Wrth adolygu Cyfrolau Cenedl 7, Dramâu W. J. Gruffydd, dywedodd Dr. J. Graham Jones yn Y Cymro am y gyfres yn gyffredinol:
‘Cynhwysir yn y gyfres nifer o weithiau y mae’n hynod anodd cael gafael arnynt yn ein dyddiau ni heddiw, a mawr yw ein dyled i’r golygydd am sicrhau eu bod ar gael i ddarllenwyr cyfoes.
Golygwyd pob un i’r safonau golygyddol uchaf, cynhwysir rhagymadrodd penigamp ym mhob achos.
Hyfryd darllen bod danteithion pellach yn yr arfaeth eto o fewn y gyfres bwysig hon. … Yn ddi-os bydd disgwyl eiddgar amdanynt oll a gwerthfawrogiad llawn a brwdfrydig ohonynt. … Mae’r llyfrgell a adeiladwn bob yn rhifyn fel hyn yn ffynhonnell bwysig i unrhyw un sydd yn ymddiddori yn hanes a llenyddiaeth Cymru.’
Dyna ichi farn dyn yn gwybod ei bethau. Ac edrych ymlaen, gallwn gyhoeddi y bydd cydymaith i’r gyfrol hon, Eira Llynedd ac Ysgrifau Eraill gan W. J. Gruffydd, yn ymddangos fis Medi. Hon fydd Cyfrolau Cenedl 8, ac efallai y bydd “Pecyn Llanddeiniolen” ar gael am bris bargen bach.
Yn y cyfamser, gallwch ddarllen y stori “Trobwynt” ar y blog hwn. Jôc? Ie efallai, ac eto nid dim ond jôc. Beth petai … onid e ?
Gadael Ymateb