Chwilio am Ffasgiaid

15 Tach

Richard Wyn Jones, ‘Y Blaidd Ffasgaidd yng Nghymru’. Plaid Cymru a’r cyhuddiad o Ffasgaeth (Gwasg Prifysgol Cymru, £14.99).

Atgof chwithig am Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, 2004. Ar y pnawn Gwener yr oedd cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau dan nawdd y mudiad ymreolaeth Cymru Ymlaen. Yn y gadair yr oedd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Barry Morgan, a’r siaradwyr oedd John Griffiths (AC Dwyrain Casnewydd), Laura McAlister (Athro Gwleidyddiaeth, a chyn-ymgeisydd Plaid Cymru) a Dr. Richard Wyn Jones, awdur y llyfr dan sylw. Daeth tyrfa dda. Siaradodd John Griffiths yn fyr a phwrpasol o sgript Gymraeg. Yna daeth Ms. McAlister. Dechreuodd am ryw bum munud yn Gymraeg, ond yna dywedodd ei bod am droi i’r Saesneg, gan fod ganddi bwyntiau pwysig yn dilyn. Gan gofio’r rheol, dechreuodd rhai ohonom fwmian, ac aeth y mwmian yn weiddi ‘Hai hei! Rheol Gymraeg!’  ‘Byddwch yn gwrtais nawr,’ meddai’r Archesgob  – wrth y gwrthdystwyr, yn lle cywiro’r siaradwraig.  Gweiddi’n uwch. ‘Byddwch yn deg nawr,’  meddai’r cadeirydd, wrthym ni eto. Cododd Eleri Carrog, gan egluro’n deg a phwyllog fod y cyfarfod, yn ôl ei dealltwriaeth hi, yn un a hysbysebwyd fel rhan o raglen yr wythnos ar y Maes, ac y dylai felly ddod o dan y rheol iaith.  Ar ei thraws daeth llais o gefn y babell, ‘Sit down you fascist!’  Llais cyfarwydd rywsut. Ie choelia’ i byth, llais gyda’r mwyaf adnabyddus yng ngwleidyddiaeth Cymru!  Cliw ichi: Sosialydd Gwyrdd Ewropeaidd.  Cliw arall: yn nes atom, un o’r Dwsin Doeth a oedd i foderneiddio’r Eisteddfod. Cododd rhyw ddeg i ddwsin ohonom a mynd allan, gan golli anerchiad RWJ:   ymddiheuriadau iddo, ar ôl naw mlynedd.  O’m blaen i yr oedd rhesaid o wleidyddion Plaid Cymru, yn eistedd a’u pennau i lawr. Cawsom ddarllen yn y Western Mail drannoeth  y byddai perchennog y Llais, o’i ran ei hun, wedi galw’r heddlu i daflu’r Ffasgwyr o’r Maes.

Yn awr, mae cael eich gweld fel gwrth-Ffasgydd yn beth Chwith-saff i’w wneud, fel clodfori Aneurin Bevan, cytuno â Raymond Williams, neu wahodd Nelson Mandela i’ch ‘Swper Delfrydol’.  Fe’i bwriedir i blesio rhyw gynulleidfa Chwith-saff y tybir ei bod yn bodoli yn rhywle, does neb yn siŵr iawn ble, efallai rywle tua’r Cymoedd.  Neu gall fod yng Nghaerdydd.  Neu hyd yn oed yn Aberystwyth.  Gwyddom hefyd am y defnydd trosiadol neu ‘ysgafn’ o’r geiriau Ffasgaeth, Ffasgaidd a Ffasgwyr, fel yn ‘Ffasgydd iaith’, ‘Ffasgydd gwyrdd’ a ‘Ffasgydd pabi coch’.  A chwedl RWJ, bydd wardeiniaid traffig a dyfarnwyr pêl-droed yn ‘Ffasgiaid’ ar dro!

Ond nac oedwn yn rhy hir gyda gwamalrwydd.  Fel y pwysleisir ar ddechrau’r  ymdriniaeth, nid oes cyhuddiad gwaeth, yn wleidyddol na moesol, na’r cyhuddiad o Ffasgaeth.  Mae hela Ffasgwyr yn wasanaeth llesol, angenrheidiol, ac mae dau fath ohono: hela hen Ffasgiaid a hela Ffasgiaid newydd  Y math cyntaf yw dal a galw i gyfrif gyn-droseddwyr rhyfel a rhai gormeswyr eraill a wnaeth fawr ddifrod yn eu gwledydd ac yn y byd. Pob nerth, tra bydd un dihiryn yn aros, i dîm Simon Wiesenthal a phawb sydd ar yr un berwyl.  Y gwaradwydd wedyn yw fod llywodraethau yn gwrthod mynd â’r mater ymhellach. Bythol anghlod i Jack Straw a’r llywodraeth Lafur am ollwng Pinochet yn rhydd.  A ble roedd Kim Howells, gweinidog llywodraeth, y diwrnod hwnnw?   Yr ail fath yw cadw llygad am weithgarwch Ffasgaidd yn ein cymdeithas ni heddiw, a cheisio lladd peth felly yn yr egin, y gwasanaeth a wnaeth y  cylchgrawn Searchlight ers bron i hanner canrif, a bellach ei wefan.  Fe godir y cwestiwn yn aml, os  Ffasgiaid, pam nad Comiwnyddion? Oes, mae tebygrwydd mawr, fel y sylwyd yn ddigon aml, o ran yr effeithiau os nad y cymhellion.  Ond gan fynd heibio i rai gwahaniaethau eraill, nodaf yn unig y gwahaniaeth hwn. Dyfais deallusion oedd Comiwnyddiaeth, peth wedi ei osod oddi uchod mewn amgylchiadau eithriadol iawn. Yr oedd y gwrthryfel yn ei erbyn yn rhwym o ddigwydd hwyr neu hwyrach.  Peth gwerinol, cynghreddfol, yn codi oddi isod, yw Ffasgaeth, a gall godi mewn unrhyw gymdeithas os na sethrir ef yn syth.  Fel y dengys dameg Lord of the Flies, cymerwch unrhyw ddyrnaid o fechgyn ysgol heb neb i’w gwastrodi; buan iawn y cyfyd y bwli ei ddwrn, ac y dengys y dwl ei genfigen tuag at y galluog.

A chanrif y Ffasgwyr y tu ôl inni, ond a’r feirws yn barhaol bresennol dan yr wyneb, mae gwasanaeth angenrheidiol arall hefyd, sef yr hyn a rydd y gyfrol hon,  ystyried cyhuddiadau o Ffasgaeth a daflwyd at hwn ac arall, a barnu a ydynt yn gyfiawn. Taflwyd rhai ohonynt at Blaid Cymru, a deil hynny i ddigwydd yn achlysurol.  Os yw’r cyhuddiadau’n wir, medd RWJ, yna mae mwyafrif y Cymry Cymraeg erbyn hyn wedi bwrw’u coelbren gyda phlaid Ffasgaidd. Os nad ydynt yn wir, ‘rhaid ystyried beth y mae’r ailadrodd cyson yn ei ddweud wrthym am natur gwleidyddiaeth a diwylliant gwleidyddol Cymru.’

Casgliad y llyfr yw nad oes, ac na bu, achos i’w ateb. Wedi dweud na allaf ond cytuno, a’m bod yn edmygu’r drafodaeth am ei chrynoder, ei heglurder a’i phendantrwydd, cydiaf mewn dau bwynt yn unig, i godi ambell gwestiwn ac efallai i gynnig golwg fach ychydig yn wahanol.

§

(1)    ‘Tri ymosodiad nodedig’.   Geiriau RWJ yw’r isbennawd hwn.  Sôn yr ydym am dri datganiad gan dri Chymro  o sylwedd ac o safle yn ystod yr Ail Ryfel Byd (tt. 3-13). Mi fentraf fod cyhuddiadau aml, aml  y pryd hwnnw yn y wasg Saesneg yng Nghymru, os nad o bleidio Hitler a Mussolini bob tro, o leiaf o annheyrngarwch i achos Prydain. Gallwn roddi bet, petaem yn edrych hen ffeiliau’r Western Mail, y byddai rhywbeth i’r perwyl ynddo bron bob dydd, fel y mae’n fet go sicr y bydd rhywbeth gwrth-Gymraeg ynddo yfory. Ond yn ychwanegol at hyn dyma dri datganiad ‘ym mhen ucha’r farchnad’, fel y dywedir, dau ohonynt yn nau gylchgrawn Cymraeg syber Y Traethodydd a’r Llenor.

Hen gadno cyfrwys oedd y Prifathro Syr Emrys Evans, awdur ysgrif ‘Y Rhyfel a’r Dewis’ yn Y Llenor, Haf 1941.  Wrth ei darllen eto, yr un yw fy nheimlad ag wrth ei darllen gyntaf, flynyddoedd lawer yn ôl: ei bod yn ddatganiad golau ac argyhoeddiadol o’r safbwynt Chwigaidd a Phrydeingar, ar wahân i un frawddeg lle’r aeth dros ben llestri gan wylltio Saunders Lewis i sgrifennu dychangerdd fer, chwyrn ‘Y Gelain’, sy’n delweddu Syr Emrys fel ‘llyffant du’.  Beth oedd cymhelliad y Prifathro, wn i ddim.  Pam yr oedd hi mor bwysig argyhoeddi’r athrawon a’r gweinidogion a fyddai’n darllen Y Llenor?  Ni allaf ond derbyn ei fod yn dweud yr hyn yr oedd yn ei gredu, a barnaf fod crynodeb RWJ o’i safbwynt yn un cywir: ‘cyhuddo’r Blaid Genedlaethol o gyd-gerdded  â Ffasgaeth yr oedd yn hytrach na’i chyhuddo o fod yn blaid Ffasgaidd yn ei hawl ei hun.’

Awdur yr ail ymosodiad oedd Dr. Thomas Jones (Rhymni a Choleg Harlech), cyn-ysgrifennydd y Cabinet, dyn a chanddo gysylltiadau Almaenig a Nazïaidd go agos ei hun tan yn union cyn y rhyfel. Gwnaeth ei sylwadau gerbron Cymmrodorion Caerdydd ym 1942, mewn  anerchiad yr oedd ganddo ddigon o feddwl ohono i’w gyhoeddi wedyn fel ‘The Native Never Returns’ yn ei gyfrol o’r un enw (1946).  Ateb i hwn yw ysgrif D. J. Williams, ‘Y Ddau Ddewis’, yn y gyfrol Saunders Lewis, Ei Feddwl a’i Waith, gol. Pennar Davies (1950).  Ni wnaf ond dyfynnu dyfarniad cryno RWJ ar ddadl Thomas Jones, ‘sydd mor gloff nes ei bod yn anodd ei chymryd o ddifrif’.  Gall y darllenydd ofyn a yw’n cytuno, ar ôl darllen tt. 4-7.

Yn drydedd, dyma ysgrif  ‘Cymru Gyfan a’r Blaid Genedlaethol Gymreig’ yn Y Traethodydd, Gorffennaf 1942, gan y Parchedig Gwilym Davies, hyrwyddwr mawr Cynghrair y Cenhedloedd a phererindotwr i Genefa cyn y rhyfel, ysbrydolwr ‘Neges Heddwch Plant Cymru i’r Byd’ a lluniwr cyfansoddiad UNESCO.  ‘Twyll resymu’, ‘cors anonestrwydd deallusol’, ‘hurt bost’, ‘cwbl bisâr’, ‘cwbl gyfeiliornus’, ‘digywilydd o hyf’, ‘celwydd oer, bwriadus’ – dyna rai o eiriau RWJ amdani.  Anodd yn wir yw meddwl yn wahanol, ac iawn yw gofyn, petai hi’n ysgrif ar unrhyw fater arall ac yn cynnwys y fath nifer o osodiadau di-sail, disylwedd, enllibus, a fyddai’r Traethodydd wedi ei chyhoeddi?  Ond ymddengys bod yr Hen Gorff bryd hynny mor falch o’r cyfraniad hwn gan Fedyddiwr fel y mynnodd ei gyhoeddi wedyn fel pamffled.  Beth yn y byd mawr oedd y cymhelliad, tybed?  Pwy a dreiddia i feddwl y Cyfundeb?

Fe ddown wedyn at gyfraniad W.J. Gruffydd i’r drafodaeth neu’r ffrae.  Os iawn y deallaf, mae RWJ yn trin hwn fel rhywbeth ychwanegol, a gwahanol, i ‘dri ymosodiad nodedig’ Evans, Jones a Davies.  Dyna sy’n gywir, ac rwy’n falch mai felly y’i gwelir.  Sôn yr ydym am yr ysgrif  ‘Mae’r Gwylliaid ar y Ffordd’, Y Llenor, Hydref 1940. Dewisais gynnwys hon yn y casgliad yr wyf newydd ei olygu, Eira Llynedd ac Ysgrifau Eraill gan W.J. Gruffydd,  er mwyn i ddarllenwyr heddiw gael barnu yn ei chylch. (A rhaid imi ymddiheuro yma am ei chamddyddio’n ‘1941’.)  Nid taflu’r cyhuddiad o Ffasgaeth y mae Gruffydd, ac nid pardduo’r Blaid y byddai ef ei hun, petai wedi cofio talu ei aelodaeth, yn dal yn Is-lywydd arni!   Yn hytrach, mae’r cymhelliad yn un Gruffyddaidd mynych, rheolaidd yn wir – ac un y gallwn, os ydym yn dewis, ei weld fel cymhelliad obsesiynol ac eithafol hunanganolog  – ‘fy ngwneuthur fy hun yn ddealladwy i’m cydwladwyr’. Efallai fod Gruffydd yn un drwg am newid ei feddwl  – gwnaeth enw felly – ond yma o leiaf y mae’n cyfiawnhau’r newid, yn esbonio’n glir a chydag angerdd pam, er gwaethaf greddf, tuedd ac argyhoeddiad y ffordd arall,  y daeth ef i’r un casgliad â’r mwyafrif mawr, na ellid unrhyw fath o gyfaddawd â llywodraeth Hitler. Nid yw’n ymwneud â dadl yr heddychwr; gwyddom y byddai Gruffydd ymhlith y cyntaf i gydnabod dilysrwydd honno, – er ei fod yn dal, yn annisgwyl braidd, mai rheswm crefyddol yn unig a all fod yn sail iddi.  Ar dir strategaeth yr oedd Saunders Lewis, yn ysgrifau wythnosol ‘Cwrs y Byd’,  yn galw am heddwch o gyfaddawd.  A oes rhywun heddiw, ac a fu rhywun oddi ar ddiwedd y rhyfel, yn credu y byddai hynny wedi gweithio?  Nid yw gofyn y cwestiwn yn gyfystyr â chyfiawnhau mewn unrhyw fodd holl fesurau Churchill tuag at fuddugoliaeth ddiamod.

Oedaf ennyd â chwestiwn a allai fynd yn un mawr a chymhleth. Gwêl RWJ yn ysgrif Emrys Evans, a mwy fyth yn ysgrif Gruffydd, ‘ragfarn wrth-Gatholig’. Onid mater o gydnabod ffaith sydd yn y ddwy? Gwreiddiodd a ffynnodd Ffasgaeth mewn gweriniaethau (pwysleisiaf y gair) â’u crefydd yn Gatholig neu Uniongred.  Lledodd drwy’r Almaen Brotestannaidd  o Fafaria Gatholig, lle dechreuodd yr unben refru a chael gwrandawiad. Beth am yr Eidal? meddech.  Ie, brenhiniaeth oedd yr Eidal mewn enw pan ddechreuodd Il Duce ar ei gampau; newidiodd ef hi yn Republica Italiana.  De’r Almaen, Awstria, yr Eidal, Sbaen, Portiwgal, Rwmania, Pwyl, Hwngari, Groeg, dyna dir ffrwythlon Ffasgaeth a lled-Ffasgaeth, gydag elfen gref yn Ffrainc a fu’n fwy na pharod i ‘agor y llifddorau’, chwedl Gruffydd, pan ddaeth y cyfle. Syrthiodd y gweriniaethau cyfandirol un ar ôl y llall  – neu ‘gyda’i gilydd’ fyddai’n well disgrifiad efallai – gan eithrio’r Swistir a oedd â’i gwleidyddiaeth geidwadol unigryw ei hun, a hefyd ei mantais ddaearyddol o ran amddiffyn ei ffiniau. Un weriniaeth Gatholig sydd nad aeth yn unbennaeth yn fy oes i.  Iwerddon yw honno. Llwyddodd y breniniaethau Protestannaidd (pwyslais ddwywaith eto) i wrthsefyll, ac eithrio drwy gael eu goresgyn fel yn achosion Norwy a Denmarc; gyda hwy rhaid cyplysu gweriniaeth hanner-yn-hanner (yn grefyddol) Tsecoslofacia.  Sefydlodd y breniniaethau, ar batrwm Lloegr, yr egwyddor fawr o wahanu a gwahaniaethu rhwng y wladwriaeth a’r llywodraeth.  Dyna a wnaeth yn bosibl y radd o ddemocratiaeth sydd gennym, er y bu raid disgwyl yn ddigon hir iddi ddod i unrhyw fath o aeddfedrwydd.  Methu â chydnabod hynny yw methu â chydnabod camp y Piwritaniaid neu’r Seneddwyr yn yr ail ganrif ar bymtheg, a gwelaf yma ddadl sy’n gwrthbwyso pob dadl wrth-frenhinol.

Gellid dadlau’n hir. Gyferbyn â chyfaddawdu, bargeinio ac yn aml cydweithio eiddgar y Babaeth â’r unbenaethau, a chyferbyn â’i hanfod awdurdodaidd hi ei hun, mae’n iawn gosod record wrth-Ffasgaidd anrhydeddus rhai Catholigion unigol.  Edmygaf safiad rhai Catholigion hefyd – ynghyd â safiad Archesgob Cymru, gan imi gyfeirio ato o’r blaen – ar fater nes atom, sef y Mesur Trosglwyddo Organau: mesur torfolaidd (collectivist), adweithiol a gwrth-ddyneiddiol, yn tarddu mewn sentiment. Distaw iawn fu’r cyrff a’r eglwysi Ymneilltuol, hyd y gwn i, yn y mater hwn.

Dau bwynt pellach yngl^yn ag ysgrif Gruffydd.

Meddir: ‘O ystyried mai yn 1940 yr ysgrifennwyd ac y cyhoeddwyd y llith, cyfnod pan oedd Hitler a Mussolini yn eu hanterth, trawiadol ac arwyddocaol yw i Gruffydd roddi llawer mwy o sylw ynddi i ran Ffrainc a Chatholigiaeth yn yr Adwaith nag i Natsïaeth a Ffasgaeth.’ Arwyddocaol, ie, ond dealladwy ac nid amhriodol.  Ffrengig oedd cysylltiadau yr hyn a welai Gruffydd, yn fwy cam na chymwys mae’n debyg, fel ‘Plaid yr Adwaith’ yng Nghymru. A chytunaf â’r haneswyr hynny a farnodd mai yn ‘helynt Dreyfus’ yn y 1890au y mae tarddiad yr hyn y daethom ni i’w adnabod fel Ffasgaeth Ewropeaidd yr ugeinfed ganrif. Mae rhan Ffrainc, gwlad na bu erioed yn gwbl gysurus â democratiaeth, a rhan carfan o’i phoblogaeth, a oedd hefyd yn cynnwys rhai o’r prif lenorion Catholig, yn fawr iawn mewn creu trychineb eu cenhedlaeth.  (Gweler fy Rhagymadrodd i Eira Llynedd, tt. 23-4.)

Yna fe ddyfynnir clo ysgrif Gruffydd:   ‘A chofiwn yn anad dim, fod eisoes yn y wlad hon ddynion sydd a’u dwylo ar y llif-ddorau yn barod i’w hagor, fel yr agorwyd hwy yn yr Iseldiroedd a Norwy a Ffrainc. Seithennin, saf di allan.’  Yr oeddwn i bob amser wedi rhyw gymryd mai Prydain yw’r ‘wlad hon’, fel mor aml ar lafar.  Mae rhywbeth yn dweud wrthyf o hyd mai dyna ydyw, ac mai cyfeirio y mae Gruffydd at bobl mewn safleoedd dylanwadol o fewn y Deyrnas neu’r Sefydliad Prydeinig a fyddai’n barod i droi côt pe deuai hi i’r gwaethaf. Efallai fy mod yn methu.

Pan oedd Gruffydd yn ysgrifennu am y ‘Gwylliaid’, gyda phethau i’r un perwyl yn rhai o ‘Nodiadau’r Golygydd’, ni wyddai y deuai yn fuan isetholiad am sedd seneddol Prifysgol Cymru, gyda’r cyfle mawr iddo ef wireddu’r hyn a fu’n rhyw fath o freuddwyd ganddo oddi ar ei ieuenctid.  Pen draw’r stori yw isetholiad Ionawr 1943.  Drwy gyfrwng stori fer y gellir ei darllen ar y blog hwn (archif Mai) yr wyf wedi cynnig rhyw fath o ddehongliad o’r episod chwerw a niweidiol honno. Rwy’n awgrymu y gallai tro bychan, gyda gweithredu di-oed, fod wedi ei throi’n episod gadarnhaol.

§

(2)   Y niwed a wnaed.  Diau y byddai’n neisiach i bobl fel chwi a minnau, ddarllenwyr y blog, petai ambell un o arweinwyr cenedlaetholdeb Cymreig, yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel, heb ddweud ambell beth. Fe’u dywedwyd, a dyna fo.  A dengys RWJ gyda digon o enghreifftiau fod pethau tipyn mwy anghyfrifol a mwy anfad wedi eu dweud gan Churchill, Lloyd George ac eraill yn yr un amgylchiadau heb ennyn unrhyw  waradwydd o gwbl.

Yn ymarferol, faint o ddrwg a wnaed?  Llawer, barna RWJ.  ‘Cyfres o haeriadau, non-sequiturs a bygythiadau’ oedd anerchiad Dr. Thomas Jones.  Ond ‘ergyd drom iawn i’r Blaid Genedlaethol’. Bu’r cyhuddiad ‘Ffasgaidd’ ‘yn faen melin am ei gwddf fyth er hynny.’  Mater gwahanol, ond cysylltiedig, fu polisi swyddogol y Blaid o ‘niwtraliaeth’ yn ystod yr ail ryfel.  ‘Ysywaeth, costiodd safiad y Blaid yn y degawd o ryfela rhwng canol y 1930 a chanol y 1940au yn ddrud iawn iddi’n wleidyddol.’   Ond gadewch inni ofyn eto, faint o niwed, yn etholiadol — sef yr unig beth o bwys yn y diwedd  – a wnaeth y ddau beth?  Beth petawn i’n dweud ‘dim llawer’?  Yn wir, beth petawn i’n dweud ‘dim o gwbl’?  Arf hwylus i wleidyddion Llafur, pan fyddent yn cofio a phan na allent feddwl am ddim arall, fu’r cyhuddiad ‘Ffasgaidd’.  Ni chredaf iddo effeithio ar drwch yr etholwyr o gwbl.  O’r ddau, mi allaf gredu fod y cysylltiad â heddychaeth wedi costio mwy i’r Blaid  na’r cysylltiadau honedig adain-dde.  I fath arbennig o feddwl, a hwnnw’n feddwl pur gyffredin, nid peidio ag ymladd Ffasgaeth oedd y pechod, ond peidio ag ymladd o gwbl, peidio â gwisgo’r siwt, peidio â bod yn un â’r mwyafrif mawr, mawr, a thrwy hynny fwrw  peth amheuaeth ar ddoethineb neu foesoldeb y mwyafrif hwnnw. Efallai y byddai  cymhariaeth â Phlaid Genedlaethol yr Alban o gymorth yma.  Hyd y gwn, ni thaflwyd y naill gyhuddiad na’r llall ryw lawer ati hi, y Ffasgaidd na’r pasiffistaidd: ond tebyg iawn fu ei hynt i eiddo Plaid Cymru am ddau ddegawd, er gwaethaf llwyddiant annisgwyl a byrhoedlog yn etholaeth Motherwell ar ddiwedd y rhyfel. Cafodd William Wolfe bleidlais dda yn  isetholiad West Lothian yn 1962, arwydd o bethau i ddod efallai. Ond 14 Gorffennaf 1966 yng Nghaerfyrddin fu’r ysgytwad mawr.  Hwnnw a barodd y bydd refferendwm yn yr Alban y flwyddyn nesaf, beth bynnag ei ganlyniad.

Yn hanes Plaid Cymru fe fu  – ac y mae o hyd  – broblemau llawer dyfnach nag unrhyw gyhuddiadau di-sail  y gallodd gwrthwynebwyr eu taflu ati.  Mi enwaf ddwy.  (1)  Ei gwiriondeb hi ei hun.  Plaid a lwyddodd, drwy ei pholisi cau ysgolion, i fforffedu ar un trawiad hanner ei chefnogaeth yng Ngwynedd.  (2) Caledwch y talcen.  Ar ôl ei ddarllen a’i ystyried lawer, caf hi’n anodd iawn anghytuno â llyfr deallus a doeth Anthony D. Smith, The Ethnic Origins of Nations (1986).   Mae ganddo dair rhestr o bobloedd, tri chategori, oll o fewn gwladwriaethau a heb fod yn wladwriaethau eu hunain.   Yn y naill ben mae’n gosod y Fflandryswyr, y Catalwniaid  – a’r Albanwyr. Dyma inni genhedloedd, meddai.  Yn y pen arall fe wêl y Sorbiaid a’r Galisiaid . ‘Ethnies’ y mae’n galw’r rhain, pobloedd, grwpiau ethnig a chanddynt hunaniaethau digon gwydn hefyd, ond heb erioed groesi’r trothwy hwnnw a’n galluoga i ddweud ‘cenedl’ yn ddiamod. Ond rywle rhwng y ddwy hyn, mewn darlun yr addefa ei fod yn un digon symudliw a chymysglyd, rhydd restr arall eto: Y Sikhiaid, y Naga, y Cwrdiaid, y Sisiliaid, y Corsicaniaid, y Llydawiaid  – a’r Cymry.  Ie, ‘Gymry, pe baech chwi’n genedl’, meddai Waldo, a chaed trawiadau cyffelyb gan Gwenallt, S.L. ac eraill, yn addef yr ansicrwydd.  Gallwn, wrth gwrs,  ddefnyddio ‘cenedl’ fel rhyw law-fer o hyd, am gymuned ag iddi rai, o leiaf, o briodoleddau cenedl.  Os ydym ‘genedlaetholwyr’ yr ydym yn ceisio rhoi rhyw sylwedd i’r enw, ac yr ydym yn derbyn bod yn rhaid wrth beirianwaith llywodraeth, mesur o ymreolaeth, bach neu fawr, er mwyn diogelu’r hunaniaeth ddiwylliannol.  Ond gwyddom yn ein calonnau fod rhywbeth hanfodol yn eisiau yn yr hunaniaeth honno, sef y parodrwydd cyson, greddfol, difeddwl-ddwywaith i’w hamddiffyn ei hun

Bydd pleidlais yr Albanwyr y flwyddyn nesaf yn penderfynu llawer.  Un canlyniad posibl fyddai gorfodi’r Cymry, yng ngeiriau anfarwol Harri Webb, ‘i ymdeithio wysg eu cefnau tuag at annibyniaeth’.  A fyddem yn barod ac yn atebol?  A fyddai gennym yr adnoddau meddyliol?  Pwy yn y byd mawr, o blith ein gwleidyddion, a allai roi’r arweinia

Dylai fod yn amlwg fy mod yn gwerthfawrogi’r llyfr hwn. Mi ddywedaf ‘gobeithio y bydd darllen arno’, er gwybod nad oes fawr o ddarllen ar ddim byd deallol yn Gymraeg y dyddiau hyn.  Trueni na byddai’r Arglwydd Morgan (yr Athro Kenneth O. Morgan)  wedi cael cyfle i’w ddarllen cyn gwneud rhai gosodiadau hanner-gwir a hanner-pôb yn rhifyn cyfredol The Welsh Agenda.  Cystal hefyd bod yr Arglwydd arall,  y croesgadwr dewr gwrth-Ffasgaidd o Nant Conwy, yn ei ddarllen. Efallai ei fod wedi gwneud eisoes.  Ond pa warant na rydd arno, fel ar gynifer o bethau, ei ddehongliad honco ei hun?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: