Sir Gwymon a Sir Conbych

3 Chw

Dyma geisio cofnodi ychydig feddyliau eto ynghylch Adroddiad Williams ar Lywodraeth Leol.  LLAIS: Wyt ti wedi ei ddarllen?  ATEB: Do, cofiwch, bob gair. Deuddydd go solet o rythu ar y sgrîn. Gall pawb wneud hyn drwy fynd i safle Llywodraeth Cymru.

Mae’n adroddiad da, yn ddigon darllenadwy er gwaethaf ambell esiampl  o ‘arfer da’, ‘meincnodi’, ‘mandadu’ a ‘phrif-ffrydio’ – pethau go anodd i’w hosgoi mae’n debyg.  Mae’r bwriad hefyd i’w weld yn ddiffuant, cynnal a gwella gwasanaethau ein hawdurdodau lleol a hynny yn y modd mwyaf darbodus.

Eto, fel y dywedais o’r blaen, mae yma ‘fformiwla am lanast’.  Cyn gweithredu ar ddim o’r argymhellion, gobeithio y bydd edrych gofalus eto ar yr agwedd bwysicaf, sef y ffiniau.   Fel y cydnebydd yr adroddiad, bydd  ad-drefnu ynddo’i hun yn fusnes costus dros ben, a rhaid ei chael hi’n iawn y tro hwn.

Mae’r comisiwn, fel eraill sydd wedi trafod y pwnc yn ystod y blynyddoedd, fel petai’n cymryd mai amlder cynghorau yw’r brif broblem. Nid dyna ydyw.  Problem lawer mwy yw amlder swyddogion, yr hyn sy’n ymddangos i’r lleygwr o leiaf fel lluosogi swyddi diangen a diystyr, ynghyd â methu rhannu’r dyletswyddau yn y modd mwyaf priodol.   Nid yw’r adroddiad fel petai’n wynebu hyn. Dywed yn wir (1.31) ei bod hi’n anodd ddifrifol cael darlun llawn o holl swyddi’r sector cyhoeddus yng Nghymru, ac y byddai’n dda cael cofrestr hwylus, fel sydd gan lywodraeth yr Alban, o holl aelodaeth a staff cyrff cyhoeddus ynghyd â’r cyflogau. Buasai rhestr fel hyn o swyddi’r cynghorau (heb enwi’r deiliaid) yn fuddiol iawn fel atodiad i’r adroddiad.  A chymorth mawr fuasai awgrym o batrwm staffio’r unedau newydd a argymhellir, gan ddangos yn union ble byddai’r arbedion.

Awgrymir (3.87) ein bod ni Gymry wedi ein gor-gynrychioli gan gynghorwyr, ac y gall fod lle yma i arbed peth traul.  Rhoddir y tair cymhareb:

Cymru        1: 2401
Lloegr        1: 3814
Yr Alban        1: 4259

Efallai y bydd gofyn inni ddygymod â llai o gynghorwyr, h.y. wardiau mwy,  ar y lefelau uchaf;   byddai’n dda meddwl y gallai cynghorau cymuned bywiog wrthbwyso hyn.

Mae’r adroddiad, wedi ystyried peth (3.69) yn gwrthod y syniad o ddwy haen.  (Nid yw fel petai’n ystyried y cynghorau cymuned yn haen o lywodraeth!)  Ond yn ôl i’r fan hon y dylem ddod.  OHERWYDD: (a) rhaid adfer ffiniau ystyrlon, hanesyddol Cymru; (b) rhaid, yn y cwr hwn o’r wlad, adfer y wir Wynedd.

Byddai adfer y tair sir ar ddeg, ynghyd â thair bwrdeistref sirol Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, yn bolisi pur boblogaidd, ond gofalu hefyd adfer eu gwir ffiniau, e.e. dychwelyd Edeirnion i Feirion.  Byddai Môn yn parhau’n sir, a byddai Arfon a Meirion yn siroedd unwaith eto.  Dylid ymddiried i’r siroedd (16 i gyd felly) bwerau a dyletswyddau rywbeth yn debyg i rai’r cynghorau dosbarth gynt.

Dylai’r siroedd, drwy yr un mesur, uno mewn TALEITHIAU neu WLEDYDD, gan adfer yr hyn oedd yn gryfder ym mhatrwm 1974-96. Dylai’r Dalaith reoli (i) Addysg, (ii) Iaith, (iii) Cynllunio eang.

Yn y cwr hwn, Gwynedd yw’r dalaith.   Ni ddylesid byth enwi’r ‘Wynedd’ bresennol yn Wynedd o gwbl. Arfon-Meirion ydyw, a dyna ddylesid ei galw.   Yr un modd, nonsens yw sôn am ‘Wynedd a Môn’. Mae fel sôn am ‘Norfolk ac East Anglia’.   Mae Môn yn rhan o Wynedd.  Rhan o Wynedd yw Môn.  Nid oes Wynedd heb Fôn.  Môn, Arfon, Meirion, dyna Wynedd, neu Wynedd Uwch Conwy a bod yn fanwl.  Wedyn mae Gwynedd Is Conwy, gyda’r enw modern hwylus, Clwyd, ac yn cynnwys siroedd Dinbych a Fflint.

Rhywbeth fel hyn fyddai’r patrwm felly:

Talaith                          Siroedd
Gwynedd                      Môn, Arfon, Meirion
Clwyd                            Dinbych, Fflint
Powys                           Maldwyn, Maesyfed, Brycheiniog
Dyfed                            Ceredigion, Caerfyrddin, Sir Benfro
Morgannwg                 Sir Forganwwg, Caerdydd, Abertawe
Gwent                           Sir Fynwy, Casnewydd

(A pham rhannu Morgannwg?  Roedd yr hen Sir Forgannwg yn gweithio’n iawn.  Os sonnir am boblogaethau anghyfartal, rhaid inni dderbyn fod ardaloedd poblog yn fwy poblog, dyna i gyd!)

I osgoi dyblygu ac i hyrwyddo cydweithrediad, fe fyddai’n dda cynnwys elfen ffederal. E.e. byddai hyn-a-hyn o aelodau etholedig Cyngor Sir Fôn yn aelodau hefyd o Gyngor Talaith Gwynedd, h.y. yn cynrychioli’r sir yn y dalaith.  A byddai hyn-a-hyn o aelodau etholedig Cyngor Talaith Gwynedd, o Fôn, yn aelodau hefyd o Gyngor Sir Fôn, h.y. yn cynrychioli’r dalaith yn y sir.

A mynd â’r peth i dir ffars, – ac mae’n hawdd iawn llithro i’r tir hwnnw – beth fyddai enw’r ‘sir’ newydd eto y mae’r adroddiad yn ei hargymell,  wedi uno’r ‘Wynedd’ bresennol â Môn?   Ai ‘Sir Gwymon’ fyddai hon?

Yr un modd, ai ‘Sir Conbych’ (ar lafar, ‘Combach’ neu ‘Combech’) fyddai hi ar ôl cydio Conwy wrth Ddinbych, a throsglwyddo darn o sir hanesyddol Caernarfon mewn gweithred o fandaliaeth anesgusodol?

‘Uno ynteu creu ffiniau newydd?’  yw pennawd un adran (3.84), fel pe na byddid yn cofio mai ffiniau newydd oedd rhai a grewyd ym 1996  – camgymeriad nas gwnaed ym 1974.

Mae’r adroddiad (3.87) yn ystyried polisïau iaith, ac yn dal bod y dewisiadau a argymhellir ganddo yn ‘cynnig ffiniau sy’n  adlewyrchu defnydd cyhoeddus o’r Gymraeg’, peth yr oedd nifer o’r  tystion wedi pwyso amdano.   Byddai rhai efallai yn tueddu i gyd-fynd ag uno’r Wynedd bresennol â Môn, ar y dybiaeth fod yma uned lle byddai’n haws gweithredu polisi o flaenoriaeth i’r Gymraeg.  Ni ddywedir hynny, ond yr ensyniad yw mai cystal gadael i Sir Conwy fynd i’w chrogi bellach.  Ond na, thâl hynny ddim. Yr oedd Cyngor Gwynedd go iawn (1974) yn gallu gweithredu’r  polisi iaith o Ben y Gogarth i Bont ar Ddyfi, a dylai hynny fod yn bosibl eto.  Rwyf yn falch o ddeall fod arweinyddiaeth Cyngor presennol Gwynedd yn credu hyn.  Dyma un man lle rwy’n cytuno â hwy, ar ôl anghytuno’n ffyrnig yn ddiweddar yn enwedig ar un mater sy’n agos ataf.

Mae hyn yn ein harwain yn naturiol at bwnc Pennod 5 o’r adroddiad, ‘Arweinyddiaeth, Diwylliant a Gwerthoedd’.  A dyma’r peth mawr, yr oedd y tri pheth hyn i’w cael yn y wir Wynedd (1974), ac yn sail i’w llwyddiant ac i’w golygwedd nid yn gymaint fel sir ond fel talaith hanesyddol, un o wledydd y wir Gymru.  Efallai fod cenhedlaeth wedi mynd a chenhedlaeth wedi dod.  Mae Pennod 5 yn ystyried sut y gellir meithrin y tri rhinwedd, ond heb ddod  at unrhyw gasgliadau clir hyd y gwelaf i.  Hwyr neu hwyrach, down yn erbyn ‘yr hen natur ddynol’ chwedl Daniel Owen, a’r gwirionedd mawr hwnnw a fynegodd Harri Webb, fod rhai pobl, a rhai cymdeithasau yn fwy na’i gilydd, yn ffynnu ar ‘ddrewdod llygredd cartrefol’ (the stench of homely corruption); nid yn unig gallant fyw efo fo, ond ni allant fyw hebddo.  I raddau yn unig y gall trefniadaeth oresgyn y broblem oesol hon, er y gall hi i ryw fesur; er enghraifft, yr oedd cynghorwyr Môn yn medru ymddwyn yn ddigon normal a chyfrifol, a chyfrannu yr un mor adeiladol, pan oeddent o fewn y wir Wynedd ac yng nghwmni hogiau a genod Meirion, Llŷn ac Eifionydd, Caernarfon, Dyffryn Nantlle a Dyffryn Ogwen.

Rhaid inni gael y gwir siroedd, a’r wir Wynedd, yn eu holau.  A oes rhywrai yn rhywle sydd am wneud hyn yn bolisi?

Fel mewn ysgrifau blaenorol ar y pwnc allweddol hwn, rwyf am bwysleisio eto nad oes gen i unrhyw gysylltiad â llywodraeth leol  ond fel trethdalwr.  Anaml iawn y bûm trwy ddrws pencadlys fy awdurdod lleol, a’r tro diwethaf mi wnes y camgymeriad erchyll o fynd i mewn trwy’r drws anghywir.  Aeth rhyw wraig, o’r staff rwy’n cymryd, i sterics oherwydd y fath drosedd yn erbyn Arfer Da, a bu bron iddi gael ffatan yn y fan a’r lle!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: