Wrth y Dwsin …

14 Tach

 

Sôn am yr Eisteddfod, rhaid inni beidio ag anghofio’r hen Ddwsin Doeth.

Hyd yma, crynodebau’r wasg a’r cyfryngau sy gennym o argymhellion y Dwsin.  Mae’r adroddiad cyfan yn llaw’r llywodraeth ar hyn o bryd.  Cymerwn y daw i ddwylo’r Eisteddfodwyr — sef, yn yr achos hwn, aelodau’r Llys — yn y man.  O’m rhan fy hun, er bod yn well gen i fel rheol gael darn o bapur o’m blaen, byddwn yn ddigon bodlon derbyn yr adroddiad drwy’r We, peth a fyddai’n arbed cryn gost i’r Eisteddfod.

Mae swyddogion y Brifwyl wedi croesawu’r adroddiad.  Ai rhyw gwrteisi neu ddiplomyddiaeth oedd y diolch hwn am beth na ofynnodd yr Eisteddfod erioed amdano, ynteu a synhwyrwn yma hefyd ochenaid o ryddhad nad oedd dim byd gwirioneddol drafferthus yn yr argymhellion?

Gwnaed yn eglur o’r dechrau nad oedd y Dwsin i ymhel â’r rheol Gymraeg, er y gallwn feddwl am un neu ddau o’u plith a allasai ddymuno gwneud. Bu tipyn o fwmian am safle parhaol, dau safle parhaol, rhai safleoedd parhaol, – ond yn y diwedd dyma argymell o blaid y drefn bresennol o deithio.

Dyna, hyd y gwelaf o’r pellter hwn, y peth mwyaf yn yr adroddiad, ac roedd yn ddiddorol sylwi ar driniaeth y cyfryngau ohono.  Yr Eisteddfod i ddal i deithio am fod y Dwsin yn dweud, dyna’r neges y tueddwyd i’w rhoi.  Gwahanol, mi gredaf, yw dealltwriaeth Eisteddfodwyr – a dealltwriaeth y Llys, y Cyngor a’r Bwrdd  Rheoli hefyd, mi ddaliaf i gredu:   yr Eisteddfod i ddal i deithio am mai gŵyl deithiol yw hi. Yr un modd: rheol Gymraeg am mai gŵyl Gymraeg yw hi.  

Ymatebodd Cymdeithas yr Iaith hefyd.  ‘Rydyn ni’n croesawu’r ffaith y bydd yr Eisteddfod yn parhau fel un symudol.’   Dyma osodiad camarweiniol iawn, ac am ei fod mor gamarweiniol rhaid  dweud eto: mae’r ‘ffaith’ yn ffaith, nid oherwydd argymhelliad y Dwsin, ond am mai dyna natur yr Eisteddfod.

Beth arall sydd yna, tuag at y ‘moderneiddio’ hwnnw yr oedd Leighton Andrews yn awyddus i’w weld pan alwodd ef y Deuddeg?   ‘Mwy o gydweithio â’r Urdd a sefydliadau eraill’?  Mae cydweithio yn rhan o hanfod yr Eisteddfod erioed, tref o wahanol gymdeithasau, mudiadau, sefydliadau yw’r Maes bob blwyddyn.  Ond gwylier rhag gorfodi perthynas rhy ffurfiol rhwng yr Eisteddfod a’r Urdd; dau anifail gwahanol ydynt, ac mae gan yr Urdd ei heisteddfod. ‘Cystadlaethau apelgar, cyfoes a blaengar’?  Cwbl ddiystyr, fel bron bob defnydd o’r gair ‘cyfoes’.   ‘Penodi Cyfarwyddwr Artistig’?   Mae gan yr Eisteddfod ei system, wedi ei gosod ar sylfeini digon cadarn, ac yn esblygu o hyd yng ngoleuni profiad. Hanfod  y system dda hon yw mai’r Pwyllgor Gwaith Lleol, drwy ei is-bwyllgorau, sy’n pennu cynnwys artistig yr Eisteddfod, gyda’r Cyngor a’i is-bwyllgorau yntau yn cynghori, yn gwneud ambell argymhelliad, yn cysoni a rheoleiddio’r gyffredinol.  Mae gan yr Eisteddfod ei threfniadaeth, lwyddiannus at ei gilydd, gyda’r Cyfarwyddwr bellach yn ben arni.  Pa ddiben lled-addo arian ychwanegol tuag at beth nad yw’r Eisteddfod wedi gofyn amdano na, hyd yma, wedi teimlo’r angen amdano?

Mae’r Dwsin am weld llywodraeth leol a gwladol yn cyfrannu mwy o arian.   Fe wyddom beth ddywed yr awdurdodau lleol, yr esgid yn gwasgu.  O  ran llywodraeth Cymru, fe ddywedodd Carwyn Jones y bydd yn ystyried yr adroddiad, ac ystyried a fydd arian.  Amser a ddengys a  fydd Carwyn yr un mor selog â Leighton dros y Tasglu a’i waith.  Babi Leighton oedd y Tasglu.  Trident yw babi Carwyn.

Pan glywsom gyntaf am y Dwsin, ‘Tipyn o Jôc’, medd yr hen G.A.   Nid yw’n debyg o newid ei feddwl ar sail yr hyn a welodd hyd yma.  Yr oedd Cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli yn un o’r Dwsin.  Beth am sefydlu Tasglu i gynghori Gŵyl y Gelli sut i’w gwneud ei hun yn fwy deniadol i bobl heb ddiddordeb mewn llyfrau?  Neu Dasglu i gynghori Undeb Rygbi Cymru, sut i wneud rygbi’n fwy apelgar i bobl heb unrhyw ddiddordeb mewn rygbi?   Peth i Eisteddfodwyr yw’r Eisteddfod.  Nid yw pob Cymro’n Eisteddfodwr.  Mae llai o Eisteddfodwyr am fod llai o Gymry.  Cynyddu a chryfhau’r Cymry yw’r dasg, ac oddi ar ddatganoli yr ydym, yn llywodraeth a phobl, wedi brasgamu i’r cyfeiriad arall.       

Dywed datganiad yr Eisteddfod:   ‘Bydd yr ymateb hwn [sef ymateb y Llywodraeth] a’r adroddiad ei hun yn mynd gerbron Bwrdd Rheoli a Chyngor yr Eisteddfod, ac yn dilyn y trafodaethau mewnol hyn byddwn yn cyhoeddi ein hymateb i’r adroddiad.’   Gobeithio nad oes yma anghofio’r sicrwydd a roddwyd fis Ebrill mai’r Llys fydd biau penderfynu.

 

Un Ymateb to “Wrth y Dwsin …”

  1. Rhys Wynne Tachwedd 15, 2013 at 7:58 pm #

    Dw i heb ei ddarllen fy hun, ond mae’r adroddiad i’w gael yma – synnu nad oes neb o’r Eisteddfod wedi danfon dolen atoch…

    Dwi’n cytuno â phopeth rydych yn ei ddweud uchod, ond baswn hefyd yn argymell i chi ddarllen cofnodion blog newydd Aran Jones (un o’r Dwsin) sydd bellach yn gallu trafod y peth gan bod yr adroddiad ar gael i bawb ei weld.

    Babi Leighton oedd y Tasglu. Trident yw babi Carwyn.
    – Gwych.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: