Anogaeth Brenin

26 Gorf

Yn yr hen Daily Torygraph heddiw (wn i ddim a yw yn y papurau eraill), hanes newydd ac annisgwyl braidd am ddigwyddiadau trychinebus can mlynedd yn ôl.

Pwy oedd yn benderfynol o gael rhyfel ?  Yn gyntaf a phennaf, dynion ifainc chwech neu saith o wladwriaethau Ewrop, gyda’r merched ifainc yn dod ymlaen i’w hannog ar yr esgus lleiaf.  Gweler atgof Lloyd George, a ddyfynnais ar 9 Gorffennaf.

Pwy oedd yn erbyn, neu heb fod mor selog ?   Gan fynd heibio i heddychwyr o argyhoeddiad a sosialwyr fel Jean Jaurès yn Ffrainc a Keir Hardie a John Burns ym Mhrydain, a gwleidyddion Rhyddfrydol llednais fel John Morley a John Simon, – pwy arall, o blith penaethiaid ac arweinwyr gwledydd ?  Dyma rai, yn ôl y llyfrau hanes :

Y Kaiser, a gafodd rai oriau o banig pan ddechreuodd y byddinoedd symud, ond a fethodd atal ei gadfridogion mewn pryd.

Y Tsar o Rwsia, a’i briod yn fwy fyth.

Lloyd George, tan ar ôl te, ddydd Sul, yr ail o Awst.

Cunliffe, Rheolwr Banc Lloegr, a arswydai rhag llanast cyllidol.

Asquith, Prif Weinidog Prydain, a groesawodd y cynnwrf yn Ewrop i ddechrau fel rhywbeth i dynnu sylw oddi ar helynt Iwerddon, ond na ddymunai ryfel mwy na phigyn yn ei glust.

Grey, Ysgrifennydd Tramor Prydain, a gyhuddwyd gan Lloyd George yn ddiweddarach o fod yn gysglyd, yn ara’ deg a di-ddeall.

Tua hanner y Cabinet Rhyddfrydol Prydeinig.

Pwy, felly, o blith y ffigurau amlwg a dylanwadol, oedd o blaid ? Mae’r llyfrau hanes yn lled gytûn ar ddau.   (1)   Hen Ymerawdwr Awstria, Franz Josef, a oedd yn colli arni ers blynyddoedd.   (2)  Prif Arglwydd y Morlys yn Llywodraeth Prydain, am mai Winston Churchill oedd ei enw.

Ond dyma rif (3), yn ôl stori’r papur heddiw.  Pennawd y Telegraph : “Secret demand of George V  : find a reason to fight Germany.  Unknown meeting on eve of First World War.”

Bu’r cyfarfod hwnnw, medd yr adroddiad, rhwng y Brenin a Syr Edward Grey ym Mhalas Buckingham ar y tyngedfennol ail o Awst.  Cofnodwyd yr hanes mewn nodyn teipiedig gan Syr Cecil Graves, nai i Grey.  Daeth y nodyn hwn i’r fei y dyddiau diwethaf hyn mewn hen flwch yn nhŷ Adrian Graves, ŵyr Syr Cecil (a gor-or-nai i’r Ysgrifennydd Tramor).   Yr oedd Syr Cecil wedi cael yr hanes gan neb llai na’r Brenin ei hun, adeg marw Syr Edward Grey yn 1933, ac aeth ati’n syth i’w deipio fel cofnod.

Yr oedd “F’ Ewyrth Edward” (fel y dywedasai Daniel Owen) wedi galw yn y Palas i adrodd wrth y Brenin na welai’r Cabinet, hyd at hynny, unrhyw reswm dros ymuno mewn rhyfel Ewropeaidd.   “Ffeindiwch reswm, Grey,”  oedd anogaeth Ei Fawrhydi.

A’i ddadl ?  Dyfynnwn : “os nad aem ni i ryfel, byddai’r Almaen yn goresgyn Ffrainc … a mynd ymlaen i gipio llwyr reolaeth ar y wlad hon.  Am hynny fe deimlai ei bod hi’n gwbl angenrheidiol ein bod yn dod o hyd i reswm dros ymuno â’r rhyfel ar unwaith.”

Y diwrnod wedyn derbyniodd y Brenin lythyr preifat gan yr Arlywydd Poincaré o Ffrainc yn galw ar Brydain i ymuno, a thelegram gan Leopold, Brenin Belg, yn apelio am gymorth.   Anfonodd hwnnw’n syth ymlaen at Grey gyda nodyn : “Dyma inni’r rheswm a does dim raid ichi geisio meddwl am ddim arall.”

Wedi derbyn y nodyn cyhoeddodd Grey wrth y Senedd ei bod yn eglur na ellid cadw’r heddwch yn Ewrop.  Dychwelodd wedyn i’r Swyddfa Dramor, i edrych allan drwy’r ffenest a llefaru ei eiriau enwog :   “Mae’r lampau’n diffodd drwy Ewrop oll, a welwn ni mo’u goleuo eto yn ein hoes ni.”  Am 11.00 y noson wedyn dechreuodd y rhyfel.

Mae mudiad o’r enw “Lights Out” yn annog pob tŷ i ddiffodd y goleuadau am 11.00, y pedwerydd o Awst.   Syniad heb fod mor ffôl.

A meddyliwch am yr hen Frenin yn dweud y stori’n iach wrth berthynas Grey, 19 mlynedd ar ôl y trychineb !   Fel y dywedodd Lloyd George mewn llythyr at ei wraig ar ôl un o’i gyfarfyddiadau cyntaf â’r teulu brenhinol, “does dim llawer yn ei ben o”.

Un Ymateb to “Anogaeth Brenin”

  1. Huw Gorffennaf 27, 2014 at 12:01 pm #

    Yr oedd y dynion ifanc o blaid yn dilyn economi wael, diweithrdra a dirwasgiad. Petai pethau ddim yn gwella rwan yn ddigon cyflym, mae peryg i ddynion a gwragedd ifanc fagu awydd rhyfel neu ‘gwneud rhywbeth’ o ryw fath.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: