Dyma Drôns i Fôn

16 Tach

Sylwer, nid ‘Dyma Ddrôns’ ond  ‘Dyma Drôns’.   Rydym yn sôn, nid am yr adar angau sy’n codi aden o Aberporth, ond am fath arbennig o drywsus nofio gwrth-ymbelydrol sydd wedi ei ddyfeisio gan gwmni o Japan ac sydd, yn ôl yr adroddiadau, yn gwerthu fel slecs yn y wlad honno.  Medd pennawd yn y Daily Telegraph:   ‘Radiation-proof pants, Japan’s latest fashion’.  Mae’r wisg wedi ei gwneud o ‘bio-rwber’, ac addewir y bydd yn eich amddiffyn wrth ichi sblashio yn y moroedd ôl-Fukushima.

Yn awr, beth amdani?  A ellir perswadio’r gwneuthurwyr, tybed, i agor ffatri ym Môn?  Oni fyddai’n cyd-fynd yn dda â Wylfa B, oni fyddai gwerthiant parod yn y fan a’r lle, ac oni  fyddai’n hwb i’r iaith?  Rhywbeth ar gyfer Parc Gwyddonol Menai?

 Dyna’n jôc fach ni am heddiw. Gwamalrwydd o’r naill du yn awr.

Rwyf wedi dyfynnu Geoffrey Lean o’r blaen ar y blog hwn.  Yn annisgwyl efallai gan un o golofnwyr rheolaidd y Telegraph, bydd ganddo yn wastad sylwadau golau a deallus ar faterion amgylcheddol.  Yn ei ysgrif, 10 Hydref, mae’n ei gweld hi’n ddigrif braidd fod  ‘Canghellor Torïaidd, hyrwyddwr marchnadau rhydd ac amddiffynnydd sofraniaeth genedlaethol, yn ymffrostio ei fod yn “caniatáu” …  i wlad dotalitaraidd Gomiwnyddol godi atomfeydd ym Mhrydain.’  A gair neis am ‘crefu ar’ yw’r ‘caniatáu’, meddai’r colofnydd.

‘Felly’ (cyfieithu), ‘bydd rhan helaeth o ddiwydiant niwclear tra sensitif Prydain – a darddodd o raglen y fom atomig – yn ymarferol berthyn i ddau bwer estron, un yn elyn traddodiadol hynaf Prydain, y llall yn wrthwynebydd chwerw yn y Rhyfel Oer.  Ychydig o genhedloedd eraill a fyddai’n breuddwydio am ganiatáu’r fath beth – ac yn sicr nid Tsieina.  Onid yw Mr. Osborne yn gweld y gallai hyn fod ychydig yn … ymbelydrol, ddywedwn ni?’

Ac roedd y Canghellor, medd yr ysgrif, yn hanner caniatáu’r pwynt. Heb y buddsoddion o Ffrainc a Tsieina, addefodd, y trethdalwr Prydeinig fyddai’n talu.  Ond pam y trethdalwyr, gofyn Geoffrey Lean, gan ateb ei gwestiwn ei hun yn syth: am nad  yw buddsoddwyr Prydeinig bellach am roi eu harian yn y fan hon. 

A throi at gyhoeddiad go wahanol i’r hen D.T., dyma ddyfyniad bach o Heddwch, cylchgrawn yr Ymgyrch Ddiarfogi Niwclear yng Nghymru (rhifyn Hydref-Gaeaf 2013).   Philip Steele sy’n ysgrifennu, ac isetholiad Môn yw’r testun:

‘O, roedd yr etholiad yn gybolfa lwyr. Tal Michael, Llafur, oedd y mwyaf pro-niwclear a chollodd yn wael. Dyna wers.  Safai’r Rhyddfrydwr gwrth-niwclear Stephen Churchman dros blaid bro-niwclear, a phrin y cyfeiriodd at Wylfa B. Roedd Rhun ap Iorwerth, sy’n frwd o blaid ynni niwclear, yn sefyll dros blaid wrth-niwclear, Plaid Cymru.   Ar ôl ennill, o leiaf dywedodd y bydd yn gwrando ar PAWB, sy’n fwy nag a wnaeth ei ragflaenydd erioed. Roedd yr ymgeisydd gwrth-niwclear Katherine Jones yn sefyll dros blaid wrth-niwclear.  Mae’r fath gysondeb yn ddigon i ddrysu dyn!’

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: