Boris a’r Gath

21 Aws

Fel ambell un o’m darllenwyr efallai, ces hysbysiad y dydd o’r blaen gan y Sefydliad Materion Cymreig am gynhadledd sydd i’w chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, wythnos union cyn refferendwm yr Albanwyr.  Y thema, eto fyth, “Yr Undeb sy’n Newid”.  Neilltuir un sesiwn i ymhlygiadau “Devo-max” i Gymru.

Rwyf am achub y blaen ar y drafodaeth.

(1)     Os bydd hi’n IE, fe fydd yn wir gwestiynau mawr iawn i’r Cymry, i’r Saeson ac i bobl Gogledd Iwerddon geisio’u hateb.  A dyma gwestiwn a ddaeth i’m meddwl i.  Un o gasgliadau mawr yr Athro J.R. Jones oedd mai un wir genedl sydd yn Ynys Brydain, cenedl y Saeson.  Mae honno hefyd yn ei galw’i hun “y genedl Brydeinig” ac yn gwahodd pobloedd eraill yr Ynys i ymuno â hi dan yr enw hwnnw. Pan oedd J.R.J. yn sgrifennu, a hyd y dydd hwn, bu’r rheini’n falch o dderbyn y cynnig.  Ond, os bydd hi’n IE ymhen y mis, a ddaw cenedl arall, cenedl yr Alban, i fodolaeth y funud honno?  Hynny yw, ai annibyniaeth, bod yn wladwriaeth, bod yn sofran yw’r peth sy’n gwneud cenedl?   Ac yn arwain o hynny, a yw pobl yn mynd yn fwy o genedl yn ôl y radd o ymreolaeth sy ganddynt?  Yn benodol, a yw Cymru heddiw yn fwy o genedl nag oedd hi cyn refferendwm 1997 ?  Casgliad G.A., ar ôl pori llawer yn yr hanes dros y misoedd diwethaf, a golygu peth o waith Emrys ap Iwan, Lloyd George, John Morris-Jones, W.J. Gruffydd ac eraill, yw ein bod ni’r Cymry, pobl Cymru, yn dipyn mwy o genedl gan mlynedd yn ôl nag ydym heddiw.  Roedd gennym iaith, roedd gennym gyfoeth, roedd gennym sefydliadau annibynnol, cynhenid, ac yn fwy na dim roedd gennym brofiad cyffredin, amgyffred o’r un pethau, teimlad o berthyn.  Roedd gennym y “diwylliant cyffredin” hwnnw yr hoffai Raymond Williams sôn amdano.   Mae’n wir iawn fod cysêt, taeogrwydd os mynnwch chi, yn rhan fawr o’r diwylliant hwnnw,   ond nid yw hynny’n newid yr egwyddor.

Beth bynnag …

(2)      Os bydd hi’n NA o bwynt neu ddau, bydd siawns am refferendwm arall ynghynt yn hytrach nag yn hwyrach, – o fewn oes yr hen G.A. o bosib.

(3)     Os bydd hi’n NA clir, digamsyniol, ni bydd dim byd.  Ni bydd diben trafod devo-max, devo-min na devo-dim-byd-arall.  Bydd yr ymgais ar ben, a mwy na hynny.

Ond, meddech chi, beth am y gwobrau i’r Albanwyr am aros o fewn y gorlan? Onid oedd yna addo pwerau, hawliau, breintiau, hufen iâ, lolipops, Smartis?

Cystal inni anghofio’r rheini, oherwydd ar 11 Awst fe ollyngwyd cath go fawr.  Pwy gollyngodd hi?  Hen fêt Guto Harri.

Yn ôl Boris, os mai NA fydd ei phenderfyniad, ni chaiff yr Alban ddim byd, a waeth iddi heb â disgwyl dim byd.  Rydym “ni” (sylwch) wedi rhoi digon i’r Alban yn barod.  Gwell o lawer rhoi pwerau amrywio trethi i rai o ddinasoedd mawr Lloegr.

Brysiodd rhai o bobl NA, a rhai o’i blaid ei hun, i ddweud fod Boris yn siarad ar ei gyfer, fel yn ddigon aml;   nad yw’n Brif Weinidog eto, na hyd yn oed yn Aelod Seneddol.   Gwir, ond fel yn ddigon aml eto mae’n cynrychioli un math o feddwl.  Mae’r hen G.A. yn marcio’i eiriau.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: