Cyfaill mawr yr Alban

13 Aws

Un dda yw rhestr “Let’s Stay Together”, a gyhoeddwyd ddydd Sadwrn, sef anerchiad cynnes i bobl yr Alban gan ddau gant a hanner o enwogion Lloegr a Chymru, yn ymbil arnynt i bleidleisio NA.  Fe’i trefnwyd gan y darlledwr Dan Snow, disgynnydd i Lloyd George. Ymhlith y meddyliau mawr o Gymru ar y rhestr y mae Rob Brydon, Gareth Edwards ac Ian Rush.  Dyma rai o’r sêr eraill:   Syr David Attenborough, Y Farwnes Bakewell (Joan Bakewell) , Stanley Baxter, Mary Beard, Dickie Bird, Cilla Black, Helena Bonham Carter, Arglwydd Bragg (Mervyn Bragg), Jo Brand, Will Carling, Ronnie Corbett (Ronnie Bach), Simon Cowell, Richard Dawkins, Dâm Judi Dench, Syr Bruce Forsyth, Bamber Gascoigne, Stephen Hawking, Eddie Izzard, Syr Mick Jagger, Griff Rhys Jones, dau John Lloyd, Arglwydd Lloyd-Webber, Dâm Vera Lynn, Michael Morpurgo, Syr Michael Parkinson, Esther Rantzen, Syr Cliff Richard, Syr Tony Robinson (Baldrick), Simon Schama, John Sessions, Sandie Shaw, David Suchet (Poirot), Arglwydd Sugar, Daley Thompson, Alan Titchmarsh, Kevin Whateley (Lewis).   

Sut y gall yr Albanwyr wrthod apêl cwmni mor ddisglair ?

Prin bod angen dweud, mae’r deisebwyr i gyd yn bobl lwyddiannus, gyfoethog dros ben. Maent hefyd yn bobl ddiogel, y tu clytaf i’r clawdd bob amser.  Ar y llaw arall, a chan eithrio’r eithriad fawr y dof ati’n fuan, nid oes ceidwadwyr gwylltion yn eu plith.  Mae rhyw arlliw Chwith-saff, Chwigaidd ar y rhestr drwyddi draw.

Gwyliwch y Chwig, y gelyn mwyaf.  Cynllwyn Chwigaidd a amddifadodd yr Alban o’i senedd a’i rhyddid yn Undeb 1707, a’r hen Dori, Andrew Fletcher o Saltoun, oedd prif wrthwynebydd y newid.

Mae’r rhain yn “gwybod y sgôr” yn dda iawn.   Os bydd hi’n IE, bydd wedi ta-ta ar Loegr fel y maent hwy yn ei hadnabod.  Ar y llaw arall nid oes ynddynt mo’r dychymyg radicalaidd a allai amgyffred Lloegr amgen.  

Ond yng nghanol y cwmni un ai Chwith-ddiogel neu ddwl-ddifeddwl hwn, wele un aderyn gwahanol, yr unig adweithiwr o argyhoeddiad, neb llai na’r hen David Starkey.  Gyda’i anghywirdeb gwleidyddol a’i fyr-amynedd, gellir dibynnu ar yr hen Stercyn i fywiocáu unrhyw drafodaeth, a daw ei ffrwydradau yn aml â chwaon o awyr iach.  

Y tro hwn wele ef yn arwyddo, gyda’r lleill, neges wresog at yr Albanwr, i’r perwyl “O, fel rwy’n dy garu ! Aros gyda mi er mwyn popeth ! Paid â’m gadael !”   Ie, go annisgwyl, fel y mae Wings over Scotland yn ein hatgoffa (7 Awst), gan un na bu hyd yma yn enwog fel Sgot-garwr.  A rhag inni anghofio, dyfynna Wings ei sylwadau ychydig fisoedd yn ôl ar Question Time.  Nid oedd, meddai ef, yn ei fyw am weld Lloegr yn troi’n “wlad fach dila, fel y Sgotiaid a’r Cymry a’r Gwyddelod.”  Mor wahanol, a chymaint callach a gwell, yw’r Saeson:   “Fyddwn ni byth yn gweud ffys yngyhylch Shakespeare fel bydd yr Albanwyr yn gwneud ynghylch y prydydd taleithiol eithafol ddiflas hwnnw, Burns, a does gennym ni ddim cerddoriaeth genedlaethol fel yr affwysol fagbib.”  Ar achlysur arall galwodd Alex Salmond yn “Hitler Caledonaidd”.   

Ond heddiw dyma’r dyn â’i enw ar droed llythyr yn darllen:  “Rydym am i chi wybod mor werthfawr gennym yw rhwymau ein cyd-ddinasyddiaeth â chi.”   Rhyfedd o fyd, bob amser.

                                   

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: