Stori Fer: Trobwynt

18 Mai

Cyntedd Cofrestrfa Prifysgol Cymru, Caerdydd, 30 Ionawr 1943. Mynd a dod, a’r lle’n llenwi’n raddol. Murmur lleisiau, weithiau’n gryfach, weithiau’n is. Ar hyd un ochr mae bwrdd hir, a phentyrrau o bapurau bychain yn cael eu gosod arno o dipyn i beth. Blychau mawr duon ar y bwrdd ac ar y llawr. Cofrestrydd y Brifysgol yn ceisio cadw llygad ar bopeth. Plismon yn sefyll tu mewn i’r drws. Chwa o wynt oer o’r tu allan bob tro mae’r drws yn agor a chau, yn chwalu ychydig ar y mwg baco.

Mae W. J. GRUFFYDD yn eistedd yn agos at y drws, a’i ben yn ei ddwylo, a chwmwl mawr o ddigalondid du, tewach na’r mwg baco, uwch ei ben. Daw ambell un i’w gyfarch a sgwrsio ennyd. Daw IORWERTH PEATE i mewn.

PEATE:   Wyddoch chi be, Gruffydd, mae ’na dyrfa fach yn hel y tu allan ’na.

GRUFFYDD:   Oes ’na wir?  Pwy fasa â digon o ddiddordeb, deudwch?

PEATE:   Stiwdents o’r Coleg ydi’r rhan fwya, debyg gen i  — merched bron i gyd. Ambell i sowldiwr. Ac mae’r Western Mail yno.

GRUFFYDD:   Ydi dyffeia’ i o. Mi fydd ’na hen refru, ffordd bynnag yr aiff hi.

PEATE:     ‘A chaed ynfydion siarad’, fel dwedodd Gwynn Jones ryw dro. … Well i mi fynd i’r tu blaen ’na eto i weld be sy’n digwydd.  Ydech chi’n dod?

GRUFFYDD: Na, cerwch chi, Peate. Mi stedda’ i fan hyn.

Daw ambell un at Gruffydd eto i gyfnewid gair byr. Ond un ac un mae ei gymrodyr yn cilio, gan ei adael yntau yn ei fawr ddirgelwch i wrando’r lleisiau dieithr wrtho’i hun.

Nid mor ddieithr chwaith.

TWM HUWS o BEN Y CEUNANT:   Mi ddois adref, mi ddois adref … !

SILYN:                  Mae Cymru’n bod, a’r iaith yn byw,
Ac Arthur yn cyfodi !

O. M. EDWARDS: Ond y mae i Gymru enaid, ei henaid ei hun. A gall golli hwnnw. Gall addysg flodeuo, gall crefydd gryfhau, gall y tlawd godi o’r llwch, gall y goludog fod yn gadarn ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd, tra bo enaid y genedl yn llesgáu a gwywo …

JOHN MORRIS-JONES:       E dyr gwawr, wlad ragorwen,
Nac wyla, O Walia wen !

TAD:   Ond ydi hyn yn gyson ag Egwyddorion Rhyddfrydiaeth?

TAID:   Mae llawer o bethau dyrys, welwchi, heb eu hesbonio yn y Drefn.

NAIN:   Ddo’ i ddim i wrando arnat ti, Wili John. Does dim rhaid inni’n dau chwysu.

GRUFFYDD:   Rydach chi’n hollol iawn, Nain, fel mor aml.  Na, dydw i fawr o siaradwr cyhoeddus, fel y gwyddoch chi’n iawn, yn enwedig yn yr iaith fain. Ond tasa hi’n dŵad i’r gwaetha, tasa hi’n dŵad, mi fasa raid imi fwrw drwyddi rywsut neu’i gilydd, fel ’rhen Gruffudd Jones y Deryn Mawr ar ei uchelfanna ers talwm, a pheidio malio am neb. Ac mi wn i am un fasa yno, Nain.  Mi ddoe Taid yno bob cam, ac eistedd ar flaen y gialari, a gwrando ar bob gair, a phorthi.  Ac mi fasa wedi gofyn i bob un ohonyn nhw, yn cynnwys Siarsyl ei hun, i ba gapel byddan nhw’n mynd.

Tewi o’r lleisiau am ychydig. Yna …

MAM:   Pam nad ei di allan am dro?

GRUFFYDD:   Am smôc ydach chi’n feddwl yntê, Mam?  Na, mi dania’ i fan hyn.  Smocio rydw i’n eu gweld nhw i gyd, nes mae’r lle ddiawl ’ma ’run fath â’r ‘stafelloedd llawn mwg’ hynny yn y Mericia …

Tyn Gruffydd ei getyn o’i boced, a’i lenwi.  Cyn tanio, mae’n mynd i’w boced gesail a thynnu dalen o bapur allan.  Does bosib ei fod am wneud fel yr hen Huw Bennet yn Beddau’r Proffwydi ers talwm, goleuo’i getyn â darn o bapur sydd o arwyddocâd  mawr iddo’i hun …?  Ond na, darllen y mae, rhywbeth y mae wedi ei ddarllen a’i droi yn ei feddwl ddegau o weithiau dros yr wythnosau diwethaf …

GRUFFYDD:   Hwn. A’r ddau lythyr arall.  Rydw i wedi eu hailddarllen nhw nes maen nhw’n dwll, ac yn eu gwybod nhw ar dafod leferydd, bron cystal â’r adnodau at y Cyfarfod Un ym Methel ers talwm.  Ond mae ’na ryw gyfrinach ynddyn nhw, rhyw enigma nad ydw i byth wedi ei datrys yn iawn.  A dyna pam rydw i’n dal i edrych arnyn nhw, a hitha’n ben set fel hyn …  Ydyn nhw wedi fy nhwyllo i?  Dyna’r cwestiwn.  Ydw i wedi bod yn wirion, ac wedi cerdded i mewn i drap? Y llythyr cyntaf ’ma.  Roedd o ar fy nesg i pan ddois i’n ôl o ginio, dydd Calangaeaf.  ‘Chi ddaeth â fo, Griffith John?’ medda fi. ‘Ie wir,’ medda Griffith John.   ‘Sgwennu pwy ydi hwn, deudwch?  Mi ddylwn ’i nabod o hefyd …’  ‘Agorwch e.’

Annwyl Athro Gruffydd,
Dof yn syth at fy neges.  Gwyddoch, mae’n debyg, fod sedd seneddol Prifysgol Cymru’n mynd i fod yn wag, trwy fod Mr. Ernest Evans wedi ei benodi’n Farnwr Llys Sirol ac felly wedi cyflwyno cais am Stiwardiaeth Cantrefi Chiltern.  Golyga hyn isetholiad a fydd o bwys tyngedfennol i’n cenedl ni ac i bopeth a farnwn yn werthfawr yng nghanol trybestod y dyddiau hyn. I’r Blaid Genedlaethol bydd yn gyfle mawr hanesyddol, y gorau a gafodd hyd yma.  Penderfyniad unfrydol Pwyllgor Gwaith y Blaid, a gyfarfu fore heddiw, oedd eich gwahodd i fod yn ymgeisydd ar ein rhan. Nid oes angen i mi ymhelaethu dim ar eich cymhwyster, uwchlaw pobun arall yn y Brifysgol.  Mae eich cyfraniadau disglair fel ysgolhaig, bardd, golygydd a beirniad – nid yn unig ar lên ond ar holl fywyd Cymru – oll yn siarad drostynt eu  hunain ac yn gydnabyddedig gan bawb ac ynddo ronyn o ddiwylliant.  Ym mhen hyn oll, nid buan yr anghofiwn eich safiad ar fater Penyberth, a’ch arweiniad  fel Dirprwy Lywydd ein plaid ar adeg dynghedus.

Yr oedd y Pwyllgor Gwaith yn ymwybodol fod gwahaniaeth rhyngoch a’r arweinyddiaeth ar gwestiwn mwyaf gofidus ein dyddiau. Yr oedd yr un mor ymwybodol mai mater cydwybod yw hwn, ac nad priodol i ni ddadlau ymhellach â chwi ar fater y rhyfel. [Ia, ‘ymhellach’.  A phethau mor gry wedi eu dweud o’r ddwy ochr. Nefoedd fawr, Llenor 1941!  ‘Y Gwylliaid ar y Ffordd’, a’r helynt wedyn!]   Ceisiwn gadw’n golygon yn hytrach ar y gwaith mawr o ddiogelu ac adeiladu bywyd Cymru wedi’r elo’r heldrin hwn heibio, – a brysied y dydd.  I oleuo barn ac arwain y ffordd ar faterion fel yr iaith Gymraeg, addysg, diwylliant a holl fywyd cymdeithasol y genedl, nid oes neb cymhwysach na W. J. Gruffydd, dyna’n cred, a gwyddom mai dyna fydd teimlad y Brifysgol a’r  wlad.  Hyderaf yn fawr iawn y gwelwch eich ffordd yn glir i dderbyn …

Gwahoddiad wedyn i gyfarfod dirprwyaeth o’r Pwyllgor Gwaith a thrafod pethau’n gyffredinol.  Cynigid dod i Gaerdydd, ar adeg o’m dewis i, ond yn weddol fuan. ‘Er mwyn Cymru, yr eiddoch yn gywir etc.’ Llofnod.  A’r ôl-nodyn!  ‘Byddwch yn cofio am y tâl aelodaeth, hanner coron.’

Wel do, yn gam neu’n gymwys, er gwell neu er gwaeth, mi es i’r cyfarfod, ymsonia Gruffydd eto, fel mor aml yn ceisio’i wneuthur ei hun yn ddealladwy iddo’i hun cyn ei wneuthur ei hun yn ddealladwy i’w gyd-genedl. Doedd Saunders ddim yno.  Wrth gwrs dydi o ddim yn dal swydd o unrhyw fath yn y Blaid, er mai fo ydi ei llais wythnosol hi i ddarllenwyr Y Faner.  A doedd Bebb ddim yno, yntau wedi rhyw ddieithrio oddi wrth y Blaid, ac am resymau tebyg iawn i’m rhesymau i.  Rhyfedd, rhyfedd, a ninnau’n cychwyn o fannau mor wahanol.  Pawb oedd yno, roedden nhw’n garedig iawn.  Fe gawsom drafodaeth agored, adeiladol –  a gonest rwy’n gobeithio.  Mi wnes fy safbwynt yn gwbl glir eto ar y rhyfel.  Pawb yn pwysleisio eto mai mater cydwybod oedd hwn, bod imi berffaith ryddid arno ac na byddwn yn atebol i unrhyw fath o Chwip.  Neu fel dywedodd rhywun, fi – petai hyn yn dod i derfyn llwyddiannus – fyddai’r Prif Chwip, yr Arweinydd a’r llefarydd ar bob peth.  Ac onid oedd  yna gymaint o bethau eraill, pethau hanfodol i fywyd Cymru, yr oeddem oll yn berffaith gytûn arnynt?  Gwir wrth gwrs, gwir iawn iawn. Addysg a diwylliant, cyflwr ein tai, iechyd, problemau cefn gwlad, ac yn anad dim, sefyllfa’r Gymraeg, ar y rhain y byddai gofyn inni ganolbwyntio, yng ngrym yr arwyddair ‘Rhaid i Gymru Fyw’.  Ac ym meddwl y Pwyllgor nid oedd neb cymhwysach na mi i  arwain ar y pethau hyn. Gobeithio fod hynny’n wir. Roeddwn i dan gryn deimlad, ac yn methu dweud dim am ychydig. Roedd rhywbeth yn fy ngyrru ymlaen, a rhywbeth yn fy nal yn ôl. Addawyd imi gronfa o gan punt at fy nhreuliau, a phob cymorth gan swyddfa’r Blaid, er y cawn ddewis fy asiant fy hun, oddi fewn neu oddi allan i’r Blaid. Gofynnais am dridiau i feddwl. Rhois bapur chweugain yn llaw J. E. Jones, heb ddweud mai tâl aelodaeth oedd.

Mae Gruffydd erbyn hyn wedi tanio’i getyn – nid â’r llythyr. Mae’n dal i astudio hwnnw’n ddwys, fel petai’n chwilio am ryw ateb rhwng ei linellau.  Torrir ar ei fyfyrdod gan ddyn ifanc yn sefyll o’i flaen ac yn estyn ei law.

‘Proffesor Gruffydd, prynhawn da.’

‘Mr. Bannerman-Jones, sut rydach chi ’machgan i?  Diolch am ddod i siarad efo fi.’

Ysgwyd llaw’n gynnes.

‘Mae’n braint gyfarfod chi, Proffesor Gruffydd.’

‘Dowch i ista fan hyn efo mi am funud.’

Mae Gruffydd yn rhoi’r llythyr yn ôl yn ei boced yn ofalus cyn mynd ymlaen. ‘Mi fyddaf yn diolch ichi ar goedd yn y man, ond gadewch imi ddiolch ichi’n bersonol cyn mynd ddim pellach.  Mae’n cefnogwyr ni’n dueddol i ddweud pethau gwylltion wrth gwrs, dyna natur etholiad, ond mi fuoch chi’n berffaith deg efo mi o’r dechrau, a gobeithio’ch bod chi’n teimlo’r un modd amdana inna.’

‘Dyna oeddwn i am dweud. Diolch yn fawr. Rydych chi wedi bod yn teg iawn.’

O fwriad, mae Gruffydd yn troi’r sgwrs oddi wrth wleidyddiaeth.  At waith Mr. Bannerman-Jones fel bargyfreithiwr yn Llundain.  Deall hefyd iddo raddio yn y Gyfraith yn Aberystwyth rai blynyddoedd yn ôl.  Sôn am rai o gymeriadau’r lle hwnnw  – yr Athro Thomas Levi, Mr. Timothy Lewis …

Daw Peate yn ei ôl.  Y gŵr ifanc yn ymesgusodi.  Gruffydd yn dymuno’n dda iawn iddo.

PEATE: Mae hi’n edrych yn o glir, rydw i’n meddwl, Gruffydd.  Rhyw ugain munud eto meddan nhw.

GRUFFYDD: O wel, cystal gen i weld ei diwedd hi bellach.  Hen hogyn bach digon clên ydi’r Bannerman-Jones ’ma, choelia i byth … ond bod ei dreiglada fo ’run fath â rhai’r Cipar yn Beddau’r Proffwydi ers talwm.

PEATE:   Ddowch chi draw, Gruffydd, ichi fodloni’ch meddwl?

GRUFFYDD:   Drychwch, Peate, os ydach chi’n fodlon, rydw inna.  Cerwch chi, mae gen i natur cur ’y mhen.  Mi ddo’ i draw pan fydd raid.

PEATE:    Ydi’ch araith yn barod gynnoch chi?

GRUFFYDD:   Mae’r ddwy’n barod. Sgrifennis i nhw neithiwr. Yn y boced chwith ’ma, mae gen i’r araith raslon.  Araith y collwr. Pob lwc iddyn nhw i gyd, ac ati, dim ond cofio am werth ‘y peth diwerth hwnnw’, fel deudodd rhyw sinig, ‘buddugoliaeth foesol’. Ac yn y boced dde fan hyn, mae gen i’r araith ddirodres, araith yr enillydd … rhag ofn, rhag ofn …

Ond rydw i wedi bod yn meddwl, wyddoch chi Peate, ac rydw i’n dweud wrthoch chi am y byddwch chi’n deall, pwy bynnag goblyn ulw fydd yn ennill hon heddiw, mi fydd yn andros o frwydr i’w chadw hi wedyn.

PEATE:   Os bydd hi’n para mewn bod.

GRUFFYDD:   Yn hollol, os bydd hi’n para mewn bod. Mae ’na ryw sôn, fel y gwyddoch chi, am ddileu’r hen seddau prifysgol ’ma, a rydw inna’n tueddu i ofyn, ddylai dyn gael dwy bleidlais yn unig am fod ganddo fo bwt o radd ar ôl ei enw.  Na ddylai chwaith, oherwydd cymharwch chi’r rhan fwya o’r rhain fan hyn heddiw, heb orfod edrych ddim pellach, efo hen chwarelwyr Llanddeiniolen, neu wladwyr Llanbrynmair.  O ran deall a diwylliant, does ’na ddim cymhariaeth. Ydach chi ddim yn cytuno?

PEATE:   Cytuno’n hollol, Gruffydd.

GRUFFYDD: Ond mynd i ddweud roeddwn i, os a phan ddaw heddwch, heb fod troed Hitler – na ato Duw – ar ein gwarrau ni i gyd, mi fydd yna etholiad. Ac mae gen i deimlad ym mêr f’esgyrn mai Llafur fydd piau hi yr adeg honno.  Mae’r rhyfel yma wedi cyflyru meddyliau pobol …

PEATE:   Ym mha ffordd yn union felly?

GRUFFYDD: Mae pobol wedi darganfod, fwy nag erioed o’r blaen am wn i, eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel ac yn fodlon wrth gael eu trefnu a’u catrodi, eu cyfarwyddo a’u gorchymyn a’u hanfon fan hyn fan draw. Collectivism … be ddywedwn ni yn Gymraeg?

PEATE:   Torfolaeth?

GRUFFYDD: Dyna fo. Oes torfolaeth ydi hi, pob dim sy’n groes i Draddodiad Llanbrynmair os mynnwch chi, ac mae gen i deimlad mai dynion fel Bevin a Morrison a Shinwell fydd yn dal ar ysbryd yr oes os byth gwelwn ni ddiwedd y gyflafan yma.

PETAE: Os na fydd prif gythraul y cyhoedd yno i’w herio nhw … !

GRUFFYDD: Ia wel, gawn ni weld, gawn ni weld …  Ylwch, dacw’r Mandarîn Mawr ei hun ’rochor draw acw …

Oedd, yr oedd Dr. Thomas Jones, Coleg Harlech, mewn ymgom ddwys â rhywun wrth un o’r drysau eraill.

PEATE:   Ydi o wedi bod i gael gair?

GRUFFYDD:   Dim ffiars o beryg!  Na, dydi o ddim yn fy nabod i heddiw. A faddeuith o byth imi ar ôl hyn, beth bynnag ddiawl ddigwyddith.

PEATE:   Be wnewch chi o’r stori y basa fo wedi sefyll ei hun petai Saunders yn sefyll?

GRUFFYDD:  ‘Â phleser mawr,’ glywais inna.

PEATE:   Ac mi fasa’n ennill?

GRUFFYDD: Mi fasa’n ennill dan ganu.  Rydw i’n dweud y gwir wrthoch chi, Peate, achos mi wn i y byddwch chi’n cytuno, yn yr hinsawdd a’r amgylchiadau sydd ohoni mi fasa coes brwsh yn curo Saunders, ac yn ei guro’n racs.  Fyddai dim byd arall yn bosib.

PEATE: Ac eithrio yn nychymyg rhai o’r Blaid, sef ym myd ffantasi …

GRUFFYDD:   Yn hollol, Peate.  Ond efallai bod yna ryw werth mewn ffantasi, cofiwch. Ffantasi sy wedi ei chynnal hi hyd yn hyn. Am ba hyd eto, dwn i ddim …  Be mae wyneb Tom Jones yn ei ddweud wrthoch chi …?

PEATE:   Hm.  Wn i ddim … wn i ddim. Well imi fynd draw …

Mae Peate yn mynd yn ôl at y swyddogion, a sudda Gruffydd drachefn fel mudan i ryw rith dawelwch. Ydyn, meddai wrtho’i hun wrth fynd eto dros hanes rhyfedd yr wythnosau diwethaf, mae cwrs y byd a throeon yr yrfa yn gallu gyrru dyn i wneud yr hyn na thybiodd erioed y byddai yn ei wneud.  Yn y tridiau ar ôl y cyfarfod hwnnw, mi fûm yn troi’r peth nos a dydd, drosodd a throsodd, a’r geiriau ‘tric’, ‘trap’ oedd yn mynnu dod i fy meddwl i. Ond pwy fyddai wedi dyfeisio’r fath beth?  Allwn i ddim, ac alla’ i ddim eto, feddwl mai Saunders na Daniel, D.J. na Valentine.  Dwedwch chi be fynnoch chi am yr hogia yma – a rydw innau, am fod fy nghydwybod yn ei fynnu, wedi dweud pethau hallt iawn dros y misoedd diwethaf – rhaid  ichi gytuno bod yna rywbeth … be ddywedwn ni? … unplyg, yn eu cylch nhw i gyd.  Unplyg, dyna’r gair, peth na byddai fy ngelyn pennaf byth yn meddwl ei ddweud amdanaf i. Ie, cynllun – cynllwyn – pwy?  Roedd yna rywbeth … ‘ddim cweit yn iawn’, ac erbyn y trydydd diwrnod roeddwn i wedi penderfynu gwrthod.  Teimlo, a rydw i’n dal i deimlo, mai fel ymgeisydd annibynnol y dylwn i sefyll, mai felly y byddwn i’n gredadwy, yn driw i mi fy hun ac i’m hargyhoeddiadau dyfnion, ac mai felly hefyd y cawn i’r gefnogaeth eang a allai droi’r peth yn rhywbeth heblaw ffars.  Roeddwn i wedi drafftio nodyn, yn gwrthod yn y modd caredicaf posib. Yna fe ddaeth yr ail lythyr. Hwnnw trodd hi …

Daw Peate yn ei ôl.

PEATE:   Ailgyfri cyflym iawn eto, Gruffydd.  Rhyw ddeng munud.

GRUFFYDD:   O  wel.  Sut … sut mae hi’n edrych?

Nid yw’n arfer gan Peate dynnu coes.  Ond y tro hwn ni all wrthsefyll y demtasiwn.

PEATE:   Diddorol!

Mae Gruffydd yn ymbalfalu yn ei boced ac estyn yr ail lythyr.

GRUFFYDD:   Dydw i ddim wedi dangos hwn ichi, nac ydw, Peate?

PEATE:   Rhoswch chi, naddo am wn i.

GRUFFYDD: Darllenwch o.

Annwyl Gruffydd,
Efallai y barnwch nad yw hyn yn ddim o’m busnes i, ac os felly rhowch y nodyn hwn yn y tân. Mae’r hen frân wen yn brysur iawn yng Nghymru fel y gwyddoch yn dda, a doedd gen i ddim help clywed fod y Blaid Genedlaethol wedi cychwyn trafodaeth â chwi gyda golwg ar eich mabwysiadu’n ymgeisydd yn yr isetholiad allweddol sydd ar ddod. Yn fyr, rwy’n gobeithio, er mwyn Cymru, er mwyn ein traddodiad gwerinol, er mwyn popeth sy’n werthfawr gennym, y byddwch yn derbyn.  Fel y gwyddoch efallai, nid wyf yn aelod o’r Blaid, ac ni chefais erioed (mwy na chwithau, rwy’n dyfalu) gyfle i bleidleisio iddi.  Rwyf yn ewyllysiwr da iddi, wedi cyfrannu ambell hatling at ei chronfeydd cyn hyn, ond drwy’r adeg yn ansicr – anhapus a dweud y gwir plaen – ynghylch rhai agweddau ar ei rhaglen. A dyna pam y byddai eich cyfranogiad chwi yn dyngedfennol ar yr achlysur hwn. Bydd raid inni wrth fudiad cenedlaethol gwleidyddol o ryw fath yng Nghymru, ac nid wy’n amau na ddaw ei gyfle pan ddaw heddwch. Pa fath fudiad yr ydym am ei weld yn datblygu?  Mudiad dan fawd y Babaeth, yn rhamantu am ryw Ganol Oesoedd Cymreig dychmygol,  yn coleddu awdurdodaeth mewn byd ac eglwys, yn ymrwbio’n beryglus yn y rhai yr ydych chwi, yn gwbl gywir, wedi arfer eu galw yn ‘wŷr yr Adwaith’?  Ynteu mudiad â’i wreiddiau yn ein traddodiad gwerinol a democrataidd, yn cymhwyso at amgylchiadau newydd ein gwerthoedd radicalaidd – ein gwerthoedd Ymneilltuol hefyd, dywedaf  hynny heb olygu unrhyw amarch i neb o draddodiadau eraill, a chan wybod y byddwch chwi’n deall.  Yr hyn sydd yn y fantol yw holl ddyfodol y mudiad cenedlaethol. O lwyddo yn yr etholiad hwn, gallwch fod yn sicr mai chwi – ac nid rhai eraill nad oes raid imi eu henwi –  fyddai’n gosod ei gywair ac yn pennu ei gyfeiriad.  Yr ydych wedi bod yn bensaer o’r blaen, pensaer Y Llenor, pensaer adroddiad ‘Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd’, pensaer yr Eisteddfod ar ei newydd wedd.  Gallwch fod yn bensaer y Gymru newydd. Oes yw hon ac arni angen llais annibynnol, llais y Proffwyd, llais y sawl sydd wedi ymwrando â’r Sylwedd, a’r sawl a ŵyr mai Rhyddid a Rheswm yw’r unig seiliau diogel i adeiladu arnynt.  Dyna fy meddyliau.

Cofion cynnes … etc.

PEATE: Yn llygad ei le. Taro’r hoelen ar ei phen.

GRUFFYDD: Mi alla’ i ddweud wrthoch chi, Peate. Hwnna drodd y fantol. Hwnna setlodd hi. Er gwell neu er gwaeth.

PEATE: Llythyr hanesyddol.  Cadwch o’n ofalus.  Well i mi fynd draw eto.

Gadewir Gruffydd i droi yn ei feddwl eto bethau na allodd eu crybwyll hyd yn oed wrth ei gyfaill a’i asiant. Do, ar ôl derbyn y llythyr yna a’i ddarllen rai gweithiau, mi sgrifennais nodyn brysiog at Bwyllgor Gwaith y Blaid … yn derbyn, ac yn addo ymgyrchu hyd eithaf fy ngallu dros y pethau sy’n ein huno. Y noson honno, ar ôl postio’r nodyn, mi glywais si, a ches gadarnhad ohoni y dyddiau nesaf, fod y Rhyddfrydwyr wedi ystyried gofyn imi sefyll!   Fy mwrw i drobwll o feddyliau wedyn. Difaru?  Gofidio? Nid yn hollol efallai, ond gofyn cwestiynau o hyd.  Oni fyddai sail ehangach, gadarnach o gefnogaeth imi fel Rhyddfrydwr, heb fynnu fy mod i’n newid yr un iota ar fy nghredo? Onid fel Rhyddfrydwr y byddwn i fwyaf credadwy i mi fy hun?  O ble daw’r gefnogaeth heddiw?  Rydw i’n meddwl y caf y Cenedlaetholwyr bron i gyd, er gwaethaf pob gwahaniaeth a fu.  Mae imi gefnogaeth Y Faner, os ydi hynny’n werth rhywbeth, a chefnogaeth papurau’r Herald trwy Meuryn. Rhyfeddol fel y trodd Y Cymro a’m cefnogi, ar ôl blynyddoedd o wrthwynebiad i’r Blaid Genedlaethol, gwrthwynebiad ffyrnig oddi ar ddechrau’r rhyfel.  Gyda’m cyfaill mawr R. G. Berry fe ddaeth nifer da o weinidogion yr Annibynwyr, rhai Bedyddwyr ac o leiaf un Wesle. Roeddwn i wedi hanner gobeithio y dôi J. Morgan Jones, Bala-Bangor … ond ergyd rhy bell efallai.  Rwy’n meddwl y byddai Henry Lewis wedi hoffi fy nghefnogi i, ond hollol amhosibl fyddai hynny o gofio popeth sy wedi bod.  Byddaf bob amser yn ceisio cofio hyn: pan ddaw dyn i’r bwth bach yna, mae’n pleidleisio, nid â’i ben, ac nid â’i galon, ond â’i law. Maddeuant rhad felly y tro hwn – er nad yn 1936 – i  Ifor Williams, Thomas Richards a’m cyfaill pennaf, R. T. Jenkins.  Nid yn unig fynnen nhw ddim, fedren nhw ddim.

Do, bu dyfalu, holi, sôn a sibrwd mawr, pwy a safai dros y Rhyddfrydwyr.  Enwau amlwg ac anamlwg yn cael eu crybwyll.  Yr amser yn mynd rhagddo, neb o’r hoelion wyth am ei mentro hi.  A’r goelbren yn syrthio yn y diwedd ar y bachgen bach ’ma.  Yn awr, petai … y dyn maen nhw i gyd yn ei ofni … yn ymgeisydd y Blaid, fe fyddai yma fyd gwahanol iawn, a byddai gan y Mandariniaid, fe allwch fod yn sicr, ymgeisydd cryf ac adnabyddus.

Wedyn y trydydd llythyr.  Er nad oes gwaith cofio arno, mae Gruffydd yn ei dynnu o’i boced ac edrych eto ar y neges gynnil mewn llawysgrifen fras, gref:

Pob llwyddiant!   S.L.

Ar draws yr ystafell mae Peate yn rhoi arwydd pum bys i fyny, i Gruffydd ei ddehongli fel pum munud i fynd.  Ond yn y munudau olaf hyn does dim llonydd gan gwestiynau. ‘Y lladdedigion hyn’ y gelwais i’r Aelodau Seneddol Cymreig rai blynyddoedd yn ôl.  Beth a wnawn i yn eu plith nhw?  Beth a wnaf i, petai hi’n digwydd …?

S. R.: Cynhyrfwch!  Cynhyrfwch!

GRUFFYDD:  Wel ia debyg. Dyna fyddai raid.  Ond wedyn …  Os … pe bai … a bwrw bod … sut y down i ben â’r gwaith?  Oes beryg y byddai hwnnw’n ‘rhy gonstant’, chwedl Ned Cando ers talwm? A fyddai pethau eraill yn dioddef?  Y Llenor?  Fe gawn bob help gan T. J. Morgan, mi wn i hynny. Yr Adran Geltaidd?  Dwylo diogel G. J. Williams.  A ddylwn i ymddiswyddo o’r Coleg?  Mae rhai wedi gofyn y cwestiwn imi, a minnau wedi ei ofyn i mi fy hun lawer tro. Fyddai hi’n iawn imi dderbyn y ddau gyflog?  Wedi petruso llawer, mi benderfynais mai fy nyletswydd fyddai derbyn. Byddai hynny’n fy ngalluogi i gefnogi’n well rai achosion yng Nghymru sy’n agos at fy nghalon.  A pheth arall …

TWM HUWS:       Deuddeg morwyn dlysa’r ddaear
Am ein gyddfau’n rhoi eu dwylo,
Hanner-gwenu, hanner-wylo,
Ac yn gwahodd, ‘Cymer fi’.

GRUFFYDD:  Ie, beth … petai … ryw ddydd … annhebygol, ond pwy all ddweud?  … wraig arall i’w chynnal?

MARY DAVIES:        Gelli wisgo’r siwt o sidan
Gedwis at ’y mhriodas, Siân;
Ti gei briodi Wil, os mynni,
A rhoi ’mhetha ar y tân.

Daw Peate eto, yn eithaf cynhyrfus.

PEATE:   Dowch i’r blaen, Gruffydd.  Maen nhw’n barod rëan.

MODRYB CAE META:   Mae’n well iti ’i chychwyn hi rŵan, neu mi fydd dy nain yn dwrdio.

Mae’r ystafell yn eithaf llawn erbyn hyn, ond y dyrfa’n agor i wneud lle i Gruffydd a’i asiant ymwthio tua’r bwrdd.  Heb ei fynegi, mae rhyw ysbryd da  yn y dorf, ac efallai y gall Gruffydd deimlo rhyw gynhesrwydd tuag ato.

Mae’r ymgeiswyr a’u cynrychiolwyr yn ymdrefnu’n rhes tu ôl i Gofrestrydd y Brifysgol, dyn taclus, gweddol fyr, gyda bwstas bach. Mae yntau’n taro’r bwrdd â morthwyl bach cadeirydd.

Y COFRESTRYDD (yn Saesneg): Gawn ni dawelwch yn awr os gwelwch chi’n dda … ?  Dyna ni … diolch yn fawr …   Diolch ichi i gyd am fod mor amyneddgar.  Mi allwn ni yn awr wneud y cyhoeddiad, ac fe fydd yr enwau yn nhrefn yr wyddor.  [Tawelu. Ambell beswch. Y drws yn agor, chwa o awel oer, â’r effaith fel bob amser o wneud pobl yn fwy ymwybodol o’r oglau mwg baco.  Tawelwch.]   Yr wyf i sy’n arwyddo isod, fel Swyddog Etholiad Gweithredol yn etholaeth Prifysgol Cymru, trwy hyn yn cyhoeddi fod nifer y pleidleisiau a fwriwyd yn yr isetholiad hwn, heddiw y degfed dydd ar hugain o Ionawr 1943, fel a ganlyn … [Yr adeg honno nid oedd yn arfer enwi’r pleidiau wrth gyhoeddi; rhaid i Gruffydd, a phawb arall, glywed y disgrifiadau yn eu pennau.]

Roderick Bannerman-Jones [Y Blaid Ryddfrydol]         1956
Alun Talfan Davies [Annibynnol]                                        755
Evan Davies [Sosialydd Annibynnol]                                 634
Neville Evans  [Sosialydd Annibynnol]                              101
William John Gruffydd [Plaid Genedlaethol Cymru]     2472

Nifer y pleid …   [Cymeradwyaeth gynnes. Ambell wawch.] Nifer y pleidleisiau a fwriwyd … dyna ni … diolch yn fawr:   5938.   Papurau wedi eu sbwylio: 4.  Yr wyf trwy hyn yn cyhoeddi fod y dywededig William John Gruffydd wedi ei ethol … [Cymeradwyaeth.] Diolch yn fawr … dyna ni …  wedi ei ethol mewn trefn yn Aelod Seneddol dros etholaeth Prifysgol Cymru …

Mae rhywun yn taro Hen Wlad fy Nhadau. Mae’r Dr. Thomas Jones yn mynd allan yn dinslip.  Cymeradwyaeth eto.

JONA a BOB Y PEINTAR (canu):

Dyy siêds of neit wer ffoling ffast
Ass thrw an Aplein villeds past
A uwth hw bôr mid snô an eis
A banar wudd y strênds diveis

EC-SEL-SI-ÔR.

Gwthir Gruffydd i’r blaen. Am ennyd ymddengys ei fod yn ansicr beth sydd wedi ei daro. Mae’n cythru i’w boced am un o’r ddwy araith. Ond mae’n rhaid mai’r ‘araith raslon’ yw hon.  I’r boced arall, ie dyma’r ‘araith ddirodres’.

GRUFFYDD:   Mr. Swyddog Etholiad, a chyfeillion oll, fy nhasg i – fy unig dasg – ydi diolch. Diolch i chi, syr, am gymryd yr holl drefniadau mewn llaw, a’u cwblhau yn eich dull bonheddig a diffwdan arferol.  Rydym oll yn ddyledus ichi.  Diolch i bawb sydd wedi helpu gyda’r cyfri y bore ’ma. Diolch i’r heddlu am fod efo ni, rhag iddi fynd yn reiat. [Ia, ’rhen Robaits y Plismon yn Beddau’r Proffwydi ers talwm!]  Diolch yn arbennig, gen i yn bersonol, i fy asiant, Dr. Iorwerth Peate, y dyn a wnaeth fwyaf i sicrhau’r canlyniad hanesyddol hwn heddiw. … [Clap i Peate.] Rydw i wedi diolch yn bersonol, a dyma fi’n gwneud ar goedd, i’r pedwar ymgeisydd arall, sydd wedi cynnal ymgyrchoedd teg a chwrtais.  Mae yma bedwar gër ifanc, gyfeillion, a chanddyn nhw gyfraniad mawr i’w wneud i fywyd Cymru, a gobeithio’n fawr y cawn ni glywed ganddyn nhw yn aml dros y blynyddoedd nesaf. I bob un o’r pedwar, rydw i’n estyn fy nymuniadau da, o wirfodd calon … [Clap i’r pedwar, ac i eiriau hael Gruffydd.] Ac yn awr, diolch i bawb sy wedi gweld ei ffordd yn glir i nghefnogi i.  Rydych chi i gyd wedi mentro’n ofnadwy, bwrw pleidlais i ‘sergeant-major y cythreuliaid’ fel y dywedodd rhywun amdana i yn Y Ford Gron rai blynyddoedd yn ôl. [Chwerthin, o ewyllys da tuag at y sergeant-major.] Dyna fo, os aiff y simdde ar dân, na chwyned neb ei bod hi’n ddiwrnod golchi!  Ond o ddifri, gadewch imi ddweud hyn, a gadewch imi addo ichi. Gwaith plaid mewn etholiad ydi cynrychioli carfan, a thrwy hynny roi dewis i’r etholaeth. Ond, os ydw i wedi ei darllen hi’n iawn, gwaith yr Aelod Seneddol, o’r funud yr etholir o, ydi gwasanaethu pawb o’i etholaeth, a bod yn barod i gynorthwyo pob un  o ba liw bynnag, hyd eithaf ei allu. Hyn, rydw i’n addo ei wneud, ac yn eidduno nerth i’w wneud yn drylwyr.

[Dyna Gruffydd wedi dod i ben â’i araith ysgrifenedig. Ond mae rhywbeth yn cydio ynddo.  Mae’n anghofio’i natur cur pen, ac yn anghofio ei fod yn siaradwr cyhoeddus gwael. Mae fel dyn wedi dod yn ôl o Lyonesse a’r lledrith lond ei lygaid. Neu ddyn wedi penderfynu, am y tro, na waeth iddo ymeneinio funud awr ag olew poblogrwydd, gan na phery hwnnw yn hir.]

Dydw i ddim am eich cadw chi, a ddois i ddim yma heddiw i sôn am bolitics. [Chwerthin.] Ond choelia’ i ddim, gyfeillion, y byddai neb yn gwadu ein bod ni yma, y funud hon, ar achlysur hanesyddol, trobwynt yn hanes Cymru. Rhag ofn bod rhywun heb ddeall, mae Plaid Genedlaethol Cymru wedi ennill ei sedd seneddol gyntaf. [Cymeradwyaeth hir, gan bron bawb.] Ar helynt y byd mawr drwg yma, does dim angen i mi ymhelaethu dim.  Mi wyddoch fy marn i am Hitler ddreng a Mussolini lwfr a Franco grefyddus. Gobeithio cawn ni weld dydd, a hynny’n fuan, pan na fydd y rhain, na neb yr un fath â nhw,  yn poeni gwareiddiad ddim mwy. [Cymeradwyaeth.] Yn y cyfamser, Cymru, ei bywyd, ei diwylliant, ei hiaith fydd ein gofal ni, a ’ngofal innau, rydw i’n eich sicrhau chi, ble bynnag y caf fy hun. Rhaid i Gymru Fyw. [Cymeradwyaeth.] Gadewch inni i gyd gofio – ac mi fyddaf innau’n ceisio cofio – mai cyfrwng ydi plaid, nid diben ynddi ei hun. [Clywch! Clywch!]  Pwrpas plaid ydi gwasanaethu, ar y naill law drwy roi llais, ac ar y llaw arall drwy wrando. Wrth wrando, mae hi’n dysgu, ac yn aeddfedu.  Dyma’r Blaid Genedlaethol heddiw yn ddewis y Brifysgol. [O, mi fydd yn cael ei ddweud o hyd, ‘Plaid y Colegau, Plaid Sgolars’. Ond myn coblyn i mi fydd yn llai o ‘Blaid y Pab’ o heddiw allan!]  Yfory, fe fydd yn ddewis y wlad.  Plaid y Cymry. Plaid Cymru.  Canys dyna ddylai hi fod. [Cymeradwyaeth.] Dyma chi’n fy ngyrru i heddiw i le newydd, ac fe all fod yn lle rhyfedd iawn i greadur fel fi. Ond, fel y dywedodd Emrys yn Beddau’r Proffwydi ers talwm, ‘os ydyn nhw am ’y ngyrru i’r cythraul … mi a’!’ [Chwerthin, cymeradwyaeth.] Diolch yn fawr ichi i gyd! [Cymeradwyaeth.]

Gair byr o ddiolch a llongyfarch gan yr ymgeiswyr eraill. Ymdreiglo at allan, Gruffydd a Peate ymhlith yr olaf.  Oes, mae tyrfa, nid mor fach erbyn hyn, wrth risiau’r Gofrestrfa, ac mae dwy neu dair draig goch wedi ymddangos yn sydyn o rywle, a phosteri wedi eu llunio’n frysiog yn dweud ‘Llongyfarchiadau!’, ‘Rhaid i Gymru Fyw!’, ‘Gruffydd am byth!’   Cymeradwyaeth wresog, llawer o ysgwyd llaw.  Gair byr â merch ifanc o’r Western Mail.

Wrth gerdded i ffwrdd mae Gruffydd yn dal i ofyn y cwestiwn iddo’i hun, ‘ai tric?’. Nid hwnnw y mae’n ei ofyn i Peate, ond cwestiwn cysylltiedig.  ‘Rydw i wedi bod yn meddwl, wyddoch chi Peate, be sy wedi digwydd mewn gwirionedd yn yr etholiad yma?  Ai’r Blaid Genedlaethol sy wedi fy mabwysiadu i, ynteu fi sy wedi mabwysiadu’r Blaid?  Be feddyliwch chi?’’

Am unwaith yn ei oes, nid yw Peate yn sicr o’r ateb.

O.N.   Bydd dyled y stori hon yn amlwg i rai o weithiau W. J. Gruffydd, a rhai gweithiau amdano.  Mae iddi ddyled benodol i dudalen 178 o gofiant T. Robin Chapman i Gruffydd yng  nghyfres ‘Dawn Dweud’.

Un Ymateb to “Stori Fer: Trobwynt”

  1. G Evans Mehefin 4, 2013 at 9:54 am #

    Gwych iawn! Melys moes mwy!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: