Ganrif yn ôl

9 Gorf

Yn ddiweddar, am ddau reswm, mi fûm yn pori llawer yn hanes Lloyd George, ei ysgrifeniadau a’i ddywediadau.  Un rheswm – efallai y soniaf am yr ail eto – yw fod yr ail o Awst yn prysur nesáu.  Dyna’r diwrnod, a barnu wrth y dystiolaeth sydd gennym, y newidiodd Ll.G. ei feddwl.

Hyd y gwyddom, nid oes cofnod gan Ll.G. ei hun o’i deimlad a’i benderfyniad ar yr union ddiwrnod.  Ond mae cofianwyr a haneswyr wedi pwyso llawer ar y dystiolaeth hon gan gyd-weinidog, Walter Runciman (cyfieithir, fel gyda phob dyfyniad yma):

“I fyny hyd at amser te ddydd Sul, 2 Awst, roedd Lloyd George yn dweud wrthym ei fod yn ansicr pa beth a wnâi.  Mewn sgwrs â thua hanner ein cyd-Weinidogion, brynhawn y diwrnod hwnnw, fe ddywedodd na byddai’n gwrthwynebu’r rhyfel ond na chymerai unrhyw ran ynddo, ac y byddai’n ymddeol am y tro i Gricieth.  Nid oedd am ailadrodd ei brofiad 1899-1902. …  Yr oedd wedi cael digon ar sefyll yn erbyn poblogaeth ar dân dros ryfel.”

Ond dyma dystiolaeth Ll.G. ei hun mewn llythyr y diwrnod wedyn, 3 Awst, sef y dydd y “torrodd y rhyfel allan” chwedl y fformiwla boblogaidd:

“Rwy’n symud drwy fyd o hunllef y dyddiau hyn.  Rwyf wedi ymladd yn galed dros heddwch a hyd yma wedi llwyddo i gadw’r Cabinet allan ohoni, ond yn cael fy ngyrru at y casgliad, os ymosodir gan yr Almaen ar genedl fechan Belg, y bydd fy holl draddodiadau a’m rhagfarnau i yn rhwymedig ar ochr rhyfel.  Mae’r rhagolwg yn fy llenwi ag arswyd.  Mwy fyth yr arswydaf y gallwn i hyd yn oed ymddangos â rhan ynddi, ond rhaid yw imi ddwyn fy nghyfran o’r baich echrydus er bod gwneud hynny yn dân ar fy nghnawd.”

Pa ffactorau a yrrodd Ll.G. “At y casgliad”?   (1) Rhydd yr haneswyr bwys mawr ar sgwrs a gafodd â Llysgennad Belg mewn cinio ar y nos Sul.   (2) Dylanwad Winston Churchill, a oedd yn agos iawn ato ar y pryd.  (3)  Cherchez la femme.  Yn ei hatgofion fe ddywed Frances Stevenson, yr ysgrifenyddes a’r cariad, yr ail wraig a’r Iarlles yn y man, iddi hi weddïo y diwrnod hwnnw am i’r Almaen ymosod ar Wlad Belg, er mwyn gorfodi Lloegr i ymuno, ac er mwyn i Ddafydd gael ei gyfle mawr.  (4) Galwad gwerinoedd yn gyffredinol ar draws Ewrop, a galwad ieuenctid yn arbennig, am ryfel o blaid neu yn erbyn rhywbeth, – fawr o bwys beth.  Rwyf wedi dyfynnu o’r blaen ar y blog y disgrifiad allweddol hwn gan Ll.G. yn ei War Memoirs, ugain mlynedd ar ôl y gyflafan, ond gan ei bwysiced dyma’i ddyfynnu eto:

“Ond nid y Fyddin oedd yr unig elfen a oedd yn awyddus am ryfel.  Yr oedd y bobl wedi dal y dwymyn ryfelgar.  Rhyfel yr oedd eu cri ym mhob prifddinas. Am y ddamcaniaeth sy’n cael ei rhoi ar led heddiw gan areithwyr pasiffistaidd o’r math mwyaf cecrus a llai argyhoeddiadol, fod y Rhyfel Mawr wedi ei gynllwynio gan wleidyddion hŷn a chanol-oed a anfonodd ddynion iau i wynebu ei erchyllter, – dychymyg yw hon.  Fe wnaeth y gwladweinwyr hŷn eu gorau di-glem i rwystro rhyfel, tra roedd ieuenctid y gwledydd ymrysongar yn udo’n ddiamynedd wrth eu drysau am ryfel yn syth.  Fe’i gwelais fy hun yn ystod pedwar diwrnod cyntaf Awst 1914. Nid anghofiaf byth y tyrfaoedd rhyfelgar a oedd yn dygyfor yn Whitehall ac yn tywallt i Stryd Downing, tra oedd y Cabinet yn ymgynghori ar y dewis, ai heddwch ai rhyfel. Roedd tyrfa anferth ar y dydd Sul. Roedd dydd Llun yn Ŵyl y Banc, gyda heidiau o bobl ifainc yn crynhoi yn Westminster i alw am ryfel yn erbyn yr Almaen. O ystafell y Cabinet gallem ni glywed su ymchwydd y torfeydd.  Ar y pnawn Llun cerddais gyda Mr. Asquith i Dŷ’r Cyffredin i wrando araith enwog Grey. Yr oedd y dyrfa mor drwchus fel na allai car yrru drwyddi, ac onibai am gymorth yr heddlu ni fyddem wedi gallu cerdded llathen ar ein taith.  Yn gwbl eglur, ardystiad dros ryfel oedd hwn.  Rwy’n cofio crybwyll ar y pryd, ‘Mae’r bobl yma’n awyddus iawn i yrru’n milwyr druain i wynebu angau;   faint ohonyn nhw aiff byth i frwydr eu hunain?’  Amheuaeth annheilwng oedd hon o ddewrder a gwladgarwch yr ardystwyr.  Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach fe osodwyd stondinau recriwtio yn Horse Guards Parade, a gwelodd y maes mawr agored hwnnw dorf o ddynion ifainc yn dylifo o gwmpas y stondinau ac yn  ymwthio drwodd i roi eu henwau i ymrestru ym Myddinoedd Kitchener.  Am ddyddiau fe glywn, o ffenestri Stryd Downing a’r Trysorlys, gerdded y traed dirifedi at y stondinau, a’r rhingyllod recriwtio yn gweiddi enwau’r gwirfoddolwyr eiddgar. Rhwng dydd Sadwrn a dydd Llun roedd y rhyfel wedi llamu i boblogrwydd.  Ar y Sadwrn fe alwodd Rheolwr Banc Lloegr arnaf, fel Canghellor y Trysorlys, i roi gwybod imi fod y buddiannau cyllidol a masnachol yn Ninas Llundain yn gwbl yn erbyn inni ymyrryd yn y Rhyfel.   Erbyn dydd Llun yr oedd newid llwyr. Yr oedd y bygythiad i oresgyn Gwlad Belg wedi rhoi’r genedl ar dân o fôr i fôr. …
“Cafodd ardystiadau Llundain rai cyfatebol yn St. Petersbwrg, Berlin, Fienna a Pharis. Roedd y gwaed i fyny, ac roedd yn rhaid i waed lifo.  Roedd y boblogaeth a’r byddinoedd o’r diwedd o’r un feddwl. Cipiodd hyn y penderfyniad o ddwylo crynedig a phetrus  gwladweinyddiaeth,  a oedd yn dymuno heddwch ond heb y penderfyniad na’r hyder i wneud y pethau bychain a allasai yn unig ei sicrhau. …

“Mae pob rhyfel yn boblogaidd y diwrnod y cyhoeddir ef. … Ond ni bu erioed ryfel a groesawyd mor gyffredinol â hwnnw yr aeth Prydain iddo ar y 4ydd o Awst, 1914.”

Gwyddai Ll.G. yn iawn felly beth oedd yn digwydd. “Y dwymyn ryfelgar”, “y gwaed i fyny”.  Hysteria torfol. Ton o wallgofrwydd yn ysgubo dros y gwledydd.  Ond, dan bwysau mawr iawn, fe benderfynodd ef nad oedd ganddo ddewis ond mynd gyda hi.  Ond wedi penderfynu, yr oedd raid ei chyflwyno mewn lliw gwahanol.  Dyna a wnaeth ef yn ei araith enwog iawn i Gymry Llundain, 19 Medi 1914.

Hyd at hynny yr oedd amheuon a oedd Ll.G. gant y cant o blaid y rhyfel, er ei fod fel Canghellor y Trysorlys wedi gwneud popeth a allai i rwyddhau’r darpariadau.  Chwalodd yr araith hon bob amheuaeth.  Sefydlodd Ll.G. fel prif ryfelwr y dydd, a sicrhaodd gefnogaeth i’r rhyfel a oedd bron yn unfrydol drwy’r Deyrnas.  Cyfieithwyd hi i sawl iaith, a gwerthodd filiynau fel pamffled. Mae o leiaf ddau gyfieithiad ohoni mewn pamffledi Cymraeg, ac amrywiol gyfieithiadau yn y wasg ar y pryd.   Daeth ei huchafbwyntiau yn enwog.  Un ohonynt yw’r paragraff am “y cenhedloedd bach pum troedfedd a hanner”,  – Belg, Cymru.  Un arall yw’r darn am, yn y gwreiddiol,  “the road hog of Europe”, – sef yr Almaen.  I  drosi hwn dewisodd un o’r cyfieithwyr ffigur chwedlonol y Twrch Trwyth, dewis da i gyfleu rhuthr bwystfil direol.  Cymerodd cyfieithydd arall (sef, mae’n debyg, William Jones, A.S. etholaeth Arfon) ffigur “y car gwyllt” o fyd y chwarel.

Wedyn daw, yng nghyfieithiad William Jones:

“Yr wyf yn cenfigennu wrthych chwi, bobl ieuainc, oherwydd eich cyfle.  Maent wedi codi’r oed yn y fyddin, ond yr wyf fi, ysywaeth, wedi hen groesi’r terfyn.  Cyfle godidog ydyw, cyfle na ddaw ond un waith mewn canrifoedd i blant dynion. Y mae aberth yn dod gan mwyaf i genedlaethau, yn llwydni a blinder ysbryd. Y mae’n dod heddiw i chwi ac i bawb ohonom yn llewyrch a gwefr cynhyrfiad dros ryddid, sydd yn cymell myrddiynau drwy Ewrob i’r un amcan goruchel.  (Cym.)   Dyma fawr ryfelgyrch dros ryddhau Ewrob o gaethiwed y llwyth milwrol a daflodd ei gysgod dros ddwy genhedlaeth o ddynion, a’r awron, sydd yn suddo’r byd ym moddfa gwaed ac angau.  Y mae rhai eisoes wedi rhoi eu heinioes.  Rhoes rhai fwy na’u heinioes  –  einioes y rhai hoff gan eu henaid.  Parchaf eu dewrder, a Duw fo’n noddfa a nerth iddynt.  Y mae eu gwobr yn agos; y rhai a syrthiasant a fuont feirw yn gysegredig.  Buont gyfrannog yng nghreu Ewrob newydd – byd newydd.  Gwelaf arwyddion o’i ddyfodiad yn llewyrch maes y gad.”

Ni allwn bellach ofyn i’r areithydd, ac nid oes hanes i neb ofyn iddo ar y pryd:  a oedd y “myrddiynau drwy Ewrob”, ac iddynt “yr un amcan goruchel”, yn golygu rhai ar ochr y Cynghreiriaid yn unig?  Beth am y rhai ar yr ochr arall a fu’n gweiddi yr un mor uchel ar yr un diwrnodiau?  Gwyddai Ll.G. yn iawn, ac fe’i cofnododd yn y man, mai am yr un peth yr oedd y ddwy ochr yn gweiddi.

Yna’r perorasiwn:

“A gaf fi lefaru dameg seml wrthych, pa beth yn ôl fy mryd i y mae’n rhyfel hon yn ei wneud erom?   Gwn am ddyffryn yng ngogledd Cymru rhwng y mynyddoedd a’r môr – dyffryn tlws, clyd, cysurus, a’r mynyddoedd yn gysgod iddo rhag y gwyntoedd geirwon. Ond y mae’n tueddu i lesgáu dyn, ac yr wyf yn cofio o’r gorau fel byddai’r bechgyn yn chwannog o ddringo’r bryn uwchlaw y pentref, er mwyn cael cipolwg ar y mynyddoedd mawrion draw, ymhell, a chael eu bywiocáu a’u croewi gan yr awelon o bennau’r bryniau ac ardderchogrwydd yr olygfa.  Buom fyw mewn dyffryn cysgodol am genedlaethau.  Buom yn rhy gysurus a rhy foethus, a llawer ohonom, hwyrach, yn rhy hunangar, a dyma law drom tynged wedi ein ffrewyllu i’r uchelder, y medrwn weled ohono y pethau sydd o dragwyddol bwys i genedl, y bannau mawrion a anghofiasem, Anrhydedd, Dyletswydd, Gwladgarwch, ac, mewn gwisg ddisgleirwen olau, binagl mawr Aberth yn codi ei fys i’r Nefoedd.  Bydd i ni eto ddisgyn i’r dyffrynnoedd; ond tra bo byw meibion a merched y genhedlaeth hon, cadwant yn eu calonnau ddelw bannau’r mynyddoedd mawrion, na syfl mo’u sylfeini, er siglo a chrynu o Ewrob yn rhyferthwy y rhyfel fawr. (Cymeradwyaeth hirfaith a brwdfrydig.)”

Ofnadwy o ddi-chwaeth yntê?    Ond ardderchog ym marn llawer iawn ar y pryd, ac am flynyddoedd wedyn.  “Yr araith orau yn hanes Lloegr,”  meddai’r cyd-Aelod Seneddol Charles Masterman.  Dywedir fod y Prif Weinidog, Asquith (nad edrychodd ar y rhyfel erioed fel dim byd ond niwsans), a’r Ysgrifennydd Tramor, Grey (a gyhuddwyd yn ddiweddarach gan Ll.G. o gerdded yn ei gwsg i mewn i’r rhyfel), ill dau yn eu dagrau – ac o werthfawrogiad, nid o wrthwynebiad.  Ac ymhen blynyddoedd dyma Syr John Simon (dyn na bu’n garwr rhyfel, a dyn hefyd a gafodd ddigon o achosion i anghytuno â Ll.G.) yn dyfarnu: “Os oes i areithyddiaeth Pericles a Chatham a Pitt ei safle uchel a chyfiawn yn hanes rhyddid, yn sicr mae’r araith hon gan Lloyd George, sydd yn awr ynghladd yn ffeiliau hen bapurau newydd a heb ei darllen gan genhedlaeth ddiweddarach, yn haeddu ei galw i gof.”  Mwy sgeptig yw Roy Hattersley yn ei gofiant diweddar i Ll.G.; a chwarae teg i John Grigg, fe welodd ef trwyddi yn ei gyfrol Lloyd George: From Peace to War 1912-1916.  Ai campwaith mewn gwir wladgarwch oedd hi, gofynna, ynteu campwaith mewn rhagrith?  Fe ellir ateb yn ddibetrus mai yr ail; ac ychwanegu hefyd mai hi fu’r araith fwyaf trychinebus ei heffeithiau yn hanes yr ugeinfed ganrif.

Bob amser, beth petai?  Fe safodd yr arweinydd Llafur, Ramsay MacDonald, yn erbyn y rhyfel. Collodd ei sedd yng Nghaerlŷr. Methodd ag ennill un arall yn Woolwich, cyn cael troedle maes o law yn Aberafan.  Cafwyd llongwyr yn gwrthod hwylio, am ei fod ef ar fwrdd y llong, ar gychwyn i gynhadledd heddwch.  Eto, ddeng mlynedd oddi ar ddechrau’r gyflafan a chwe blynedd oddi ar ei diwedd, ef oedd y Prif Weinidog.  Fe ellir dychmygu sefyllfa lle byddai Ll.G. wedi cymryd yr un dewis ac wedi cael yr un cyfle.

Ar ryw ystyr, ofer dychmygu. Ac eto mae’n rhyw ffordd o ddehongli hanes.   Fe geisiodd yr hen G.A. wneud hyn yn un o straeon y gyfrol Camu’n Ôl.  Yn ôl adolygydd yn BARN mae’n “rhy hwyr” i drafod pethau o’r fath.

Nonsens.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: