Canmlwyddiant

18 Mai

Image

Dramâu canmlwydd yn ôl a atgyfodir yn y gyfrol hon, a’r gyntaf ohonynt, Beddau’r Proffwydi, o bosib y gryfaf ei hargraff o’r holl ‘hen ddramâu’ Cymraeg, sef  cynnyrch y mudiad drama amatur a welodd lwyddiant mawr yn ystod pedwar degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif.  Dramâu yn dibynnu ar elfennau confensiynol ydynt bron  heb eithriad, a Beddau’r Proffwydi gymaint â’r un. Eto mae rhywbeth arbennig ynddi, rhyw nodwedd ‘ysgubol’ y bu raid ar feirniaid ei chydnabod, er sylwi hefyd ar ei gwendidau amlwg. Beth yw Proffwyd?  A yw Emrys Williams yn Broffwyd o gwbl?  Beth, wedi’r holl ymrafael, yw ‘neges Emrys’?   Dyma gyfle i ddarllenwyr ofyn y cwestiynau hyn eto, mewn amgylchiadau gwahanol iawn i’r rheini a roddodd fod i’r ddrama.  Os yw Beddau’r Proffwydi, yng ngeiriau un o’i dehonglwyr, yn ‘dal i daro rhyw dant’, sut a phaham?

Perthnasol bob amser yw’r teitl Dyrchafiad Arall i Gymro, ac er bod y Cynulliad Cenedlaethol i raddau bellach wedi disodli San Steffan fel y lle mae gwleidydd o Gymro ar brawf, mae’r tyndra rhwng hunan-les ac egwyddor yn dal yn thema ddigon byw.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: