Llwyddiant mawr Hen Lyfr Bach

15 Aws

Mae’r hen G.A. wedi canmol ac argymell blog WINGS OVER SCOTLAND droeon o’r blaen.  Yn awr mae Stuart Campbell, golygydd yr anfarwol WINGS wedi gwneud cyfraniad gwych arall, sef THE WEE BLUE BOOK.

“Arweiniad i annibyniaeth” y gelwir hwn, ac mae iddo’r is-bennawd “The facts the papers leave out”.  Llyfr bach poced, y gellir ei ddarllen mewn awr.

Gellir ei lawrlwytho, ac fe ddigwyddodd hyn 250,000 o weithiau mewn pedwar diwrnod oddi ar gyhoeddi’r fersiwn ddigidol.

Bydd y fersiwn brintiedig allan mewn diwrnod neu ddau.  Argraffu ugain mil oedd y nod gwreiddiol. O weld y galw, lluosir ddengwaith. Bydd 200,000 allan yr wythnos nesaf, a’r dasg wedyn fydd eu dosbarthu. Nid oes unrhyw amheuaeth na ddeuir i ben â hyn.    

Fis Mawrth fe agorodd WINGS gronfa i dalu am y Llyfr Bach Glas a defnyddiau eraill, gan ofyn am £50,000 mewn mis.  Cafwyd y swm hwn mewn wyth awr, ac aed ymlaen at £150,000.

Fel’na mae ’i gwneud-hi.  Na ddyweded neb eto bod y Sgotyn yn gybydd.  Y Cymro sy’n gybydd.  Cybydd ofnadwy hefyd.

Mae cronfa i brintio mwy a mwy o’r Llyfr Bach Glas. Manylion trwy WINGS.  Buddsoddiad da iawn i bawb ohonom sydd am weld fis i rŵan Y PETH GORAU MEWN MIL O FLYNYDDOEDD.  Mae’r Llyfr Bach wedi codi ysbrydoedd pobl yr IE yn aruthrol.  Dyma offeryn hwylus, grymus i’w ddefnyddio yn nannedd y swnami o Brydeindod, – sef holl bapurau newydd yr Alban ac eithrio un, y wasg ddyddiol Brydeinig yn gyfan, a’r gorsafoedd radio a theledu “di-duedd”.  O, heb anghofio Comandos Carwyn, sy wrthi’n ffonio’u ffrindiau Albanaidd, trwy’r dydd, bob dydd fel dwn-i-ddim-be !

                                                            §        

Cyn bo hir fe fydd HEN LYFRAU BACH Cymraeg hefyd.  Mwy am hyn yn fuan.

Un Ymateb to “Llwyddiant mawr Hen Lyfr Bach”

  1. JiG Awst 16, 2014 at 8:05 pm #

    Hwre ! ofnaf bod angen llyfr MAWR iawn coch I godi’n hysbryd ni, Cymry taeog. Ond ewch ati o ddifri calon.
    Gwn am gyfrannwr amlwg …GJ

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: