Wel, Deulu bach…

24 Med

Dau deulu Cymreig sydd wedi mynd yn rhan o lafar gwlad.  ‘Teulu Abram Wd’ yw’r cyntaf, a aeth yn ymadrodd am deulu mawr, canghennog, – yn enwedig pan fyddai criw ohonynt yn glanio gyda’i gilydd yn rhywle. ‘Ew, dyma deulu Abram Wd wedi cyrraedd!’  ‘Teulu Bach Nantoer’ yw’r ail, yn enwedig mewn cyfarchiadau: ‘Wel Deulu Bach Nantoer, sut mae pawb yma heno?’  ‘Wel, Deulu Bach Nantoer, thâl hi ddim fel hyn welwch chi.’ 

A dyma’r hen G.A., drwy fenthyca’r teclyn gan ei fab, wedi darllen ei e-lyfr cyntaf. Ie, Teulu Bach Nantoer, wedi ei olygu ar ei ganmlwyddiant gan Siwan M. Rosser gyda rhagymadrodd priodol dros ben, a’i ryddhau drwy’r ddyfais newydd gan Cromen. Da iawn wir.

‘Pam na wnaeth Dalen Newydd hyn, yng nghyfres Cyfrolau Cenedl?’  Ateb, canolbwyntio gormod ar Beddau’r Proffwydi, hithau’n gant oed eleni, hithau’n llawn o’r themâu mythaidd a oedd, mae’n amlwg, yn bethau byw i Gymry 1913, yn arbennig Dychweliad y Plentyn Coll i’r Hen Aelwyd Gymreig.

Aeth trigain mlynedd a mwy heibio oddi ar imi ddarllen Teulu Bach Nantoer o’r blaen.  Rwy’n meddwl imi ei fwynhau gryn dipyn yn fwy heddiw na’r pryd hynny, – er gwaetha’r ffaith imi ei gael yn rhodd gan gyd-ardalwr caredig.  Tipyn yn ddiniwed oedd hanes y Teulu Bach i hogyn a oedd erbyn hynny wedi treulio oriau difyr lawer, – ie oriau mawr hefyd – uwchben Luned Bengoch a’r Dryslwyn, Capten, Nic a Nic Oedd, Nic Fydd, Nedw a Hunangofiant Tomi, Dai y Dderwen a Siencyn Tanrallt, Madam Wen, Dirgelwch Gallt y Ffrwd a rhai o nofelau Meuryn.  Peth arall hefyd. Bu T. H. Parry-Williams, meddai ef, ‘unwaith yn fachgen deg, / Yn gallu llwyr-gredu mewn Tylwyth Teg’. Ond rhaid fy mod i erbyn yr oedran hwnnw – ie, ‘bachgen deg’ oeddwn hefyd – wedi rhoi’r gred honno o’r naill du. Daeth yn ei hôl, rwy’n falch o ddweud, ers llawer blwyddyn, neu o leiaf fe ddaeth llwyr barodrwydd i dderbyn y Stori Dylwyth Teg fel math neu ddosbarth o stori.

Rheswm arall am y mwynhad mawr y tro hwn oedd darllenadwyedd y testun, wedi ei ddiweddaru y mymryn angenrheidiol o ran orgraff ond heb ymyrryd dim oll â’r geiriad (egwyddor Cyfrolau Cenedl hefyd).  Wedi gweld paragraff gwyddom y gallwn ddarllen ymlaen yn ddiogel hyderus ddiddamwain, heb berygl camu i bwll o ddiffyg ystyr a chamgystrawen, – fel a all ddigwydd inni ysywaeth mewn peth o’r sgrwtsh anllythrennog a ganmolir ac a wobrwyir heddiw.

Fe ddywedir fod y Teulu Bach wedi gwerthu 30,000 ar ei ymddangosiad cyntaf. Bydd yn ddiddorol gweld sut y gwna ar ei newydd, newydd wedd.

§

Gyda chyhoeddi’r e-lyfr bu tipyn o drafod ar fywyd a gwaith ei awdures, L. M. Owen (Jones wedyn), Moelona.  Da iawn o beth yw hyn hefyd. Mi ddywedaf air yma am ddau o blith ei llyfrau niferus.

Yr oeddwn wedi darllen Storïau o Hanes Cymru rai blynyddoedd cyn darllen Teulu Bach Nantoer, a hefyd wedi ei astudio (wedi ei ‘wneud’, fel y dywedem) yn Ysgol Penfforddelen erbyn bod yn rhyw ddeg oed. Teimlaf ddyled iddo o hyd, fel i’w gydymaith, eto o wasg Hughes a’i Fab, ond mor wahanol ei deimlad, Ein Hen, Hen Hanes gan W. Ambrose Bebb.  Caf fy hun yn meddwl cryn dipyn amdano y dyddiau hyn, wrth edrych ymlaen at ddiwrnod ‘Ar Wib  trwy Hanes Cymru’, sydd i’w gynnal yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, ddydd Sadwrn 19 Hydref.   Sut mae adrodd dwy fil o flynyddoedd o hanes pobl – ie, fe ddywedwn ni ‘hanes cenedl’ am y tro, heb wynebu’r her o ddiffinio ‘cenedl’ – lle mae un chwaraewraig amlwg yn absennol?  Y chwaraewraig honno yw’r wladwriaeth. Pa stori sydd i’w hadrodd lle nad oes gwladwriaeth o gwbl am ran helaethaf y cyfnod, na phrin gysgod o’r un, na fawr obaith sefydlu un? Gallaf ddychmygu rhai o haneswyr Lloegr, er enghraifft, yn dweud fod y peth yn amhosibl. Ond fe waeth haneswyr y Cymry rywbeth ohoni, rywsut neu’i gilydd. Fe ellir sôn am gyflwr y bobl. Fe ellir sôn am sefydliadau, eu twf a’u gwaith. Ac fe ellir sôn am ymdrech unigolion i gadw pethau i fynd.  Dyna, yn bennaf, a wnaeth Moelona, o gwymp y Llyw Olaf ymlaen: ymdrechion Owain Glyndër, John Penry, Yr Esgob Morgan, Griffith Jones … a rhes o rai eraill hyd at ei hoes ei hun. Gallai pawb ohonom amrywio’r rhestr o unigolion, ond mae’r patrwm yn gwneud synnwyr.  Mwy na hynny, mi gredaf ei fod yn gwneud synnwyr hefyd i ni blant, drigain mlynedd yn ôl.  Mwy na hynny eto, mae gen i  hefyd ryw syniad iddo helpu i’n cadw ar y trywydd iawn.

Heddiw ddiwethaf dyma’r adroddiad ar ‘Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru’, gwaith grŵp wedi ei sefydlu gan y Llywodraeth.  Dyma ni, ‘bydd angen buddsoddiad sylweddol mewn hyfforddiant mewn swydd ar gyfer pob athro/athrawes’.  Digido deunyddiau, mewnosod, arfer da cyfredol, cydlynydd pwnc, ail-strwythuro, mynediad rhwydd &c &c … a holl rwtshi-ratsh arferol jargon byd addysg ein dydd.  Ar fy ngwir, petai pob plentyn Cymraeg ei iaith, i ddechrau, yn cael darllen neu ‘wneud’ Storïau o Hanes Cymru Moelona erbyn bod yn un ar ddeg oed, byddai’n gychwyn da iawn. Ac fe ddysgai’r  athrawon andros o lot hefyd.

§

Ffynnonloyw, a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 1939, yw’r fwyaf uchelgeisiol o nofelau Moelona. ‘Stori Tair Cenhedlaeth’ y gelwir hi, a daw i’r cof mai dyna a ofynnid yng nghystadleuaeth y nofel, Eisteddfod Castell Nedd, 1934.  Gosodwyd Traed Mewn Cyffion (Kate Roberts) a Creigiau Milgwyn (G. Wynne Griffith) yn gydradd fuddugol gan y beirniad, Dr. Tom Richards, mewn dyfarniad dadleuol.  Hyd y gwelaf, ni chynigiodd Moelona mo’i nofel hi. Petai wedi gwneud, buasai’n rhaid ei hystyried yn ymgeisydd teilwng. Mae Ffynnonloyw yn stori o gryn graffter, ar y thema ddiosgoi o Chwalfa, yn gofyn yn bryderus ‘beth a ddaw o’r hen deulu, ac o’r hen le?’, ac yn hynny o beth ar briffordd rhyddiaith storïol Gymraeg yr ugeinfed ganrif. Hanes teulu go helaeth o gefndir Moelona ei hun sydd yma, pawb yn ymadael, yn mynd ar wasgar, y rhan fwyaf yn golledig i Gymru, ond un neu ddau’n cael eu hachub fel pentewynion tân.  Gyda mwy o drwch (can tudalen arall?), a mwy o fanylder ar rai pethau, gallasai fod yn nofel dda dros ben.

§

 A dychwelyd at Deulu Bach Nantoer, oes, mae ambell beth bach od yn y stori.  Beth yn union, o ran y stori, yw diben sgwrs yr offeiriad i blant yr ysgol ym Mhennod VI ? Neges O.M. Edwards sydd ynddi, fel y sylwyd yn ystod y drafodaeth y dyddiau hyn.  Y mae’n unol â chywair y gwaith, yn wir â rhan mewn creu’r cywair. Ond beth yw ei pherthynas â’r digwyddiadau? A oes perthynas?

Ar ymddangosiad cyntaf ‘y gŵr a’r wraig ddieithr’ (Pennod IV), fe sylwa Ieuan ac Alun ‘fod y dyn yn gwisgo modrwy, un lydan a thlws iawn, ar ei fys bach’.  Beth mae Moelona yn ei ensynio?

Advertisements

Un Ymateb to “Wel, Deulu bach…”

  1. Rhys Medi 25, 2013 at 10:25 pm #

    Cofnod difyr fel arfer. Bydd rhaid rhyw ddydd ychwanegu rhywbeth am y nofelau y uchod at yr erthyglau am Lenyddiaeth Cymraeg i blant sy’n bodoli’n barod ar y Wicipedia.

    Da gweld blog newydd Llenyddiaeth Plant gan Siwan Rosser, sy’n arbennigo yn y maes.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: