Diwrnod du

10 Rha

Yn amlach na pheidio bydd yr hen G.A. yn gweld yr ochr ddigri i bethau, ond nid heddiw.  Mae’n debyg fod rhai o’m darllenwyr, fel finnau, wedi derbyn y llythyr yn cyhoeddi diwedd Dyddiol Cyf.

Hyd yn oed a’u nifer yn gostwng, fe ddylai’r Cymry (sylwch y term, dylanwad Pa Beth yr Aethoch Allan i’w Achub?)  fedru cynnal tri neu bedwar papur newydd dyddiol.  Methiant hanesyddol, gan ddosbarth a chan genhedlaeth, yw methu â sefydlu’r un.  Dosbarth cymdeithasol cefnog, a chenhedlaeth ffodus, freintiedig. 

Ar ôl methiant fel hwn, sut yr ydym ni, y dosbarth proffesiynol Cymraeg, yn mynd i wynebu’r blynyddoedd nesaf?  Beth petai, yn sgil refferendwm yr Alban, pethau’n symud i gêr uwch, a ninnau, yn ngeiriau Harri Webb, heb ddewis ond ymdeithio’n wysg ein cefnau tuag at annibyniaeth?  Sut yn y byd mawr y down i ben â hi? 

Ym myd y wasg, bydd raid rhoi cynnig arall. Yn y cyfamser dim maddeuant, a dim fôt, i’r gwleidyddion a fu’n gyfrifol am ‘Frad y Byd’.

 

Un Ymateb to “Diwrnod du”

  1. efrogwr Rhagfyr 10, 2013 at 10:59 pm #

    A finnau hefyd wedi buddsoddi, rwyf o’r un farn, GA. Ie, roedd camgymeriadau yn y prosiect: marchnata gwael (hysbysebion yn Barn heb manylion cysyllt llawn i ddarpar fuddsoddwyr, rhifyn arbrofol diflas yn eisteddfod 2004, newid a gohirio y targed ariannol a’r dyddiad cyhoeddi, newid delwddau a logos, blog di flach ac ati) a methu denu buddsoddwyr tu hwnt i gylch y iwsiwal syspects (fel chi a fi fyddai’n debygol o gefnogi ddoed a ddel) ond fel y dywedoch, mae digon ohonom i gynnal nifer o bapurau (fel y mae 230,000 o drigolion Gwlad yr Ia, er enghraifft) felly na ddylai’r man wenidau yno fod wedi bod yn allweddol. Dwi eisiau canu gwae, dehongli’r peth yn nhermau moesol (cenedl wedi’i phrynu gan wladwriaeth estron, gorddibynnu ar nawdd, bobl mae’n well ganddynt wario £500 ar sofa newydd) ond un peth dwi’n mwy ymwybodol ohoni ers dechrau ymweld â Gwlad y Basg yw bod cryfder y wasg “ranbarthol” yn Sbaen (fel y caiff hefyd mewn gwledydd megis yr Almaen) wedi helpu ei hachos nhw gyda’r papurau Egunkaria (ac nawr Berria) gan olygu bod mwy o draddodiad o gynhyrchu papurau o ansawdd yn y wlad ac mae hi’n haws wedyn gwneud yr un peth yn yr iaith leiafrifol. Mae ganddynt hefyd wrth gwrs lot mwy o gefnogaeth i’r iaith gan eu cyw wladwriaeth ac mae ganddynt bleidiau cenedlaethol sydd ag asgwrn cefn syniadaethol ac yn cynnig gweledigaeth amgen.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: