Dyma hi’r Frawddeg

6 Mai

Wythnos yn ôl, fel holl aelodau Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, mi dderbyniais gylchlythyr gan Brif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts.  Sôn yr oedd am yr adolygiad sydd wedi ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru; yr oedd ei gywair yn ddigon parchus, yn wir yn garedig, tuag at “Y Dwsin Doeth”, ond yn nodi hefyd, yn gwbl briodol, “efallai nad ydym ni’n cytuno gyda phopeth sydd yng nghylch gorchwyl y grŵp”, ac yn mynegi pryder ynghylch yr awgrym o leoliadau parhaol i’r brifwyl.  Ym mhen hynny, mae’r llythyr yn cynnwys un frawddeg allweddol a ddylai fod wrth fodd calon holl aelodau’r Llys a holl garedigion yr Eisteddfod. Dyma hi:   “Mae’n bwysig nodi mai mater i’r Llys fydd penderfynu ar yr ymateb i unrhyw argymhellion a ddaw o du’r Gweinidog.”   Dyma’r frawddeg yr oeddem am ei chlywed. Da iawn.

            Gyda llaw, mi glywais ddweud y bydd gan yr Athro W. J. Gruffydd (Bethel a Chaerdydd), prif awdur cyfansoddiad yr Eisteddfod a phrif awdur y rheol Gymraeg, rywbeth i’w ddweud am y “Dwsin” yn y man. Cadwch lygad am BARN, Gorffennaf-Awst …

Advertisements

Un Ymateb to “Dyma hi’r Frawddeg”

  1. Aran Jones Mai 10, 2013 at 10:43 am #

    Swnio’n gyffrous iawn! Dw i am fynd ati rwan i ddyfalu beth bydd yn ei erthygl cyn iddi gael ei chyhoeddi…;-)

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: