Beth am wneud casgliad bach ?

9 Chw

Yn y papur ddoe (Daily Telegraph, 8 Chwefror) fe adroddir mai £612 miliwn (hyd yma) yw maint yr iawndal y mae dwsinau o forwyr yr Unol Daleithiau yn ei hawlio gan reolwyr atomfa Fukushima.   Wedi’r tswnami ym Mawrth 2011 anfonwyd yr USS Ronald Reagan i gyffiniau Fukushima i helpu achub pobl a’u symud.  Bellach fe ddywed 79 o’r morwyr eu bod yn dioddef o effeithiau ymbelydredd, ac mae achosion wedi cychwyn yn erbyn rheolwyr yr atomfa.

Nid yw hyn yn newydd da i Hitachi, nac i Gemaes, nac i’r rhai sy’n dyheu am fwy o ‘betha’ i Fôn.  

Mae’n bryd felly i gynghorwyr Môn o bob plaid droi allan i roi hwb bach i’r achos.  Pob un â’i focs casglu ar strydoedd Llangefni, Caergybi, Amlwch a’r Borth, esbonio’r amgylchiadau i bobl a gwahodd cyfraniadau, bach neu fawr, at ‘Gronfa Achub Hitachi’.

Fel arwydd o ewyllys da hefyd, gall Menter Môn fentro rhoi yn ôl y swm aruthrol  o £20,000 y mae wedi ei gael gan Horizon.

*    *   *

Ar yr un pwnc, ond newid cywair: edrychwch ar flog Syniadau.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: