Hen gynefin, enw newydd

28 Chw

Y diwrnod o’r blaen (Sadwrn, 22 Chwefror) bûm mewn lle go newydd, i mi, sef Neuadd Reichel Reichel Hall fel y nodir wrth y drws.  Yn fyfyriwr, flynyddoedd lawer yn ôl, mi fûm yn byw am dair blynedd yn Neuadd Reichel, Bangor, ac am ddwy flynedd yn ddiweddarach fel tiwtor.  Byddem yn dweud “Reichel” fel rhyw law-fer, ond yn gwybod mai “Neuadd Reichel” oedd yr enw a roddwyd gan Gyngor y Coleg pan agorwyd y neuadd yn y 1940au.

Ar glawr llawlyfr o ddechrau’r 1960au ceir  “Neuadd   Reichel”, ac wedyn “University College of North Wales”.  Ar y dudalen deitl ceir “Reichel Hall” yn fychan ac mewn cromfachau, fel rhyw esboniad, o dan yr enw Cymraeg.  “Neuadd” a “Reichel”, un bob ochr, sy’n gerfiedig ar ddau gilbost y giât.

Treuliais fy mlwyddyn gyntaf yn Reichel a rhan o’r ail dan deyrnasiad yr ail Warden, y Parchedig D.W. Gundry, cymeriad hynod a’r Sais mwyaf Seisnigaidd y gallai neb fyth ddod ar ei draws.   Byddai Gundry yn ein siarsio, “This is not a hostel, it is a hall of residence”.   Eto i gyd, fel “Neuadd Reichel”, ei henw swyddogol, y byddai hyd yn oed ef yn cyfeirio ati.

Ond fel y cofia pawb o’r hen aelodau, profodd un peth yn drech na galluoedd helaeth Gundry, sef adrodd y gras bwyd Cymraeg a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y neuadd gan Syr Ifor Williams.  Bu raid ei drosi, gan roi inni ras bwyd Lladin enwog Neuadd Reichel. “Omnipotens Deus, clementissime pater, omnis boni fons …” ac yn y blaen. Dyna un eitem o’r Hen Drefn a oroesodd, hyd yn oed wedi olynu Gundry gan warden tra gwahanol, Aled Eames.  Yr unig adeg y diolchid am ein hymborth  mewn unrhyw beth ond Lladin oedd Gŵyl Ddewi, ac weithiau ar yr achlysur hwnnw, gan gadeirydd myfyrwyr a ddigwyddai fod yn Gymro,  ceid y geiriad cofiadwy: “Diolch am a gawd, er na chawd ond ychydig.  Roedd y ’chydig ag a gawd yn dda ddiawchedig.”

Rhyfedd wrth edrych yn ôl, ond gwir: yr oedd cadeirydd y myfyrwyr yn tueddu i fod yn Gymro er mai lleiafrif bach oedd y Cymry yn y neuadd.  Sut y digwyddai hynny, bron flwyddyn ar ôl blwyddyn, nid wy’n siŵr.  Yr hyn a gofiaf yn arbennig yw ein bod ni’r ychydig Gymry, dan oruchwyliaeth Gundry, yn cael hwyl aruthrol.  Rhyw Bobl yr Ymylon oeddem y rhan fwyaf o’r amser, yn gwbl rydd i gyfranogi yn yr ethos Reichelaidd pan gymerai ein ffansi, ond yn ei weld yn ddigri hefyd.

                                                                                             §

Beth bynnag, achlysur yr ymweliad diweddar â Reichel oedd cwrs undydd a drefnwyd gan Ysgol y Gymraeg, Coleg Bangor (gallaf sgrifennu “Ysgol”, ar ôl f’atgoffa fy hun, ond mae’r  llaw ohoni ei hun yn  sgrifennu “Coleg”) i goffáu cyhoeddi A Welsh Grammar, Syr John Morris-Jones.  Roeddem yn cwrdd yn yr hyn a arferai fod yn llyfrgell y neuadd.  Beth sydd wedi digwydd i’r llyfrau, wn i ddim. Mi sgrifennais at yr awdurdodau rai blynyddoedd yn ôl i siarsio bod eisiau eu diogelu yn rhywle.

Cawsom bum sgwrs neu ddarlith ar waith Syr John a phethau cysylltiedig, ac mi soniaf yn unig am yr olaf.  Cyflwyniad oedd hwn gan Robat Trefor i ymchwil neu arolwg y mae ef yn ei gynnal i arferion darllen Cymraeg, ac agweddau tuag wahanol fathau o Gymraeg.  Gwnaed yr arolwg gyda help dau “grŵp ffocws”, fel y dywedir, sef dau griw bach o bobl, un yn Sir Fôn a’r llall yn Sir Gaerfyrddin, a dim un o’r ddau yn cynnwys rhai y byddem yn eu galw yn “Gymry proffesiynol”.  Rhoddodd Robat Trefor inni ddau gasgliad clir iawn.  (1) Beth y mae aelodau’r ddau grŵp yn ei ddarllen yn rheolaidd yn Gymraeg? Un peth ac un peth yn unig: eu papur bro.  (2) Pa fath, pa lefel o Gymraeg y mae orau ganddynt ei ddarllen?  Ateb, heb fawr amheuaeth: Cymraeg safonol neu lenyddol, sef dewis naturiol y papurau bro drwy hyd a lled Cymru.     

Dyma gadarnhad o ddau wirionedd go fawr, choelia’ i byth: cyfraniad aruthrol y papur bro mewn cadw’r Cymry’n llythrennog, dros gyfnod o ddeugain mlynedd bellach; a phwysigrwydd y cyfrwng llenyddol fel rhan o’r llwyddiant hwnnw.    

Nid yw hynny’n golygu nad yw cofnodi tafodiaith, neu sgrifennu iaith lafar, yn rhan o lenyddiaeth ac yn rhan bwysig.  Mae honno’n grefft, ac ychydig yw’r meistri arni.  Dyma gyfle i roi clod i un meistr cyfoes, Alun Cob yn ei dair nofel am fywyd Bangor heddiw (Pwll Ynfyd, Tarw Pres a Gwyllgi).  Mae’n defnyddio tri dull; gadael rhai pethau fel y maent yn Saesneg; cofnodi rhai pethau Saesneg yn ffonetig Gymraeg; ac atgynhyrchu peth siarad Cymraeg ansafonol yn gywir iawn.  Mae gofyn i’r llygad arfer tipyn â darllen, fel gydag unrhyw dafodiaith ysgrifenedig – iaith Cocni  Charles Dickens, er enghraifft; a phrin y mae’r iaith yn ddymunol wedyn, – nid oes bwriad iddi fod.  Ond rhaid edmygu’r cywirdeb, sydd yn agos at fod yn ddi-feth.   

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: