Ffarwel i’r Dwsin

12 Aws

Cyn iddi fynd dros gof, cwestiwn am Eisteddfod Sir Gâr gan un nad oedd yno i’r rhai oedd yno.                  

Oedd hi’n wahanol eleni ?  Oedd hi’n fodern ? Oedd hi’n ddeinamig ? A oedd yno gystadlaethau apelgar, cyfoes a blaengar ?  Hynny yw, a oedd dylanwad y Dwsin Doeth i’w weld ar bob llaw ? A oedd y Maes yn fwrlwm o glod a diolch i weledigaeth y Dwsin ?

Beth petai’r hen G.A., heb fod yno, ac o ganol ei neilltuaeth a’i sgeptigiaeth, yn awgrymu “go brin” ?

Fy argraff, o wylio a gwrando, oedd fod yno uchafbwyntiau braf, ysbryd hwyliog drwodd a thro ac na bu yr un trychineb mawr.  A bod hanfodion yr Eisteddfod, yn llwyddiannau a phroblemau, fwy neu lai yr un ag ydynt ym mhob blwyddyn.

Ei phrif broblem ? Bod llai ohonom, llai o Gymry.

Ond, cyn darfod â’r hen Ddwsin Doeth, beth unwaith eto am addewid y swyddogion a’r Cyngor na wneid dim byd ynglŷn ag argymellion y Dwsin heb gydsyniad y Llys ? Beth am y cyfarfod hwnnw o’r Llys oedd i fod i gael ei gynnal fis Tachwedd diwethaf ? A godwyd y mater gan unrhyw un yng nghyfarfod arferol y Llys ar y dydd Mercher ?  Os mai “naddo” yw’r ateb, ni ddylai hynny chwaith fod yn destun syndod.     

Rhoddodd G.A. ei farn ar y Dwsin mewn nifer o flogiadau, a cheir rhestr ohonynt yn eitem 5 Gorffennaf.  Gorffwysed y pwnc hwn bellach.  Gyda’r geiriau “llwyth o lol”, ffarwel i’r hen Ddwsin Doeth.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: