Terfyn llwyddiannus

21 Maw

Ddydd Mawrth yr wythnos hon bu’r hen G.A. mewn lle go ddiarth iddo, Llys y Goron,  Caernarfon.

Do, mi eisteddais trwy’r dydd fel aelod o’r cyhoedd yn gwrando ar achos arwyddocaol dros ben. Allwn i ddim bod yno fore Mercher i glywed y diweddglo llwyddiannus, hanesyddol, ond cefais y newydd da yn fuan wedyn. Newydd da o lawenydd mawr iawn.

Rhyw fath o achos iaith oedd hwn. Rhyw fath. Ond achos gwahanol i’r cannoedd o achosion a aeth trwy’r llysoedd yn ystod yr hanner canmlwydd diwethaf. Nid oedd a wnelo â thor-cyfraith bwriadol, nac â phrotest o unrhyw fath. Nid oedd a wnelo â dim un o’r mudiadau iaith.  Hyd yma (pnawn Gwener) beth bynnag, nid oes yr un o’r cyfryngau wedi gweld ei arwyddocâd.

                                                              §

Rwy’n siŵr y bydd rhai o’m darllenwyr yn gyfarwydd â golygfeydd bach fel y tair sy’n dilyn, neu wedi bod â rhan mewn ambell un.

CYMERIADAU:    A: cwsmer neu aelod o’r cyhoedd.   B: rhywun mewn siop neu swyddfa.

GOLYGFA 1.

A:   ’Dach chi’n o lew?
B:    I’m sorrey.
A:    Oes gynnoch chi sgidia fatha rhain? (Dangos ei draed.)
B:    I’m English.
A:    (Petruso am funud.  Methu gweld y cysylltiad rhwng yr ateb a’r  cwestiwn. Efallai nad oes cysylltiad.)  Chwilio am bâr o sgidia duon, tebyg i’r rhain.   (Pwyntio at ei draed  eto. Helpu.)
B:     English.
A:     Sgidia.  (Bod yn amyneddgar. Helpu.)
B:     I’m sorrey but I’m English.
A:     Iawn, ia, chwilio am bâr o sgidia …
B:     You have to speak English.
A:     O wel, dyna ni.  (Ei draed, yn yr hen esgidiau,  yn mynd ohonyn eu hunain i  siop arall.)

GOLYGFA 2.

A:      Bore da.
B:      Can I help you?
A:      Galw i weld Mr. Hwn-a-hwn.
B:      English.
A:      Ydi Mr. Hwn-a-hwn i mewn?
B:      Don’t speak Welsh.
A:      (Yn ildio tir, ond trio bod yn glyfar.  Ei Saesneg crandiaf.)  Now is that the indicative or the imperative, would you say?
B:       I’m English.
A:      (Trio gweld rhyw gysylltiad rhwng y cwestiwn a’r ateb. Methu.  Symleiddio wedyn.)   Is that a statement or a command?
B:       You can’t speak Welsh.
A:      (Myfyrio uwchben ystyr y gosodiad.)   How d’you mean, “can’t”?
B:       I’m English.
A:       Hwyl ichi rŵan.  (Mynd allan.)
B:       (Dechrau gwawrio.)   Excuse me … !
A:       (Meddwl.)  Rhy hwyr, ’mechan i.  A stwffio Mr. Hwn-a-hwn hefyd am gyflogi’r fath jolpan.  Digon o dwrneiod / penseiri / cyfrifyddion / contractwyr  (dewiser) eraill yn y dre ’ma …

GOLYGFA 3.

A:       Gymera’ i dri lemon.
B:       (Dallt dim.)   English.
A:       (Araf. Clir.)   Tri. Lemon.
B:       (Yn y niwl.)    Don’t speak Welsh.
A:       (Amyneddgar.  Positif.  Helpu Dysgwyr.  Dangos â thri bys.)  Tri. Tri. (Dangos eto.) Lemon.
B:       No Welsh.
A:       Wyddost ti be ydi lemon?  (Meddwl, ond ddim yn dweud: Peth ’run  fath â chdi.)
B:       Speak English.  (Mynd i sterics.)
(A. yn mynd i siop arall.)

                                                                                   §

Wel, rhyw olygfa debyg i’r rheina oedd cefndir yr achos.  Ffars, ac eto sobor o drist.

Bu Richard T. Jones, ffermwr o ardal Pen-y-groes, Arfon, yn fwy cyson a mwy llwyddiannus na’r rhan fwyaf ohonom yn siarad Cymraeg â phawb ac ym mhob math o sefyllfa.  Mae Richard wedi meddwl llawer am y mater, ac wedi astudio’r math o gyflwr meddwl sydd y tu ôl i olygfeydd fel yr uchod.  Efallai bod y darllenwyr yn cofio ambell lythyr ganddo yn y wasg ar agweddau o fywyd Cymru heddiw.

Yn Hydref 2012 aeth Richard ag ychydig nwyddau i siop elusen yn ei ardal, a chyn mynd oddi  yno yr oedd yn barod i brynu dau neu dri o lyfrau hefyd.  Y cyfan i gefnogi’r achos.  Dim math o fwriad i dorri cyfraith na phrotestio mewn unrhyw fodd.  Prin yr oedd wedi gallu cyfarch y rheolwraig na orchmynnodd hi ef i siarad Saesneg. Aeth Richard ymlaen yn Gymraeg, gan ofyn iddi gadw’r llyfrau ar ei gyfer. Yr un oedd yr ymateb drwy’r ymweliad:  rhaid siarad Saesneg yn y siop hon. Wedi ei droi allan, daeth Richard yn ôl a rhoi  sticeri ar ffenest y siop, yn dweud wrth y cyhoedd beth oedd y polisi iaith. Aeth yno’r eilwaith gydag ychydig roddion, yn barod i brynu gan yr elusen, ond â dyfais recordio.  Yr un ymateb eto.  Dweud ei bod hi am ei fwrw allan yn gorfforol.  Am  alw’r heddlu. “Galwa nhw,” meddai Richard. Ymadawodd, ond â’r cyfan erbyn hyn ar dâp.

Yn nes ymlaen ar y dydd galwodd plisman yng nghartref Richard. Ei neges oedd fod y rheolwraig yn dwyn achos yn ei erbyn am aflonyddu hiliol sarhaus ac am ei tharo.  Ond roedd y plisman wedi dod i gynnig bargen hefyd: dim ond i Richard arwyddo datganiad nad âi ef i’r siop byth eto, fe ollyngid yr achos. Gwrthododd Richard ystyried y fargen. Y tâp yn rhedeg eto. Ychwanegwyd cyhuddiad ei fod ef wedi ymosod ar y plisman, a chyn diwedd y dydd arestiwyd ef gan ddau blisman arall.

Gan lusgo ymlaen am yn agos i flwyddyn a hanner, aeth yr achos drwy Lys Ynadon Caernarfon.  Dewis Richard oedd mynd i Lys y Goron, yn gwbl hyderus fod y ddau recordiad yn dangos y gwirionedd.

A thorri’r stori’n fyr, dyna hefyd oedd dyfarniad y rheithgor ar ôl diwrnod o wrandawiad gofalus, yn cynnwys gwrando fwy nag unwaith ar y tapiau.  Yr oedd y rheolwraig yn meddwl, ac yn dal i gredu, ei bod wedi clywed pethau sarhaus a hiliol. Nid oedd dim arlliw o hynny yn y recordiad cyntaf, dim ond Richard yn ateb yn ôl yn ddigon teg, ac yn Gymraeg o hyd. Ac yn yr ail recordiad nid oedd dim i awgrymu ymosodiad ar y plisman. Holwyd y rheolwraig a’r plisman gan yr Erlyniad a’r Amddiffyniad:  methwyd â sefydlu unrhyw brawf fod y cyhuddiadau’n wir. Felly: Cyhuddiad 1: Dieuog.  Cyhuddiad 2: Dieuog.  Cyhuddiad 3: Dieuog.

Gobeithio nad yw hyn allan o le nac yn torri unrhyw gôd ymarfer, ond rhaid rhoi’r clod uchaf, yn ogystal ag i Richard ei hun am ansawdd ei dystiolaeth, i gwmni Parry, Davies, Clwyd-Jones a Lloyd, am y modd y trefnwyd yr amddiffyniad, ac i’r bargyfreithiwr Siôn ap Mihangel (gŵr ifanc a chanddo wreiddiau yn ardal Pen-y-groes) am eglurder a rhesymolder ei gyflwyniad.  Llwyddiant nodedig iawn.

Dyma achos, a dyma ganlyniad, y bydd gofyn ystyriaeth fanwl iddo gan:   (1) Y Comisiynydd Iaith, a (2) Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru.  Trueni hefyd nad oes gennym wasg a chyfryngau i ddangos arwyddocâd achos fel hwn yn glir i gyhoedd eang.

Dim ond gobeithio yr â’r neges ar led rywsut neu’i gilydd, ac y cawn yn y dyfodol lai o olygfeydd tebyg i:

A:    Tri lemon.
B:     English.

9 Ymateb to “Terfyn llwyddiannus”

  1. Iwan Williams Mawrth 21, 2014 at 7:51 pm #

    Dwi’n gobeithio bod dynes y siop yn gorfod talu costau Richard Jones, a gobeithio y bydd yr heddlu yn ei herlyn hi a’r heddwas am dyngu anudon.

  2. Alwyn ap Huw Mawrth 21, 2014 at 9:59 pm #

    Gwarthys bod yr achos wedi dod o flaen y llys yn y lle cyntaf, Mae angen ymchwiliad i agweddau gwasanaeth erlyn y goron a’r heddlu tuag at y Gymraeg

  3. mairwenjones Mawrth 22, 2014 at 9:47 am #

    Diolch o galon am yr adroddiad hwn. Ble, yn wir, oedd y cyfryngau?

  4. Sioned Mawrth 22, 2014 at 12:16 pm #

    Dylid dwyn achos llys ar y siopwraig am gam-arwain ac achosi straen i’r diffynydd. Dylid hefyd gosbi’r heddwas a chael ymddiheuriad gan Heddlu Gogledd Cymru. Edmygu Richard am ddyfalbarhau a chadw’n gryf yn enw egwyddor.

  5. Wilias Mawrth 24, 2014 at 10:28 pm #

    Diolch am dynnu sylw at yr achos. Er nad oedd y digwyddiadau hyn yn ein dalgylch, mae Llafar Bro, papur bro Stiniog a’r cylch yn hapus i rannu dolen ar ein tudalen Gweplyfr er mwyn taro mwy o byst..

  6. Iwan Williams Mawrth 25, 2014 at 8:10 pm #

    GOLYGFA 4: (Digwyddodd hyn i mi ym Mae Colwyn eleni)

    Roeddwn wedi deall nad oedd y ddynes y tu ol i’r bar yn deall Cymraeg, felly gan fy mod i ar frys dyma geisio cyflymu’r archeb trwy siarad Saesneg:

    A: Hello, can I have a pint?
    B: I don’t speak Welsh.
    A: I’m not speaking Welsh!! (golwg wiron ar fy ngwyneb – methu credu nad oedd y ddynes yn fy nallt i ar ol i mi fynd i’r ymdrech i siarad ei hiaith hi).

    • Tarian Mawrth 25, 2014 at 10:21 pm #

      Oes modd i chi osod copi saesneg o’r erthygl ar Daily Wales? Mae angen sicrhau fod mwy o bobl yn clywed am hyn.

    • llawnllathen Mawrth 28, 2014 at 2:28 pm #

      Felly mae gofyn i’r Cymry siarad Saesneg heb acen Gymreig, er mwyn i’r Sacsoniaid fedru ein dallt ni.

      • Dyfrig Thomas Mai 3, 2014 at 2:14 pm #

        Mae’n ymddangos i mi fod yr heddwas yn dweud celwydd ar lw – onid yw hyn yn drosedd o ddirmygu y Llys

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: