Gan bwyll, Eisteddfodwyr

23 Ion

£90,000 yn ychwanegol gan y Llywodraeth i’r Eisteddfod i wireddu argymhellion y Dwsin Doeth.

Da iawn yntê.

Ia.

Wel …

Dim ond cofio’r hyn a ddywedodd swyddogion yr Eisteddfod fis Ebrill diwethaf (dyfynnwyd gan y blog hwn, archif Mai, dan y pennawd “Dyma hi’r frawddeg”) : “Mae’n bwysig nodi mai mater i’r Llys fydd penderfynu ar yr ymateb i unrhyw argymhellion a ddaw o du’r Gweinidog”. (Bu newid Gweinidog oddi ar hynny wrth gwrs.)

Disgwyliwn glywed pryd y bydd y Llys yn trafod y Dwsin, a chan nad yw’r drafodaeth honno  wedi bod, onid ychydig yn gynamserol yw datganiad Swyddfa’r Eisteddfod heddiw yn “croesawu’r cyhoeddiad” ?

Fe eir ymlaen, medd yr un datganiad, i drafod “yn fewnol”.  Ond pa mor fewnol yw mewnol? Ac edrychir ymlaen “at barhau’r drafodaeth gyda’r Llywodraeth”.

Ara deg. Gofal.  Rhag ofn i’r Eisteddfod ei chael ei hun ryw fore yn trafod sut i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf gyda llywodraeth sy’n gwahodd Trident i Gymru.  

(Efallai y byddai eitemau’r blog hwn 14 Tachwedd a 4 Mawrth y llynedd hefyd o ryw ddiddordeb.)

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: