywaf fod y ffilm Last Days of Dolwyn yn cael ei hailddangos y dyddiau hyn yn y Chapter, Caerdydd.  Cofiaf yn dda gael fy nghyfareddu ganddi pan ddangoswyd hi gyntaf, 1951, ac yn wir mae’r gyfaredd yn para.  Ffilm ddu a gwyn brydferth, wedi ei gosod mewn rhyw Wlad Tylwyth Teg, ac yn llwyddo i osgoi yn llwyr agweddau gwleidyddol y testun!   Llond pictiwrs gorlawn ohonom (yr hen Plaza, Pen-y-groes), yn ein dagrau wrth i’r pentrefwyr ddringo dros y bryn dan ganu “Hen Wlad fy Nhadau”, a’r dŵr mawr yn codi, codi gan ysgubo popeth i’w ganlyn, –  y ceffyl pren, y delyn, trugareddau’r hen bentref.  Oedd yno ddelwedd o rywbeth wedi’r cyfan, ac er gwaethaf lolian amholiticaidd y cyfarwyddwr a’r prif actor?

            Peri meddwl am rywbeth arall hefyd. Yr hen wraig, Merri (dwy r wrth gwrs) (Edith Evans), yn agor y fflodiart a boddi’r cwm er mwyn cuddio trosedd ei mab (Richard Burton), sydd newydd ladd y dyn cas (Emlyn Williams) mewn sgarmes.   Tybed allwch chi feddwl am aelodau Cyngor rhyw sefydliad yng Nghymru, newydd losgi eu bysedd yn y modd mwyaf ofnadwy, yn cael fflach o weledigaeth, sef diddymu eu sefydliad eu hunain i osgoi ateb cwestiynau am eu trwstaneiddiwch?  Cliw ichi: fe ddigwyddodd ar 21 Hydref 2011.  Gweler eto Trwy Ofer Esgeulustod … yn archif Ionawr!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: