Lloffion o’r byd gwleidyddol

17 Ion

(1)       Marwol yn wir

Darogan heddiw beth fydd argymhellion Comisiwn Williams ar ffiniau llywodraeth leol, a sôn am dair sir i’r Gogledd.  (1) Y Wynedd bresennol a Môn.   (2) Y Sir Conwy bresennol a Dinbych.  (3) Fflint a Wrecsam.  Ac ystyried yn unig yr ochr hon, Uwch Conwy, dyma lanast ofnadwy. Hollol annerbyniol. Marwol yn wir.  Trosglwyddo hanner sir hanesyddol Caernarfon i Sir Ddinbych, lle na pherthynodd erioed.  

Na, ni thâl dim ond adfer y wir Wynedd – Môn, Arfon, Meirion – a sefydlu polisi iaith y wir Wynedd dros bob cwr ohoni.  Os daw hwn yn bwnc etholiad, yn sicr ni byddaf yn pleidleisio ond i’r sawl a fydd yn berffaith glir o blaid hyn.                  

Gweler blog 12 Ionawr.

(2)        Pawb yn ymbelydrol rŵan?               

Pethau eraill yn peri i ddyn betruso’n arw i bwy i roi pleidlais.  Fe gyhoeddwyd enwau darpar gabinet newydd Plaid Cymru.  Rhun ab Iorwerth yw’r llefarydd ar Economi a Menter.  A yw polisi’r Blaid ar bwer niwclear wedi newid yn derfynol felly?  Ac os do, drwy ba awdurdod?  Cynhadledd?  Pwyllgor Gwaith?   Dywedwch fy mod i rŵan, yn gwrthwynebu (a) cau ysgolion yng Ngwynedd (yn cynnwys fy hen ysgol fy hun  – nid mai dyna’r prif reswm), (b) codi miloedd o dai diangen, (c) Wylfa B (gweler ysgrif Dr. Carl Clowes yn Y CYMRO heddiw).   Oes yna blaid yn rhywle y gallwn i fotio iddi?

(3)         Ceiniog a dimai

Lleisiau’n codi yn erbyn darn dwy bunt Kitchener.  Dr. Dai Lloyd wedi galw am ei dynnu’n ôl, a gwefan wedi ei sefydlu i’w wrthwynebu.  Ond dyma awgrym i lywodraeth Cymru, gan ei bod hi’n awyddus i goffáu “pawb a fu’n gwasanaethu”.  Beth am fathu darn ceiniog a dimai, efo llun y Parchedig John Williams, Brynsiencyn ?

Dim ond cofio’r hyn a awgrymais yn y blog diwethaf (14 Ionawr), fod y gwerinoedd ar draws y gwledydd eisoes wedi eu pigo gan Robin y Gyrrwr cyn i John Williams, na hyd yn oed Kitchener, ddweud dim.  Gweld cynulleidfa barod, a gweld cyfle, a wnaeth yr hen Frynsiencyn ac eraill tebyg iddo, ac wedi i adrannau o’r gymdeithas newid eu meddwl yng nghwrs y rhyfel ac ar ei ôl, fe ddaeth ef yn dipyn o gocyn hitio. Ni ellir ei gyfiawnhau wrth gwrs, ac fe saif o hyd fel ymgorfforiad o lygredd ei oes a methiant Ymneilltuaeth Cymru.  Ond nid fo cychwynnodd-hi.  Gweler fy llyfr Camu’n Ôl a Storïau Eraill, tt. 365-6.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: