Cynghorau a Ffiniau

12 Ion

Sôn eto am ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru.  Gwefan Wales Eye wedi cael achlust o argymhellion comisiwn Syr Paul Williams, a’r Western Mail wedi ailadrodd y stori bron air am air.

Ymhlith yr argymhellion mae haneru nifer y cynghorau sir, o 22 i 11, a dychwelyd at ddau gyngor yn unig yn y Gogledd:   hyd nes clywn yn wahanol, cymerwn mai Gwynedd a Chlwyd unwaith eto.

Bu Blog GA yn trafod y testun hwn o’r blaen (‘Amlder Cynghorwyr?’, archif 20 Mawrth 2013).  Heddiw felly, fawr mwy nag atgoffa, a phwysleisio unwaith eto nad oes gen i unrhyw gysylltiad â llywodraeth leol  ond fel trethdalwr a defnyddiwr rhai  o’r  gwasanaethau.

Go brin y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar unrhyw argymhellion yn ystod ei thymor presennol, felly mae gennym ychydig amser eto i feddwl yn ofalus.   Y tro hwn mae’n rhaid ei chael hi’n iawn, a dyma’r tri  pheth mawr i ymorol  amdanynt.

1.    Diogelu ffiniau ystyrlon.

Sef yw hynny, hanesyddol.  Un o rinweddau ad-drefniad y 1970au oedd na chroeswyd ffin unrhyw sir ‘go iawn’,  dim ond creu taleithiau a’u galw’n siroedd.  Ond yn ad-drefniad y 1990au fe aed i  ymyrraeth  drwy roi enwau hollol newydd ar siroedd yn y De (h.y.  rhannau o Forgannwg a Mynwy), ac yn y Gogledd darnio ac ailglytio siroedd:   creu ‘Conwy’ a symud ffiniau Dinbych a Fflint. Tipyn o lanast.

O’r gorau, creadigaethau Normanaidd oedd y ‘tair sir ar ddeg’, ond mae wyth ganrif yn amser digon hir fel ei bod hi’n anodd adrodd na deall hanes Cymru hebddynt.  Gofynnais o’r blaen, a gofynnaf eto:   ai un o Sir Conwy oedd yr Esgob William Morgan?  Ac Iolo – ble?  – oedd yr hen foi hwnnw efo’r  Orsedd ac ati?  Morynion glân, pa sir hefyd?    Rywsut neu’i gilydd, ochr yn ochr ag unrhyw awdurdodau helaethach  (‘taleithiau’ y byddwn i’n galw’r rheini), mae angen adfer a chadw’r tair sir ar ddeg, a rhoi iddynt ryw swyddogaeth.

Bwriwn fod 11 prif awdurdod  – ‘taleithiau’, neu efallai ‘gwledydd’ – rhywbeth fel hyn:   Gwynedd, Clwyd (h.y. Gwynedd Is Conwy), Powys, Dyfed, Gwent, rhyw dri rhanbarth o Forgannwg, Caerdydd, Casnewydd, Abertawe (y tri olaf yn adfer y tair bwrdeistref sirol  traddodiadol).

Ochr yn ochr â hyn fe ddylid adfer yr hen siroedd, eu galw’n siroedd, ond gyda rhai pwerau tebyg i rai’r cynghorau  dosbarth gynt.  E.e. siroedd  Môn, Arfon a Meirion o fewn gwlad Gwynedd  –  ac adfer Edeirnion i Feirion.  Adfer siroedd Dinbych a Fflint o fewn Clwyd, ond gan ystyried efallai creu trydedd sir, Wrecsam-Maelor (h.y. Wrecsam a Maelor Saesneg, a chadw Maelor Gymraeg yn Sir Ddinbych).  Adfer Trefaldwyn, Maesyfed a Brycheiniog. Rhag amlhau cynghorwyr na swyddogion, sefydlu  perthynas ffederal rhwng ‘sir’  a ‘gwlad’:     h.y. byddai hyn-a-hyn o aelodau etholedig Cyngor Sir Fôn hefyd yn cynrhychioli Cyngor Môn ar Gyngor Gwynedd; a byddai hyn-a-hyn o gynghorwyr etholedig Gwynedd o Fôn yn cynrhychioli Gwynedd ar Fôn.   Ac fel yna ymlaen.   Y ‘wlad’ neu’r  ‘dalaith’ yn gyfrifol am Addysg, Iaith a Macro-gynllunio; y ‘sir’, – rhai pethau eraill, e.e. casglu sbwriel, glanhau ochrau’r ffyrdd.

2.   Polisi Iaith Gwynedd.

Mae Dyfed Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd, o blaid dwy sir i’r Gogledd.  Eraill yn poeni ac yn gofyn ‘Be ddaw o bolisi iaith Gwynedd ar ôl cyfuno â Môn ac â rhan o’r  hyn sydd yn awr yn Gonwy?’   Fe ddylem allu ateb:   fe adferir polisi iaith y wir Wynedd drwy hyd a lled y ‘Wynedd go iawn’, y polisi a sefydlwyd gyda chryn fesur o lwyddiant gan Wynedd y 1970au.  Yn hynny o beth mae Dyfed Edwards yn iawn.  Ond mae pethau wedi newid. Crewyd  polisi’r ‘Wir Wynedd’ gydag arweiniad unigolion galluog a diffuant, a chyda  chonsensws ar draws y grwpiau a’r ardaloedd.  Yr oedd cynghorwyr o Landudno – nid pob un, ond digon – yr un mor gefnogol â chynghorwyr o Borthmadog. Y pryd hynny nid oedd llywodraeth gabinet na llywodraeth plaid.   Mewn egwyddor, fel ddylai gweithredu drwy blaid a thrwy gabinet ei gwneud hi’n haws gosod i lawr bolisi drwy hyd a lled Gwynedd helaethach, adferedig, a’i weithredu’n gyson o ddydd i ddydd.   Ond gofyn hynny am blaid gref, unol, a chanddi benderfyniad a gweledigaeth yn ogystal â mwyafrif diogel.  Gwyddom, ysywaeth, nad dyna’r  hanes yn y Wynedd bresennol.  Llwyddodd Plaid Cymru, drwy ei maith ffolineb  – ar fater yr ysgolion yn arbennig  – i daflu ymaith ar un trawiad hanner ei chefnogaeth yn y sir, a’i  gosod ei hun mewn cynghrair â gweddill y grŵp Llafur, o bawb!    Camp arbennig iawn mewn trwstaneiddiwch gwleidyddol;  ac fel y gall ddigwydd mewn chwalfa o’r fath, nid y cynghorwyr ffolaf, awduron y trychineb, a gollodd eu seddau, ond rhai o’r cynghorwyr gorau.   Mae’r angen yn fwy nag erioed, mewn llywodraeth leol  ac yn y Cynulliad, am blaid genedlaethol gref, unol, sicr  o’i  bwriad.  Ond, ‘o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef?’  Neu, a newid y cwestiwn, ‘pa beth yr aethoch allan i’w achub ?’   Cwestiynau y gwthir ni i’w gofyn yn ddifrifol wrth edrych ymlaen at etholiadau ar bob gwastad.

3.   Y Siroedd a’r ‘Fro’

Yn ddiweddar , ac yn sgil cyhoeddi ystadegau iaith 2011, fe ailddechreuodd trafodaeth ar y syniad o ‘fro’ neu ‘ranbarth’ Cymraeg, gydag Adam Price ac eraill yn awgrymu patrwm nid mor wahanol i’r hyn yr oedd Adfer yn ei bleidio yn y 1970au.  Oes, mae’n rhaid creu rhywbeth fel hyn, gwlad weddol helaeth lle byddai’r Gymraeg yn briod iaith gweinyddu nid yn unig mewn llywodraeth leol ond yn adrannau llywodraeth Cymru hefyd.  Gwelaf ddau anhawster, ond gydag ystyriaeth fanwl a thipyn o ddychymyg, fe ddylid gallu goresgyn y ddau.

(a)    Byddai raid i’r drychfeddwl o’r ‘Fro’ gyd-daro ag ad-drefniad ystyrlon mewn llywodraeth leol, ad-drefniad a fyddai, ymhlith pethau eraill, yn adfer terfynau’r gwir siroedd, fel yr awgrymir uchod.     Er enghraifft, beth pe tynnid ffin ogleddol y ‘Fro’ tua Bangor-Ogwen, gan adael Arllechwedd a’r Creuddyn yn dir colledig?   Digon posib y byddai’n haws gweinyddu polisi Cymraeg o fewn y terfyn hwn.   Ond thalai hi ddim.  Rhaid i ‘adfer y wir Wynedd’ olygu adfer Sir Gaernarfon yn ei therfynau, o Aberdaron hyd Ben y Gogarth.  (Yn un peth, dyna gaead ar biser y rheini o bobl Bangor sydd am drosglwyddo’u dinas i Sir Conwy am fod honno’n  Seisnigaidd.)   Darllenwn fod gan Gyngor Gwynedd heddiw staff o tua 6,500, a’r rhain bron i gyd yn Gymry.  Mewn trefniant deallus i dorri biwrocratiaeth fe ddylai’r chwe mil a hanner hyn, heb ond ychydig yn eu pennau, allu gweinyddu’r wir Wynedd adferedig hefyd, fel na byddai diben i neb di-Gymraeg ymgeisio am swyddi  ynddi.

(b)    Os mai ‘Arfor’ fyddai’r Fro Gymraeg, h.y. Gwynedd a Dyfed i bob pwrpas, fe gollid rhai ardaloedd eraill a ddylai berthyn iddi, e.e. ‘Y Berfeddwlad’ rhwng Conwy a Chlwyd, gogledd Sir Drefaldwyn a gorllewin Morgannwg.  Fe ddylai’r ‘Fro’, ac fe allai, gyrraedd hyd at Glawdd Offa mewn rhai mannau.  Rhaid gan hynny greu patrwm ystwyth o gyd-ddeall a chydweithio rhwng awdurdod y Fro (pa beth bynnag fydd hwnnw) ac awdurdodau lleol.  E.e., o ran polisïau iaith, fe ddylai fod yn bosibl gwahanu o fewn Sir Ddinbych rhwng glannau môr y gogledd ar y naill law a Hiraethog, Dyffryn Clwyd a Dyffryn Ceiriog ar y llall.   Ac o edrych tua Dyfed, byddai raid wrth ryw ddealltwriaeth fel hyn i oresgyn problem wyth ganrif oed De Sir Benfro.

Cwestiynau pellach

Mae pethau eraill na wn a fydd Comisiwn Williams yn eu trafod ai peidio, ond y byddai’n briodol iawn eu hystyried.  Dyma ddau:

(a)    Y Drefn Gabinet.  Aeth hon i olygu, i bob pwrpas, nad oes ddiben i dri chwarter y cynghorwyr fynd i’r cyngor o gwbl.  Mae bron cyn waethed â’r hen drefn henadurol ers talwm.   Mae’n debyg mai ei phwrpas oedd peri bod penderfyniadau’n gyflymach ac eglurach, a gweithrediad polisïau’n fwy effeithiol.  Ond ymhlith ei chanlyniadau ymarferol mae llai o wrando ar lais y wlad, ac o ganlyniad – nid bod llais y wlad yn iawn bob amser – rhai camgymeriadau tra chostus.

(b)    Swyddogaeth y Cynghorau Cymuned.  Hyd yma ni chlywais awgrymu nad ydynt i barhau. Gweithiodd mudiad Senedd ’04 yn galed ar gynllun a fyddai’n rhoi rôl allweddol i’r cynghorau cymuned mewn creu ail dŷ senedd yng Nghymru, yn cwrdd yn y fan lle dylai gwrdd, Machynlleth.  Dangoswyd diddordeb gan rai o’r cynghorau, ond nid digon o bell ffordd.  Gyda  pheth mwmian am ail dŷ eto, dyma destun mawr arall y gellir mynd ar ei ôl.

Digon am y tro.  Gallwch ddarllen eto hen ysgrif 20 Mawrth y llynedd.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: