Hitachi heddiw? Heit ha hanciw, Hita chi?

5 Chw

Mae gwledydd Ewrop yn ceisio cau pen y mwdwl ar y niwclear, ond mae Môn isio mwy.

‘Mwy o newyddion calonogol i Fôn’ medd bwletin newyddion Radio Cymru wrth gyhoeddi bwriad Hitachi i symud ymlaen.  Dyma newyddiaduraeth eithafol anghyfrifol, yn trin mater dadleuol dros ben fel pe na bai dadl yn ei gylch o gwbl. Dyma’r pechod marwol, cymysgu ffaith a safbwynt yn yr hyn sydd i fod yn adroddiad ffeithiol. Pwy sgrifennodd yr eitem yna?  Dylai gael sac.

Cynrychioli safbwynt y mae’r sylwadau isod  (1-12), a gefais gan un sydd wedi meddwl, gwrando a darllen llawer am y pwnc.

1.     Dywed arbenigwyr fod sgîl-effaith Fukushima dair gwaith yn waeth na Chernobyl.  Fod holl reis y wlad i’r de o Tokyo yn ymbelydrol.  Mae’r coed wedi dal llawer o’r  ymbelydredd yn y paill, a bydd hwnnw’n lledu.  Cred rhai nad oes dyfodol i’r bobl yno bellach ac mai’r peth callaf fyddai i bawb ymadael. Nid oes tudalen yng nghefn y llyfr peirianneg niwclear i ddweud  sut i ddatrys problemau o’r fath.  Ewch ar U-tube a theipiwch ‘Japan radiation’ neu ‘nuclear disaster’.
 
2.    Mae Fukushima’n dal i ollwng llawer iawn o ymbelydredd i’r Pasiffig, ac yn fuan bydd pysgotwyr ochr orllewinol UDA yn dal pysgod ymbelydrol. Mae diwydiant pysgota Japan wedi ei ddinistrio am byth, trwy fod gwledydd yn gwrthod mewnforio’i physgod, a’r pysgod yn marw mewn rhai rhannau o’r môr.
        
3.    Mae miloedd o blant eisoes yn dioddef o thyroid chwyddedig, a bydd Japan yn wynebu epidemig cancr aruthrol yn ystod yr ugain mlynedd nesaf.

4.    Gorfodir trueiniaid di-waith yn Japan, pobl heb wybod dim am y diwydiant niwclear, i weithio shifftiau 12 awr am isafswm cyflog, yn ceisio ‘glanhau’ safle Fukushima.  Dywed arbenigwyr y bydd y sawl sy’n sefyll yn agos at ganolbwynt y trychineb yn cael ei wenwyno mewn  pum munud.  Diddorol yw clywed fod Coleg Menai a Phrifysgol Bangor yn darparu cyrsiau hyfforddi ar gyfer gwaith yn yr Wylfa Newydd.  Fel tipyn o brofiad gwaith, beth am i’r myfyrwyr fynd draw i Fukushima, pawb â’i fwced a’i fop, i helpu glanhau tipyn bach?  Wedyn byddent yn gwybod beth i’w wneud pe bai rhyw broblem yn nes adref.   

5.     Pan gaeodd Japan ei holl adweithyddion, 54 i gyd, yr oedd ganddi ddigon o drydan. Mae’r diwydiant niwclear yn deillio o’r Rhyfel Oer. Ni bu erioed raid wrtho i gynhyrchu trydan.

6.    Ar ymweliad â Môn yn ddiweddar, soniodd peiriannydd trydanol o Ogledd Iwerddon fod UN  tyrbein anferth ar lan Loch Neave yn darparu holl drydan y dalaith.  Mae cerrynt Afon Menai, meddai, tuag ugain gwaith cryfach na’r cerrynt yn y fan honno.  Pam na ddefnyddiwch chi hwnnw?  Be ydi’r obsesiwn yma efo niwclear?

7.    Nid rhyfedd fod deiseb gan wyth miliwn o bobl Japan yn pwyso am roi’r gorau i bob datblygiad niwclear.  Nid rhyfedd fod maer Fukushima, drwy Dr. Carl Clowes, yn anfon neges i Fôn, ‘Peidiwch, peidiwch, peidiwch!’

8.    Ond be glywn ni ym Môn?  ‘Mae Cemaes yn ddibynnol ar Wylfa’, a sylw gwraig ar raglen ‘Pawb â’i Farn’ rywdro y llynedd, ‘oherwydd Wylfa rydan ni wedi cael petha’.  Mae’r cyfuniad o blwyfoldeb cibddall ar y naill law, a hunanoldeb plentynnaidd, babïaidd ar y llall, yn cau llygaid a chlustiau rhai pobl i bob ffaith a rheswm. Darllenwn mai pedwar y cant o blant ysgol Cemaes sy’n dod o gartrefi Cymraeg, ond daliwn i glywed ‘Wylfa Newydd er mwyn yr iaith’!  Ond nac anghofiwn rodd Horizon o £20,000 i Fenter Môn! Aruthrol yntê!   

9.    Ar yr un rhifyn o’r anfarwol ‘Pawb â’i Farn’ fe ddywedodd John Chorlton, cynghorydd ym Môn ar y pryd, rywbeth fel hyn: ‘Mae’r poisn yn dwad drosodd o Chernobyl beth bynnag, wedyn waeth inni gael o’n fan hyn’.  Sut mae esbonio meddwl fel yna?

10.    Llwydda rhai o gefnogwyr niwclear i roi’r argraff eu bod o’i blaid, nid oherwydd credu ei fod yn saff, ond oherwydd gwybod ei fod yn beryg.  H.y., mae yna ryw agwedd macho, ylwch ni ddim ofn, ynglŷn â’r peth.  Yn wir does fawr o wahaniaeth rhwng hyn a’r peth a eilw’r Sais yn death wish, isio marw p’run bynnag.  Am ba hyd yr ydym am ganiatáu i’r hara-kiri a’r kamikaze  Japmonaidd hwn beryglu dyfodol pawb ohonom?         

11.    Fe ddywedodd Warren Buffet, prif ddyn-gwneud-pres y byd, ei fod wedi crafu ei ben am flynyddoedd uwchben posibiliadau buddsoddi mewn ynni niwclear, ac wedi dod i’r casgliad na ellir byth wneud dim elw ohono oherwydd costau anferthol trin y gwastraff, datgomisiynu a glanhau. $350 BILIWN yw cost ceisio diogelu Chernobyl HYD YMA.  A thriwch  yswirio’ch cartref yn erbyn damwain niwclear!

12.     Tra bydd Radio Cymru’n dal i adrodd am y ‘newyddion calonogol’ a’r ddau bapur tships lleol, y Mail a’r Chronicle, yn printio’r sbin ymbelydrol am ‘Wylfa windfall’, mae prosesau eraill yn digwydd.  

(i)    Mae miloedd o bobl bellach yn erlyn cwmni Hitachi am y salwch y mae wedi ei achosi, nid yn unig pobl Japan ei hun, ond hefyd aelodau o Lynges yr Unol Daleithiau a aeth yno i helpu wedi’r tswnami, a dioddef yn enbyd wedyn o gancr a phethau eraill.  Os bydd y rhain yn ennill, ni bydd gan Hitachi ddim dwy yen i’w rhwbio yn ei gilydd, heb sôn am eu buddsoddi yn nyfodol Cemaes.  

(ii)   Yn ôl y wasg, 1 Chwefror, mae’r Comisiwn Ewropeaidd o’r farn mai anghyfreithlon fyddai i lywodraeth Prydain gyfrannu ei biliynau tuag at atomfa newydd Hinkley.   Nid yw hwn yn newydd rhy dda i Gemaes.

(iii)    Os aiff yr Alban yn annibynnol, ni bydd dim mwy o gyfoeth Môr y Gogledd i sybsideiddio’r  diwydiant niwclear.  Ac yn ôl pob arbenigwr economaidd a chyllidol, heb fod yno symiau enfawr o arian cyhoeddus, mae buddsoddi mewn niwclear yn ffordd sicr o golli’ch pres i gyd.

(iv)    Unwaith eto, os bydd yr Alban yn mynd, mae’n bosib y bydd ei hamgylchiadau’n gorfodi Cymru i fynd yr un ffordd.  Pwy, ymhen cenhedlaeth neu ddwy, fydd yn gorfod datgomisiynu safleoedd  niwclear, eu glanhau a delio â’r gwastraff?   Nid y cwmnïau preifat  – bydd y rheini wedi’i gleuo hi.   Byddai’r gost yn anferthol, ac yn llyncu arian Cymru I GYD, fel na byddai DIM ar ôl ar gyfer DIM arall.  Ond yn y cyfamser byddai pobol Cemaes wedi cael petha.    

Dau sylw i gloi.

–   Ar 30 Chwefror cafwyd ‘Pawb â’i Farn’ unwaith eto o Langefni. Wedi edrych ymlaen at wledd arall o blwyfoldeb, pwysigrwydd, hunanoldeb, babieiddiwch a diffyg dallt, ni’n siomwyd, er i ddau aelod o’r  panel (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, a chyn-AS) wneud eu gorau i gadw pethau ar y rêls.

–    Polisi Plaid Cymru yw, neu oedd, ymwrthod â’r niwclear.  Fe ymladdodd Rhun ab Iorwerth yr isetholiad yn llynedd, a’i ennill, ar bolisi o gefnogi Wylfa B.  Roedd hynny’n ddigon drwg, ond yn awr dyma’i wneud yn llefarydd ar yr economi  – o bob peth – yng nghabinet yr wrthblaid!   Be sy’n bod ar Leanne?  Pryd mae polisi ddim yn bolisi?   Y tro hwn o leiaf roedd raid cytuno â Betty Williams, nid ei bod hi wedi datgan yn bendant o blaid nac yn erbyn niwclear, ond ei bod wedi gofyn, yn hollol deg, ble mae cysondeb.  Dim ond cofio yr un pryd fod Carwyn a’i lywodraeth nid yn unig am gael atomfa newydd i Fôn, ond am gael Trident i Sir Benfro hefyd. Gwaith i Gymru!

Advertisements

Un Ymateb to “Hitachi heddiw? Heit ha hanciw, Hita chi?”

  1. endaf emlyn Mehefin 8, 2015 at 1:09 pm #

    Mae safiad y Blaid ar Wylfa yn llwfr a chymysg iawn. Mwya’r gresyn.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: