Awdur gwadd heddiw: Gethin Jones
Hon mae’n debyg oedd noson fwya digalon, siomedig ac isel fy mywyd. Tebyg iawn i’r profiad o golledigaeth, ond hyd yn oed yn waeth rywsut.
Wedi cychwyn o stesion Bangor am un ar ddeg y bore gyda fy nghyfaill o Radio Ysbyty Gwynedd a chriw mawr o fyfyrwyr ifainc o Brifysgol Aberystwyth, yr oeddwn yn hynod hyderus y byddai’r ochr IE yn ennill yn bur gyfforddus neu hyd yn oed chwalu yr ochr NA yn rhacs, – yn enwedig ar ôl yr holl waith caled diflino gwych gan yr ochr IE. Nid wyf erioed wedi profi nac yn mynd i brofi ychwaith byth eto ymgyrch gystal â hon. Ymgyrch ddoniol, ddychanol, bositif, hwyliog, gynhyrfus, egnïol, glyfar a gwreiddiol.
Wedi cyrraedd Caeredin am bedwar y prynhawn hwnnw, cefais fy nharo yn syth gan faint o sticeri IE oedd o gwmpas: bron iawn bawb o’r to iau oedd yn mynd heibio yn gwisgo un. Wrth gymryd tacsi o’r stesion dyma ni’n dau’n gofyn i’r gyrrwr a oedd wedi pleidleisio. Oedd, meddai ef, i’r ochr IE, ac roedd yn credu fod yr ochr honno yn mynd i ennill yn hawdd. Wedi i ni dipio’r gyrrwr yn fwy hael na’r arfer, dyma fynd i mewn i’r hostel. Hon oedd un o’r hosteli butraf a welais erioed, os nad y waethaf. Gyda llaw enw’r lle ydyw Brodies ar y Stryd Fawr. Lle i’w osgoi. Yr oedd mor aflan nes penderfynodd y ddau ohonom ollwng ein bagiau yno a mynd allan yn syth ac efallai peidio mynd yn ôl yno y noson honno, hyd yn oed os oedd rhaid cysgu ar fainc.
Allan â ni am rywbeth i’w fwyta. Môr o IE gwyn a glas ym mhobman. Erbyn hyn roeddwn yn fwy postitif fyth. Nid yw Caeredin yn lle cenedlaetholgar o bell ffordd, ond roedd gweld yr holl geir â sticeri IE yn chwifio baneri yn arwydd da. Nid oedd yr ochr NA yn weledol o gwbl. Hyd yn oed petawn yn awyddus i fynd i ffraeo a chwffio gyda Phrydeinwyr, nid oedd hynny yn bosib achos nid oedd dim o’u hôl yno.
Rhaid dweud, yr oedd digon o gefnogaeth o Gymru yno, rhai yn gweithio yn rhoi pamffledi allan. Cafwyd cefnogaeth gref iawn o Gatalonia a gwlad y Basg hefyd.
O gwmpas yr wyth o’r gloch penderfynodd y ddau ohonom fynd i lawr at Senedd Holyrood i weld a oedd modd gwylio’r canlyniadau ar sgrîn fawr. Nid oedd yno sgrîn, dim ond criw eitha mawr o gefnogwyr IE, y plismyn, a dau neu dri o’r NA yn dal Jac yr Undeb fawr i fyny a golwg fel ynfydion Bangoraidd ar eu hwynebau ynfyd. Dechreuodd criw ohonom ganu “The Yes side’s having a party and the No’s have gone to bed” a “Yes, yes, yes”. Ond fe ddaeth gweision yr adain dde i’n tawelu.
Penderfynodd y ddau ohonom decstio un o’r criw Aberystwyth i weld ym mha le yr oedden nhw yn y ddinas. Cafwyd neges yn ôl i ddweud eu bod lai na dau gan llath i ffwrdd mewn tafarn IE yn gwylio’r cwbl ar deledu. Penderfynwyd mynd yno. Wrth ddisgwyl i fynd i mewn dechreuais sgwrsio gyda chriw o fyfyrwyr Albaniadd oedd yn un plastar o sticeri IE. Newydd bleidleisio o blaid annibyniaeth ac yn ffyddiog o fuddugoliaeth. Yr oedd un Sais o fyfyriwr yn eu plith oedd â sticer IE ar ei dalcen ond a oedd wedi pleidleisio y ffordd arall ! Nodweddiadol, meddwn. Mi fyddai hyn yn cael ei chwyddo hanner can mil gwaith drosodd yng Nghymru.
Wedi mynd i mewn i’r dafarn orlawn, boeth a chwyslyd, sylwodd y ddau ohonom fod cynrychiolaeth gref o Gymry yno. Y rhai yr oeddym wedi eu cyfarfod yn barod ac ambell un arall o Brifysgol Caeredin a oedd wedi pleidleisio o blaid. Gwahanol iawn oedd y rhain i’r giwed afiach o gywion Cymry gwellt, tatws poeth. a oedd yn cael eu holi gan y BBC y noson honno, – i gyd wedi datgan yn glir eu bwriad o rwystro annibyniaeth.
Daeth y canlyniad cyntaf i mewn. Orkney oedd hwn. Rhywbeth fel tair mil o blaid a phum mil yn erbyn. Doedd dim i boeni amdano yma, meddyliais. Poblogaeth fechan o Norwyaid a chenedlaetholwyr Prydeinig yw’r rhain a byddai pleidlais fawr i’r IE yn Glasgow a Dundee yn eu dileu yn syth. Ond erbyn y pedwerydd canlyniad sef Ynysoedd y Gorllewin, suddodd fy ngobeithion a gobeithion pawb arall yn yr ystafell. Dyma etholaeth sydd wedi ethol yr SNP i San Steffan ers 1970, ac wedyn i Holyrood. A heno’n dod allan â mwyafrif da i NA. Diffoddwyd y teledu yn syth a mi drodd yr awyrgylch fel cnebrwng. Teimlais fel dyn wedi cael ei daro yn ei fol â bat criced, a chi yn cnoi fy llaw yr un pryd tra’n cael y llun afiach yma yn fy mhen o Neil Kinnock, Owen Smith, Gareth Edwards, Eddie Izzard, Ian Rush, George Galloway, Dan Snow, Rob Brydon, Barack Obama, Eluned Morgan, y dyn gwallgo ar Question Time yn bloeddio “The Highland Regiments!”, ac un hanner y gynulleidfa o raglen affwysol arall Pawb â’i Farn o Gaeredin. Y rhain i gyd yn chwerthin am fy mhen.
Y teimlad gwaetha i mi ei gael erioed oedd gadael y dafarn a dechrau cerdded yn ôl i’r cwt chwain o hostel yn gwybod fod y Sefydliad Prydeinig a’r bobl difetha hwyl wedi ennill. Mae’n debyg drwy dwyll, fel yr awgrymir erbyn hyn. Wedi cyrraedd y cwt chwain, dyma roi fy mhen i lawr ar y gobennydd budur drewsawr a syrthio i gysgu.
Cefais fy neffro am chwech y bore wrth glywed bloedd fawr o “NO, NO, NO”. Gêm ar ben, meddwn. Clywodd fy ffrind o’r ystafell arall “Rule Britannia” yn cael ei chanu yn rhywle. Teimlais y bore hwnnw fel dyn wedi cael andros o gweir gan Mike Tyson a Mohammed Ali yr un noson. Cefais gadarnhad gan fy ffrind am wyth y bore fod “NA” wedi ennill. Penderfynwyd gadael y twll lle yn syth a mynd adref ddiwrnod yn gynnar.
Roedd yr awyrgylch y tu allan y mwyaf digalon a fflat. Dim golwg o ddathlu yr ochr negyddol. Mae ci sy’n brathu yn mynd yn ôl i’w gwt. Petai IE wedi ennill mi fyddai’r lle yn llamu a dawnsio. Alban annibynol, gyfoethog, lewyrchus, deg, ddi-niwclear. Yn lle hynny dim ond dydd Gwener arall digalon. Yr un hen stori.
Yr oedd fy ffrind wedi dweud o’r dechrau, ers dros flwyddyn, ei fod bron â thorri ei fol isio i’r Alban gael ei hannibyniaeth, ond yn gwbl grediniol nad oedd hyn am ddigwydd. Dywedodd cyn y canlyniad, hyd yn oed petai yr ochr IE yn ennill na fyddai’r Sefydliad Prydeinig yn caniatáu annibyniaeth. Mi fyddai’r rheini yn medru rigio hyn mor hawdd â rigio dau ryfel anghyfreithlon. Yn ogystal yr oedd fy nghyfaill wedi dyfalu canran y bleidlais yn berffaith. Yr oeddwn wedi cael bet deg punt yn ei erbyn, yn ogystal â bet arall gyda siop fetio y byddai’r IE yn ennill.
I roi halen ar y briw cefais wybod ar y trên adref fod Alex Salmond yn rhoi’r gorau i fod yn arweinydd yr SNP. Gweld wedyn, ar Wings over Scotland, ymateb anwaraidd yr ochr NA mewn terfysg yn Glasgow. Mae ffasiwn beth â chollwrs sâl, ond enillwyr sâl yw’r pennau defaid Neo-Natsiaidd hyn. Eu cri oedd “No surrender! No surrender! ” Dyma bobl newydd ildio grym i San Steffan a cholli gwerth triliwn o bunnau o olew Môr y Gogledd. Ni thynnodd y rhaglenni newyddion sylw o gwbl at eu hymddygiad. Oes rhyfedd bod llawer yn penderfynu “stwffiwch eich trwydded deledu” ?
Diolch I Gethin am ei gyfraniad dirdynnol i’r Blog.Agos at ddagrau wrth ei ddarllen.