Fformiwla am lanast

20 Ion

Llanast oedd ad-drefniad llywodraeth leol 1996, ac yn argymhellion Comisiwn Williams heddiw – RHAI ohonyn nhw o leiaf  – dyma fformiwla am lanast eto.

Mi soniaf yn unig am y  cwr hwn lle rwy’n byw. Yn unol â’r darogan yr wythnos ddiwethaf, mae’r adroddiad yn argymell uno Môn â’r hyn sydd heddiw yn “Wynedd”, ac uno’r hyn sydd heddiw’n “Sir Conwy” â Dinbych.   Annerbyniol, y ddau dro.

I ddechrau, nonsens yw’r sôn am “Wynedd a Môn”, peth nad yw ond yn dyddio o ad-drefniad annoeth 1996.  Mae Môn yn rhan o Wynedd.  Neu a’i roi fel arall, rhan o Wynedd yw Môn.  Môn, Arfon, Meirion, “y teirsir” fel y byddai rhai o’r hen feirdd yn dweud, – dyna yw Gwynedd, yr Wynedd hanesyddol, y wir Wynedd, gwlad neu dalaith Gwynedd.  Nid Gwynedd mo’r hyn a elwir yn “Wynedd” oddi ar 1996; Arfon-Meirion ydyw, a dyna ddylesid ei galw.

Newydd wrando ar beth o’r drafodaeth ar raglen Gari Owen. Y call a’r gwirion fel ym mhob trafodaeth agored. Ar yr ochr gall dyma:   (1) sylwadau Morgan Vaughan (un o gadeiryddion hen gyngor Gwynedd) am lwyddiant cymharol  y “Wynedd go iawn” , 1973-96;  (2) galwad W.O. Jones am adfer y tair sir ar ddeg.  Mewn rhyw gyfuniad o’r ddeubeth hyn y mae’r ffordd ymlaen.  Nid af i ailadrodd pethau rwyf wedi eu dweud ar y blog o’r blaen (17 Ionawr, 12 Ionawr, hefyd Mawrth y llynedd), dim ond atgoffa:    (a)  cadw ffiniau’r 13 sir gan ymddiried iddynt rai cyfrifoldebau tebyg i rai cynghorau dosbarth gynt; (b)  y rhain yn dod ynghyd mewn “gwlad” neu “dalaith” hanesyddol (Môn, Arfon, Meirion = Gwynedd go iawn unwaith eto) ond mewn perthynas ffederal, rhag amlhau cynghorwyr na swyddogion.  Tra bydd cenhedlaeth yn fyw sy’n cofio’r tair sir ar ddeg, mae gen i deimlad y gallai hwn fod yn bolisi pur boblogaidd:   adfer unedau hanesyddol sy’n ystyrlon o hyd, gan gyfuno hynny â’r math o “wledydd” neu “daleithiau” a fu’n eithaf llwyddiannus, 1970-90au.   A oes rhyw blaid am gydio ynddo?

Nid yn annisgwyl efallai, yr oedd arweinydd Cyngor Môn am gadw Môn fel y mae, gan fod ganddi nifer o “bethau da” ar y gweill.  Yr unig “beth da” y gallodd ei enwi oedd Wylfa B. A’n helpo unwaith eto!  Dim ond gobeithio y daw RHYW ad-drefniad mewn pryd i roi stop ar yr Hara-Ciri a’r Camicasi Monaidd-Japaneaidd hwn cyn iddo’n dinistrio i gyd.

A dod yn ôl at Wynedd, mae, yn hanesyddol, ddwy Wynedd: Uwch- ac Is-Conwy.  Yr oedd “Gwynedd a Chlwyd” y 1970au yn ddigon agos at hyn.  Wrth ad-drefnu ni ddylid byth groesi afon Conwy.  Gwnaed hynny yn 1996 a chreu ffug-sir Conwy, a dylid dadwneud hyn ar y cyfle cyntaf. Gweithred anesgusodol o fandaliaeth bellach fyddai trosglwyddo hanner Sir Gaernarfon, fel y cynigir heddiw, i’w gysylltu â Dinbych.

Fe fydd rhai gwangalon efallai yn dal y byddai’n haws gweithredu polisi iaith pe tynnid llinell i’r gogledd o Fangor a gollwng y ddwy Arllechwedd a’r Creuddyn i’w crogi.  Rwyf wedi ei ddweud o’r blaen ar y blog, ac fe’i dywedaf eto: roedd cynghorwyr Gwynedd a etholwyd yn y 1970au, a’r swyddogion a benodwyd gan y rheini, yn gallu gweithredu’r polisi o Ben y Gogarth i Ynys Enlli, ac o Gaergybi i Bont ar Ddyfi. Fe ddylai fod yn bosibl eto.  Rhan o’r broblem bellach yw fod llywodraeth leol wedi mynd yn fwy pleidiol. Nid bod hynny o anghenraid yn beth drwg, ond bod angen rheolaeth bleidiol gryfach, o ganlyniad, i weithredu unrhyw bolisi.  Trwy drwstaneiddiwch na bu ei debyg, llwyddodd Plaid Cymru ar Gyngor presennol Gwynedd i daflu ymaith tua hanner ei chefnogaeth yn y sir.  Rhaid atgyweirio’r difrod hwn rywsut er mwyn creu plaid ddigon cref ac unol i lywodraethu Gwynedd ehangach.       

Sut y’i gwneir?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: