Y ddau berygl

16 Chw

Yn y flwyddyn hanesyddol hon, a all fod hefyd … hwyrach … gawn ni weld … yn flwyddyn dyngedfennol, os coeliwn ni NHW, y ddau beth mwyaf peryglus yn y byd yw (a) Alex Salmond, a (b) Blackadder.

Trwy ei lwydddiant yn etholiad senedd yr Alban yn 2009 fe gadarnhaodd Salmond ei hawl i deitl “y dyn mwyaf peryglus”,  ac ymuno ag olyniaeth sy’n cynnwys Napoleon, y Kaiser, Gandhi, Hitler, Makarios, Jomo Kenyatta, Gerry Adams a Martin McGuinness – pob un wedi dal y teitl yn ei dro.  Hyd yma nid oes dim un Cymro wedi ei lawn dderbyn i’r cwmni hwn; fe sbwyliodd Lloyd George ac Aneurin Bevan eu siawns drwy gyfaddawdu â NHW yn rhy fuan.  Bu bron i Seimon Glyn ei chipio hi am ychydig ddyddiau. Ond “I’d vote for that Daffyd Wigley meself.”

Wedyn Blackadder.  Dyma’r BBC yn lansio “the biggest broadcasting season ever attempted” (geiriau’r Radio Times) sef pedair blynedd a mwy o goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mewn 2,500 awr o ddarlledu bydd rhaglenni nodwedd, trafodaethau, ffilmiau, dramâu, defodau, dadansoddiadau.  Addewir “highlights”.   Ond yr un eitem nad addewir ei dangos yw cyfres olaf, a phennod olaf, anturiaethau dianrhydedd Capten Blackadder  a’i gwmni o raddau uwch ac is.

Ar y canmlwyddiant hwn mae’r cyfyng-gyngor yr un, er ar raddfa fwy o bosib, ag ym mhob blwyddyn oddi ar gadoediad 1918.  Da o beth yw cofio.  Ie efallai, Cofio gydag C fawr. Mae’n bwysig cofnodi, hyd y mae hynny’n bosibl, yr hyn a ddigwyddodd a pham y digwyddodd. Mae gwerth mewn ceisio deall teimladau a chymhellion pobl ar y pryd, gartref ac ar y meysydd brwydro.  Mae gan rai dosbarthiadau o bobl – aelodau a chyn-aelodau’r lluoedd arfog, a hefyd teuluoedd a gollodd aelodau – eu ffyrdd eu hunain o goffáu, a’u pwyslais, eu teimladau,  eu hunain.   Ond, fel y gŵyr y rhan fwyaf ohonom yn ddistaw bach, rwy’n amau, er nad pawb sy’n ei ddweud ar goedd, mae’r perygl bob amser i’r coffáu fynd yn ddefodaeth  dotemig, gyda rhyfel ei hun yn wrthrych addoliad.  Mae rhyw ogwydd felly yn narllediadau’r Coffâd bob mis Tachwedd, er nad yw pawb efallai yn teimlo hynny.  Mae’r demtasiwn yn wastad bresennol, defnyddio’r achlysur i roi’r “Mawr” yn ôl ym Mhrydain. Bu David Cameron cystal â dweud hynny wrth awgrymu y gall fod i’r coffáu yr un gwerth â Jwbilî’r frenhines !

(Digrif yw hanes y Mawr yma.   Onid oedd Margaret Thatcher wedi ei roi yn ôl, a hynny’n benodol y dydd y cipiwyd South Georgia?  Pam yr oedd angen ei roi yn ôl wedyn yn rheolaidd dros ddeng mlynedd ar hugain?  A oedd wedi syrthio allan drwy ryw dwll?  Pam yr oedd angladd y Fam Frenhines, priodas Wills a Kate, y Jwbilî, Campau Olympaidd Llundain, ac yn wir gynhebrwng yr hen Thatcher ei hun, oll yn achlysuron i’w roi yn ôl, a pham y mae gwleidyddion yn dal i addo ei roi yn ôl?)  

Mewn hanner awr, mae pennod olaf Blackadder yn tanseilio’r holl nonsens affwysol.  Os gwrthodir ei hailddangos, mae dyn yn amau mai’r rheswm fydd fod ynddi fwy o wirionedd na’r 2,500 awr arall efo’i gilydd.  Y gwirionedd hwn yw fod yr holl adeiladwaith llofruddiog, celwyddog yn gorffwys ar un peth, sef taeogrwydd Baldrick.  Roedd Baldrick yn meddwl  bod yn rhaid iddo, a mwy na hynny ei bod yn fraint iddo, ufuddhau i’r rhes esgynnol  o gnafon a ffyliaid  uwch ei ben, ac weithiau awgrymu ambell gynllwyn cyfrwys a dieflig i hybu’r achos.  “Ffyddlondeb”, “teyrngarwch”, “cadw’n driw” fyddai ei eiriau ef am y peth mae’n debyg, a geiriau’r mwyafrif mawr ar ddwy ochr y gwrthdaro.  Dyna drychineb y genhedlaeth.

Un dyn na fyddai’n cytuno yw Jeremy Paxman. “Comedi ddisglair,” meddai am Blackadder, “ond daw’r broblem pan ddysgir hi fel ffaith.”  Mae gan Paxman y dyddiau hyn ei gyfres deledu “Britain’s Great War”, a hysbysebwyd ar glawr y Radio Times gyda’r cyflwynydd wedi cael benthyg cap a bwstas Kitchener mewn parodi ar y poster enwog.  Mae ganddo hefyd lyfr â’r un teitl ond â’r isdeitl “A Sympathetic History of our Greatest Folly”.    

Os “ein ffolineb eithaf”, pam ei gael?  Pam ei gefnogi?  Pam gweld unrhyw rinwedd ynddo?   “Dim ond ynfytyn hollol fyddai’n dathlu’r fath drychineb,” meddai’r cyflwynydd mewn cyfweliad yn y Radio Times. Eto roedd yn rhaid ei hymladd hi.  Hi a’n gwnaeth ni. Mwy na hynny, “crancod”, meddai ef ar un o’r rhaglenni, oedd pawb o’r nifer bychan bach a oedd yn gwrthwynebu’r rhyfel yn ddiamod.  “A refreshing moment” medd broliant byr y RT am y sylw hwn:   fel mae’r masg yn syrthio weithiau a datgelu beth maen’ NHW yn ei feddwl.   Teg ychwanegu fod llythyrwyr wedi ateb hyn yn bur chwyrn mewn rhifyn arall o’r cylchgrawn.  

Ond mae mwy iddi na hynny hyd yn oed.  “Byddwn i wedi gwneud yn well petawn i wedi bwrw tymor mewn urddwisg” yw pennawd y cyfweliad, a’r “well” mewn coch.  Dyma ddwyn i gof resyndod Dr. Johnson na chafodd gyfle i ddwyn arfau dros Loegr, ac ymgais Ieuan Brydydd Hir o’r un genhedlaeth i fod yn filwr – a barhaodd wythnos. Yn nes atom, dyma ramantiaeth anaeddfed nid annhebyg i ddyhead wythnosol Cameron Jenkins i gael chwarae UN gêm ’da’r  bois mowr.  Hawdd fyddai amlhau cwestiynau.  Oni fyddai  ymuno â’r Tiriogaethwyr wedi gwneud y tro?  Neu os mai’r iwnifform sy’n bwysig, pam nad gwneud fel y gwna nifer bychan ond cynyddol yn America, medden nhw, prynu’r siwt, ei gwisgo fwrw’r Suliau gyda medalau addas, a phalu ambell gelwydd am y profiad milwrol – trosedd y mae’r FBI, fe ddywedir, yn cymryd golwg go ddu arno?  Yn erbyn pwy y gallasem ni gael rhyfel, tybed, er mwyn i Paxman gael gwisgo’r wisg a chael y profiad a fyddai wedi ei wneud hyd yn oed yn well dyn?  Oes rhywbeth o’i le ar y miliynau ohonom, mwyafrif mawr y boblogaeth erbyn hyn, nas hyfforddwyd erioed i danio ergyd?

Un peth yw cranc. Peth arall yw crinc. Fe ŵyr pob Cofi Dre beth yw crinc, ac o geisio meddwl am enghraifft, daw delwedd gyhoeddus darlledwr adnabyddus iawn yn fuan i’r meddwl.  Ond un peth yw’r ddelwedd a pheth arall yw’r dyn, medd rhai sydd mewn safle i wybod, a rhaid caniatáu hynny bob amser.

Fe benderfynodd cenedlaetholwyr yr Alban fynd amdani a chael y refferendwm eleni, yn nannedd y tswnami o Brydeindod y mae’r flwyddyn yn ei wahodd.  Fel y mae’r hen GA yn barnu’n amlach wrth fynd yn hŷn, ac wedi dweud o’r blaen ar y blog hwn, gwell, fel rheol, mentro mwy na mentro llai.  Rhyfeddol yw’r posibilrwydd na fydd, erbyn diwedd y flwyddyn hon, Brydain i roi’r Mawr yn ôl ynddi. Y posibilrwydd na ellir cael “Britain’s War” byth eto.  Y posibilrwydd fod eu pantomeim di-chwaeth NHW, wedi mil o flynyddoedd, ar ben.

Drosodd at Alex.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: