Cymry ar Wasgar

1 Gorf

Ddoe, dydd olaf Mehefin, fe godwyd mater pwysig gan yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd.   Galwodd ar i’r Gweinidog Addysg newydd adolygu ffioedd dysgu myfyrwyr yng Nghymru.

Ar fin dweud “fel y cofir …”, mi gofiais nad yw pobl, yn gyffredinol, yn cofio. Yn ôl at ddechrau’r stori felly. Yn 2005, o dan bwysau gan y tair gwrthblaid (Ceidwadwyr, Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru), cytunodd llywodraeth Lafur y dydd i roi ychydig o fantais ariannol i fyfyrwyr o Gymru a oedd yn dewis astudio yng ngholegau Cymru. Daeth arwyddion bach fod y polisi’n dechrau gweithio, ond ni chafodd weithio’n ddigon hir i ddangos canlyniadau pendant. Lladdwyd yr ŵydd fel yr oedd hi’n dechrau gwneud sŵn dodwy.

Pan ddaeth llywodraeth “Cymru’n Un” (Llafur a Phlaid Cymru) i rym, derbyniodd hi argymhelliad i ddadwneud y polisi hwn, hynny yw dileu’r wobr fechan i fyfyriwr o Gymro am aros yng Nghymru.  Gwnaed yr argymhelliad gan banel dan gadeiryddiaeth yr Athro Merfyn Jones, a oedd yn cynghori’r llywodraeth ar faterion Addysg Uwch. Yr oedd yr Athro Jones yn Brifathro Bangor ar y pryd. Ers rhai blynyddoedd bellach mae’n Llywydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gwlad Pob Peth o Chwith.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi gwrthod yr enw a ddylai fod arno, yr enw y bu ymgyrchwyr o’i blaid yn ei argymell bron o’r cychwyn, “Coleg William Salesbury”, bellach wedi sefydlu “Cronfa William Salesbury”, i gefnogi myfyrwyr sydd am ddilyn cyrsiau trwy’r Gymraeg a than nawdd y Coleg.  Hwyrach, ryw ddydd, pan fydd Llywydd newydd ar y Coleg, a phan fydd yr enw iawn ar y Coleg,  a phan fydd y llywodraeth wedi adfer polisi 2005, y cyfranna’r hen G.A. ryw hatling at y gronfa. Ddim cynt.  

Ond yn awr dyma’r Athro Riordan wedi gwneud y pwynt. Cyfieithaf adroddiad y Western Mail:   “Gyda chymaint o fyfyrwyr yn mynd i Loegr i astudio, dywedodd yr Athro Riordan mai canlyniad y  polisi yw fod Cymru’n anfon cyllid allweddol, wedi ei dderbyn gan Westminster, yn ôl i brifysgolion Lloegr.”   A dyfynnir ei eiriau: “Gallaf weld fod y polisi’n gymorth mawr i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru.  Y sgil-effaith anffodus yw fod llywodraeth Cymru yn y diwedd yn cyllido prifysgolion Lloegr, ac rwy’n sicr nad dyna’r bwriad gwreiddiol.”

Beth oedd y bwriad gwreiddiol, wn i ddim, ac rwy’n amau na wyddai llunwyr y polisi chwaith.

Oddi ar 1998 yr wyf wedi traethu llawer ar y mater hwn, y “gwaedu mawr” o ysgolion Cymru bob mis Medi.  Drwy’r cyfan yr wyf wedi osgoi dweud dim am gymhellion personol. Os yw’r unigolyn am “osgoi ei lleferydd a’i llên”, nid yn unig gallaf ddeall hynny, ond gallaf gydymdeimlo â hynny.  Nid wyf erioed ychwaith wedi ymbil ar neb o’r plant alltudiedig i ddod yn ôl. Os yw’r dewis wedi ei wneud, dyna ni, rhaid ei dderbyn. Yn iach iti Gymru. Yr wyf wedi ceisio edrych ar y peth yn amhersonol, fel ffaith gymdeithasol, wleidyddol, ddiwylliannol, fel tuedd neu batrwm yn hanes dosbarth a chenhedlaeth o Gymry. Fel y cyfryw mae’n rhan o’r un dinistr ag a adlewyrchir yn ystadegau iaith 2011. Mae’n un o arwyddion diwedd pobl, eu diflaniad.

Y mae  –  neu efallai y dylem ddweud bellach “yr oedd” – cymdeithas academaidd Gymraeg gref, amrywiol, ddiddorol yn un o angenrheidiau’r Cymry.  Dyna oedd gen i mewn golwg wrth ddychwelyd at y pwnc hwn dros nifer o flynyddoedd.  Efallai nad yr un peth sydd mewn golwg gan y Prifathro Riordan. Ond byddai’n dda petai’r llywodraeth yn gwrando arno.

Un Ymateb to “Cymry ar Wasgar”

  1. Geraint Jones Medi 30, 2013 at 10:55 pm #

    Mae’r mater hwn, ran pwysigrwydd, ar yr un gwastad â sgandal affwysol Prifysgol Cymru. Un peth y dylid ei gofio bellach – ysywaeth – yw nad yw ffigurau Cyfrifiad 2011 yn adlewyrchu gwir natur problem Cymru, sef problem hunaniaeth.

    1. Os yw canran y ‘siaradwyr’ Cymraeg yn 19%, nid dyna ganran ei defnyddwyr.

    2. Y gwir amdani yw bod tua 95% o’r ‘siaradwyr’ Cymraeg yng Nghyfrifiad 2011 yn Saeson ym mhopeth ond eu hiaith – meddylfryd, arferion, pleserau, uchelgais, adloniant etc. etc. Mae’n dristwch hyd ddagrau. Serch hynny, dal ati ‘rhen Adda !

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: