Cofio 1914

13 Tach

 

Bydd hen eiriau bach, fel ‘am’ ac ‘i’ (arddodiaid) weithiau’n peri trafferth i lunwyr penawdau Cymraeg.  Ceir pethau fel ‘Gwynt Mawr am Chwythu’ – a all fod yn iawn, wrth gwrs, ond inni bersonoli Morys y Gwynt a rhoi cymhelliad iddo.

‘Yr Eisteddfod i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf’ medd pennawd GOLWG 360, 28 Hydref.  Roedd yr ‘i’ yn cyfleu un ai (a) bod yr Eisteddfod wedi penderfynu, ac yn sicr yn mynd i wneud, neu (b) ei bod hi i fod i wneud, dan orchymyn neu gyfarwyddyd i wneud.  Gan i Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, adrodd na wyddai ef ddim oll am y peth, roedd yn amlwg nad oedd (a) yn wir.   Ac ni allai (b) fod yn wir, gan nad oedd neb mewn sefyllfa i orchymyn yr Eisteddfod.  Yr oedd y Prif Weinidog, Carwyn ‘Trident’ Jones, yn cymryd ei fod ef yn y sefyllfa honno pan ddywedodd y bydd dydd Llun Eisteddfod Sir Gâr 2014  yn cynnwys ‘cyfres o ddigwyddiadau wedi eu seilio ar thema’r Rhyfel Mawr’. Â phwy yr oedd Carwyn wedi bod yn trafod cyn gwneud gosodiad o’r fath?   Â rhywun o’r Eisteddfod, yn lleol neu’n ganolog?

Ymhen rhyw ddeuddydd yr oedd yr ‘i’ ym  mhennawd GOLWG 360  wedi ei newid yn ‘am’.  Ni allai hyn chwaith fod yn  wir.  Go brin y byddai’r Eisteddfod wedi gwneud penderfyniad mewn amser mor fyr, heb gyfarfod o’r Llys na’r Cyngor na dim byd.

Dyfalu yr wyf, ond mae’n debygol iawn y bydd yr Eisteddfod yn dymuno gwneud rhywbeth i ddwyn i gof drychineb a thrasiedi 1914-18.  Gallwn ddisgwyl  hefyd y bydd yr Eisteddfod yn ei wneud mewn modd gweddus a phriodol.  Yr hyn nad oes arni ei angen yw cyngor neu anogaeth llywodraeth sydd, fel prif nod ei pholisi, yn gwahodd llongau Trident i angori yng Nghymru.

§

Ond beth yw ‘gweddus a phriodol’ yn y cyd-destun llethol drist hwn?  Nid oes osgoi difrifwch yr hanes, ond gwyddom fel y gall difrifwch droi’n goeg-dduwioldeb, fel yn seremonïau drudfawr y wladwriaeth, ac yn wir droi’n addoliad o’r wladwriaeth ei hun. Tybed nad trwy ryw driniaeth ddychanol, yn ysbryd Blackadder neu Oh What Lovely War! y down nesaf at y gwir, a thybed nad oes yma rywbeth i’r Eisteddfod ei ystyried ?

O gymryd yr agwedd hon, fe ddown at wirionedd anghysurus iawn.  Dywedwn a fynnom am ddrygoni Blackadder, naifder Capten Darling a thwpdra’r Cadfridog uwch eu pennau, y casgliad anochel yw na buasai rhyfel o gwbl onibai am daeogrwydd Baldrick.  Hogiau cyffredin, wrth y cannoedd o filoedd ar draws y gwledydd, a benderfynodd ddechrau Awst 1914 eu bod yn barod amdani, ac — er mwyn bod yn rhan ohoni — eu bod yn barod i’w gosod eu hunain dan orchymyn y dosbarthiadau mwy breintiedig, eu hen ormeswyr.  Wedyn y daeth y gwleidyddion, y cyfalafwyr, y pregethwyr – a’r merched – i mewn.  Ni ellir byth esgusodi John Williams, Brynsiencyn, ond rhaid cofio mai darparu ar gyfer marchnad a oedd yn bodoli eisoes yr oedd yntau.  Hysteria torfol yn codi o eigion calonnau gwerinoedd ar y ddwy ochr oedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae ceisio’i lawn esbonio yn waith poenus ac anodd o hyd.  (Drwy gyfrwng stori, fe geisiodd yr hen G.A., orau y gallai,  gael rhyw olwg ar sut y gallai pethau fod wedi digwydd.   Mae’r chweched stori yn y gyfrol Camu’n Ôl yn ceisio darlunio’r hysteria’n cydio mewn treflan yng Nghymru, un a gafodd yr haint yn o ddrwg; ac mae’r stori olaf yn ceisio dirnad sut y daeth cenhedlaeth o ddynion ifainc diwylliedig a chall, mwy deallus na ni ar sawl cyfrif,  i wneud penderfyniad hollol wirion.)

§

Cwestiwn pellach, a chwestiwn perthnasol i lywodraeth Lafur, yw sut y dylai sosialwyr gofio’r gyflafan fawr.   Gellir cofio: (a)  safiad ambell unigolyn, fel Gwenallt, yn erbyn y rhyfel ar dir sosialaidd;   (b) penderfyniad anrhydeddus John Burns, yr unig aelod Llafur, i ymddiswyddo o gabinet Asquith; (c)  ymgais Keir Hardie i droi’r llanw o fewn ei etholaeth ei hun.  Ond wrth goffáu’r olaf, dyma ni wyneb yn wyneb eto â phenwendid etholwyr Merthyr ac Aberdâr, ysfa hunanddinistriol mewn gwerin.

§

Down yn ôl at yr Eisteddfod.  Rwy’n rhagdybio eto y gŵyr hi’n iawn sut i drin y mater.  Dylai’r Eisteddfod wrthod unrhyw arian gan y llywodraeth wedi ei ddynodi ar gyfer y coffâd, a dylai wrthod trafod y peth o gwbl gyda’r llywodraeth.  Byddai’n dda cael penderfyniad clir gan y Llys i’r perwyl hwn.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: