Hwyl dwy ŵyl

6 Ebr

Ers tro, mae’r hen G.A. wedi rhoi’r gorau i ddarllen y Daily Telegraph bob dydd. Digon yw digon. Dydd Sadwrn yn unig. Ddoe yn yr atodiad ‘Review’ dyma inni atodiad pellach, rhaglen lawn Gŵyl y Gelli sydd i’w chynnal yn ystod wythnos olaf Mai, ac yn cael ei noddi gan yr hen Torygraph fel ers sawl blwyddyn bellach. I Bobl y Pethe llenyddol, diwylliannol, theatrig a chyfryngol Saesneg, dyma arlwy gyfoethog yn wir, fel y gwelir wrth ddim ond enwi rhai o’r prif gyfranwyr: Mary Berry, Stephen Fry, Toni Morrison, Judi Dench, Billy Bragg, Peter Snow, Simon Schama, Jennifer Saunders, Paddy Ashdown, Nicolas Roeg, Bear Grylls … bobol annwyl! Petai hi’n ŵyl Gymraeg fe fyddem ni’n sôn am ‘holl hwyl yr ŵyl’, a wir i chi choelia’ i byth nad oes yma FWRLWM !!

Yna petawn i am fynd i’r ŵyl ac am farcio ymlaen llaw y pethau na wiw eu colli, siawns na fyddwn i’n nodi: Simon Singh ar y cyfrinachau mathemategol sydd ynghudd yng nghyfresi’r Simpsons; Steve Jones yn trafod eto hen gwestiwn y dramodydd Aischulos, ‘Ai esblygu wnaeth Duw?’; y milwr manqué Jeremy Paxman (gw. blog 16 Chwefror) ar ‘Ryfel Mawr Prydain Fawr’; Ruby Wax ar ‘sut i fyw’n gallach’; a Ffion Hague ar ‘Lloyd George yn 1914’ (gobeithio fod Ffion wedi darllen stori’r hen G.A., ‘Wythnos yng Nghymru Fu’ yn ei gyfrol Camu’n Ôl a Storïau Eraill, – goleuni hollol newydd ar y testun.)

‘Be?’ meddech chi. ‘Dim Talwrn y Beirdd? Dim darlith Emlyn Richards? Dim stori Harri Parri?’ Ond dowch o ’na (chwedl Dylan Jones), allwch chi ddim disgwyl cael pob dim, allwch chi?

Ond at hyn yr oeddwn i am ddod. Beth petawn i rŵan, fel un na fu yn yr Ŵyl erioed … a beth petawn i wedyn (i’w gwneud hi’n sefyllfa hollol ddamcaniaethol) heb fedru na deall yr un gair o iaith yr Ŵyl, yn mynd ati i gynghori trefnwyr yr Ŵyl sut i ehangu ei hapêl fel ag i ddenu pobl nad oes ganddyn nhw ddiddordeb yn y byd mewn llyfrau na dramâu na chyfryngau na syniadau na dim byd o raison d’être Gŵyl y Gelli? Mi fyddai dipyn bach yn wirion, oni fyddai?

Ie, dod yr ydym, fel y mae rhai o’m darllenwyr craffaf wedi canfod, rwy’n siŵr, at yr hen Ddwsin Doeth unwaith yn rhagor. Roedd Cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli, inni gael ein hatgoffa’n hunain, yn un o’r Dwsin a alwyd gan Leighton Andrews i ddiwygio, datblygu, gwella, moderneiddio a phob-dim-arall yr Eisteddfod Genedlaethol. Does dim diben ailadrodd yr hyn sydd wedi ei ddweud mewn nifer o flogiau o’r blaen, ond dyma nhw eto:

29 Hydref 2012: Y Dwsin Doeth – Tipyn o Jôc.
28 Chwefror 2013: Yr Eisteddfod, y Llywodraeth a’r ‘Dwsin’.
4 Mawrth 2013: Yn ôl at y Grŵp Gorffen.
6 Mai 2013: Dyma hi’r Frawddeg.
14 Tachwedd 2013: Wrth y Dwsin …
23 Ionawr 2014: Gan bwyll, Eisteddfodwyr
23 Mawrth 2014 Y cyfan am bres mwnci
28 Mawrth 14 Tipyn o Glec

A chrynhoi yn unig: ni welaf ddim yn argymhellion y Dwsin sy’n mynd i roi’r ‘moderneiddio’ hwnnw yr oedd Leighton yn awyddus i’w weld; ac ni welaf y byddai gweithredu’r argymhellion yn denu cymaint ag un prynwr tocyn arall i’r maes. Peth i eisteddfodwyr yw eisteddfod. Ac os gwir fod llai o eisteddfodwyr, y rheswm am hynny yw fod llai o Gymry.

Addewid swyddogion y Brifwyl yw mai Llys yr Eisteddfod biau penderfynu beth i’w wneud ag argymhellion y Dwsin. Y llwybr priodol i’r Llys yw ystyried, trafod ac yna gadael yr argymhellion ‘ar y bwrdd’. Yn wleidyddol, fel yr wyf wedi awgrymu o’r blaen, mae hyn o’r pwys mwyaf, a dyna pam y mae G.A. yn ‘mynd ymlaen’ gymaint ar yr hen destun hwn.

Advertisements

Un Ymateb to “Hwyl dwy ŵyl”

  1. JiG Ebrill 7, 2014 at 11:04 am #

    cymhariaerth ddigon crafog – fel arfer !

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: