Pedair Golwg ar Gyflafan

14 Ion

Am y pedair blynedd nesaf fe gawn glywed llawer o bethau gwirion, a diamau ambell beth call, ar destun y Rhyfel Byd Cyntaf.   Cyfeiriaf heddiw at sylwadau pedwar o bobl.

Gwnaeth yr hen (1)  Michael Gove, Gweinidog Addysg Lloegr, dipyn o asyn ohono’i hun drwy ei ymosodiad ar bethau fel Blackadder ac Oh!  What a Lovely War.   Os coeliwch chi’r rhain, meddai, fe fyddwch yn meddwl mai llanast ofnadwy o wneuthuriad dosbarth llywodraethol di-glem oedd y Rhyfel Mawr.  Atebwyd ef yn bur sydyn gan (2) Syr Tony Robinson (Baldrick) gan ddweud mai dyna fel yr oedd hi, fwy neu lai.

Dilynwyd hyn yn rhifyn cyfredol Private Eye gan golofn ‘Michael Gove’s Big Bumper Guide to British Sit Coms’.   Porridge ? Llwyth o lol adain Chwith yn darlunio troseddwyr fel pobl hanfodol ddiniwed a hyd yn oed hoffus!   Fawlty Towers ? Llwyth o lol adain Chwith yn gwawdio’r dyn busnes bach a’n trefi glan môr!  Dad’s Army ?  Llwyth o lol adain Chwith yn bychanu’r Ymdrech Ryfel. Ond cymerwch chi Till Death Us Do Part wedyn. Dyma ichi rywbeth gwahanol.  Sais o’r iawn ryw yn ei dweud-hi fel y dylid!

Ond daeth llais arall yn ateb Baldrick, llais annisgwyl ar ryw olwg, ac eto efallai na ddylai fod yn annisgwyl.  Meddai (3) Frank Furedi, y cymdeithasegydd o Brifysgol Caint, ar ei flog (rwy’n cyfieithu): ‘Ynfydrwydd hanesyddol yw bwrw’r rhyfel hwn heibio fel “lladdfa ddisynnwyr”.’

Cyfaddefaf y gwir, bu Furedi yn dipyn o arwr gen i, ac y mae o hyd am un rheswm o leiaf. Yn ei lyfr Where Have All the Intellectuals Gone?  ac mewn ysgrifau lawer, fe ymosododd Furedi’n galed ac yn haeddiannol ar y meddylfryd rheolaethol sydd wedi agos-andwyo bywyd y prifysgolion dros y blynyddoedd diwethaf  – holl ethos yr asesu a’r gwerthuso, y monitro a’r meincnodi, yr arfer da, y datganiadau cenhadaeth, yr adroddiadau bodlonrwydd a’r holl rwtshi-ratsh a oedd yn mynnu ei le erbyn yr oeddwn i’n ymddeol o ddysgu, ac sy’n saith gwaeth erbyn hyn yn ôl pob hanes a glywaf.  (Clywais yn wir am adran na wnaf ei henwi, mewn coleg yng Nghymru na wnaf ei enwi – ac sydd wedi mynd yn brifysgol erbyn hyn – a fu mor rhyfygus â dyfynnu Furedi yn ei hadroddiad blynyddol i’r awdurdodau;   ceryddwyd hi am hynny, a gorchymyn iddi ddileu’r dyfyniad. Amlwg fod yma ddyn a all greu daeargrynfeydd dan gadarn goncrit Philistia.) 

Edrychais dipyn o hanes Furedi.  Os oes coel ar Wikipedia, brodor o Hwngari ydyw, ei deulu wedi ymfudo i Ganada yn dilyn methiant gwrthryfel 1956.  Daeth ef i Loegr ddiwedd y 1960au, yntau bryd hynny yn Chwyldroadwr Coleg ac yn Farcsydd go danllyd.  Gwyddom mai lle yw’r Chwith eithaf, gydag ychydig iawn o eithriadau, i gychwyn ohono ar wib tua’r Dde, a diau y dywed rhai fod Furedi bellach wedi mynd yn o bell ar y daith gyfarwydd honno.   I’m golwg i, nid yw ei safbwyntiau ar fyd addysg yn golygu hynny o angenrheidrwydd.  Ond beth am ei flog ar y Rhyfel Mawr – pwnc y mae hefyd yn addo llyfr arno yn fuan?   

Mewn ymateb i ‘No Glory Campaign’ a gefnogir gan nifer o bobl amlwg, myn Furedi nad oes unrhyw ‘ogoniant’ i ymgyrchu yn ei erbyn.  ‘Does neb yn chwifio’r faner ar y canmlwyddiant hwn, ac mae llywodraeth y DU, fel eraill, wedi mynd o’i ffordd i osgoi dim byd cadarnhaol, na dim sy’n debyg o ysbrydoli, ynglŷn ag agwedd filwrol y Rhyfel.’  Do yn wir, fe roddwyd can mil o bunnau i Gymdeithas y Cymod i goffáu safiad heddychwyr.  Ond beth am ddarn dwy bunt Arglwydd Kitchener?   Ai fel rhyw jôc yn ysbryd Blackadder y bwriadwyd hyn?  Fe gawn weld beth fydd y cywair fel yr â’r flwyddyn hon yn ei blaen

Gan ddod at ei bwynt, dywed Furedi mai anghywir yw’r stori fod y Rhyfel Mawr yn beth ‘tu hwnt i ddeall’.  Dehongliad yr unfed ganrif ar hugain yw hyn, meddai: sinigiaeth a difaterwch ein hoes ni, ein hamheuaeth o bob cred ac achos mawr, sy’n peri nad yw’r Rhyfel  bellach yn ‘ddim ond chwedl rybuddiol am ein sefyllfa gyfoes’.   ‘Y gwir yw fod miliynau o unigolion, yn y misoedd cyn dechrau’r rhyfel yn 1914, yn ei groesawu oherwydd credu y byddai’n rhoi iddynt achos gwir ystyrlon.  Yr oedd y parodrwydd i fentro bywyd, a’r ysbryd aberth a barodd i gynifer wirfoddoli i’r frwydr, yn tystio fod llawer o bobl ifainc yn 1914 yn credu fod hwn yn achos gwerth ymladd a gwerth marw drosto.’  

Mae peth gwir, neu ran o’r gwir yn y geiriau hyn.  Rwy’n amau’r ‘misoedd’.  Onid yn sydyn, mewn deuddydd neu dri, y cydiodd y syniad y byddai rhyfel yn beth gwych?  Ac, i’r hen GA gael hysbysebu, fe geisiais i mewn dwy o straeon y gyfrol Camu’n Ôl a Storïau Eraill (y chweched stori, a’r olaf) gynnig, orau y gallwn o bellter canmlwydd, ddau ddehongliad o feddylfryd y genhedlaeth a gerddodd i mewn i drychineb Haf 1914.  Ond mae’n iawn gofyn i Furedi (ac rwy’n meddwl fy mod yn codi’r cwestiwn yn y straeon) beth oedd yr ‘achos’ yr ydym yn sôn amdano?   Ai hawl, cyfiawnder, buddiannau a lles un wladwriaeth, neu un ochr, yn y gwrthdaro?   Ynteu rhywbeth gwahanol?  Tuedda ymresymiad Furedi i awgrymu mai’r ail.  Ac mai’r rhywbeth hwnnw oedd rhyfel ei hun.  Wedyn – er yn sydyn iawn – y daeth yr elyniaeth at ‘yr ochr arall’.  Dyfalu yr wyf, cofier, ond caf ryw deimlad wrth ddarllen am y dyddiau, mai apêl y syniad  o ryfel a ddaeth gyntaf yn y gwledydd i gyd fel ei gilydd; yr oedd yn beth rhamantus, yr oedd yn cynnig rhyw fath o ryddid rhag rhywbeth, ac yr oedd elfen fasochistaidd yn yr apêl, fel yn aml mewn hysteria torfol.   

Ond y tristwch ofnadwy yw hyn, os mai chwilio am ‘achos’ yr oedd torfeydd  ifainc 1914 ar draws y gwledydd, onid oedd digon o achosion taer eraill y gallasent eu cymryd mewn llaw?   Pam mai rhyfel oedd yr unig achos a allodd eu huno wrth y miliynau?  Fe dalai mynd ymhellach ar ôl y cwestiwn hwn, nad yw Furedi yn ei ateb nac yn ei ofyn.

Rwy’n meddwl fod ein pedwerydd sylwedydd yn nes ati, er mai ef, (4) T. H. Parry-Williams, yw’r mwyaf anwleidyddol o lenorion Cymraeg yr ugeinfed ganrif.   Mae cyfrol Angharad Price, Ffarwél i Freiburg:   Crwydriadau Cynnar T. H. Parry-Williams,  yn cyflawni swyddogaeth gyntaf beirniadaeth, sef gyrru’r darllenydd yn ôl at waith y gwrthrych i’w ddarllen mewn goleuni newydd.  Cefais fy hun yn ailddarllen cerddi ac ysgrifau  a fu’n hen gyfeillion dros flynyddoedd lawer, yn eu plith ysgrif  ‘Robin y Gyrrwr’ (Ysgrifau, t. 72).   Ac wele’r dyfyniad allweddol:

“Enw ar ysbryd annelwig oedd Robin y Gyrrwr i mi,  –  rhyw ysbryd aflan neu ‘gythraul canhorthwy’ cyfriniol oedd yn ymweled â’r wlad yn ystod yr haf ac yn meddiannu’r gwartheg druain ac yn peri iddynt bystodi’n llamsachus, gan eu gyrru’n gynddeiriog ulw fel geifr ar daranau.  Ac er esbonio’r peth yn argyhoeddiadol i mi, ac er gweled ohonof y pryf â’m dau lygad fy hun, byddaf yn methu’n lân ag ymwrthod yn llwyr â’r hen syniad dychmygol cyntaf, yn enwedig ar ôl gweled effaith y gyrrwr ryw fis Awst ar rywbeth heblaw gwartheg.”

Sut bynnag yr â’r coffáu a’r dehongli dros y pedair blynedd nesaf hyn, ni allwn anwybyddu Robin y Gyrrwr.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: