Mynd i ysbryd y peth

25 Aws

Anodd curo’r hen GOLWG 360 am fynd i ysbryd y peth.

“Ail ddadl deledu : cyfle olaf Salmond ?”  yw’r pennawd heno.

Gallai fod yn gyfle olaf Darling hefyd. Neu gyfle olaf yr Alban. Neu gyfle olaf Lloegr. Ond rhaid gwneud y cyfan yn beth personol wrth gwrs, gyda’r ensyniad mai rhywbeth o wneuthuriad Salmond, ac er mwyn Salmond, yw’r mudiad cenedlaethol yn yr Alban. Bu’r wasg ddyddiol wrthi ers wythnosau, – “Oil blow for Salmond”, “Pound blow for Salmond”, “”Poll blow for Salmond”, “Europe blow for Salmond”.   Rhaid i’r Telegraph gael rhyw “blow for Salmond” bob dydd.  Rhaid i’r Sefydliad bob amser gael bwgan.

Gallaf ddychmygu GOLWG 360 hithau, petai hi wrthi bryd hynny:

1920au       Cyfle olaf De Valera ?
1940au       Cyfle olaf Gandhi ?
1950au       Cyfle olaf Makarios ?

Ond ac edrych arni fel arall, prawf o gryfder mudiad sy’n herio’r drefn yw ei fod yn cynhyrchu bwgan.  Pryd cawsom ni “Blow for Ieuan Wyn Jones”?   Pryd cawn ni “Blow for Leanne?”   Tyrd o’na Leanne !

Ar destun cysylltiol, ar Daily Wales y gwelais i fod yna rali dros Annibyniaeth yr Alban i’w chynnal o flaen y Cynulliad yng Nghaerdydd ar 13 Medi.   Y manylion heb gyrraedd 360 eto … ?

Un Ymateb to “Mynd i ysbryd y peth”

  1. Dylan Iorwerth Awst 26, 2014 at 7:18 am #

    Efallai nad oedd yr hen Dafydd Glyn Jones wedi sylwi mai Alex Salmond oedd yn cymryd rhan yn y ddadl rhwng dau. Cyfeirio at farn John Curtice yr oedd y pennawd. Cyfle olaf, oherwydd mai ‘Ie’ sydd ar ei hol hi ar hyn o bryd yn y polau. Gwefan newyddion ydi Golwg360, nid calendr.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: