I dorri ar ddistawrwydd go hir, hysbyseb fach.
Y Dreflan (1881) oedd nofel wreiddiol gyntaf Daniel Owen. Bu pob beirniad yn ei thrafod, a chyfeirio ati fel carreg filltir yng ngyrfa’i hawdur, – ond neb yn ei gweld. Ganol y 1890au yr argraffwyd hi ddiwethaf, ac aeth yn llyfr prin iawn.
Ond dyma hi bellach yn ailymddangos fel rhif 10 yng Nghyfres ‘Cyfrolau Cenedl’, a gyhoeddir gan Dalen Newydd Cyf. Gwnaed y golygiad newydd hwn gan Robert Rhys, darlithydd yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, a cheir ynddo ragymadrodd a nodiadau a fydd yn help i’r darllenydd heddiw fynd i fyd Daniel Owen.
Dyma gyfle eto, wedi tua 120 mlynedd, i gyfarfod Benjamin a Becca Prys, Pitar Pugh, John Aelod Jones, Jeremiah Jenkins, Sharp Rogers, Mr. Smart a Mrs Enoch Jones – oll yn gymheiriaid teilwng i gymeriadau mwy enwog y nofelau eraill. Dyma ddigon o gyfle i ddychan a doniolwch Daniel Owen, a’i sylwgarwch ar ‘yr hen natur ddynol’, sydd cyn gryfed yma ag mewn unrhyw un o’i dair nofel ddilynol.
Gobeithio y bydd mwynhau eto ar Y Dreflan wedi’r ysbaid hir. £15.00.
Gadael Ymateb