Pwy sy am fod yn Chwig ?

28 Hyd

Stori fach bore heddiw fod rhywrai am atgyfodi’r Blaid Chwigaidd. Wn i ddim o’r manylion. Ai rhyw fath o jôc ydyw?  Ai dechrau rhyw symudiad gwirioneddol tuag at aileni’r Chwith Seisnig o ganlyniad i’r cynnwrf yn yr Alban?

Fe welsom ymgais i adnewyddu Chwigiaeth o’r blaen, nid cymaint â hynny yn ôl.  Dyna oedd symudiad Roy Jenkins a’r ‘Giang o Bedwar’ ddechrau’r 1980au wrth greu Plaid y Democratiaid Cymdeithasol, cynghreirio honno â’r Blaid Ryddfrydol ac yna uno’r ddwy blaid.

Ymarfer diangen oedd hwnnw, a diangen fyddai aileni Chwigiaeth heddiw.  Oherwydd Chwigiaid sy’n rheoli Prydain, ac wedi gwneud ers hir hir amser. Chwigiaid sy’n rheoli Cymru hefyd, ac wedi gwneud ers cenedlaethau drwy rwydwaith o sefydliadau Cymreig-Brydeinig.

Yr oedd y Torïaid a’r Chwigiaid yn y ddeunawfed ganrif yn blant ymraniadau’r ganrif cynt.  Gweddill plaid y Brenin a’r Eglwys oedd y Torïaid, a rhyw weddill o blaid y Senedd oedd y Chwigiaid.  Y Chwigiaid fu’n rheoli drwy ran helaethaf y ganrif honno, ac yn anochel felly hwy oedd offeryn seneddol a gwleidyddol y grymoedd a oedd yn gwthio gwladwriaeth newydd Prydain Fawr yn ei blaen fel ei bod yn rheoli’r don.  Ymddangosai fwy nag unwaith mai’r Chwigiaid bryd hynny a ffafriai bolisïau ymledol, ymerodrol, militaraidd, gan gynrychioli  agweddau meddwl y daethom, yn nes ymlaen ac o dipyn i beth, i’w cysylltu’n fwy â Thorïaeth.  I ran y Chwigiaid y daeth mynegi ysbryd cenhadol y wladwriaeth Brotestannaidd yn wyneb gwladwriaethau Catholig Ffrainc a Sbaen; ac am fynegiad o’r ysbryd hwnnw yn Gymraeg, darllenwn lythyrau Lewis, Richard a William Morris, gweision gwladol ar y tu Chwigaidd ill tri.

Yn niwedd y ganrif yr oedd gan Chwigiaeth arweinydd galluog dros ben yn Charles James Fox.  Yr oedd yn ddyn cyfoethog iawn, a digon ofer o ran ei fuchedd bersonol yn ôl pob hanes; ond yn ei wleidyddiaeth, dyn goleuedig a welai ymhellach na’r rhan fwyaf.  Pe bai’r ‘Prif Weinidog gorau nas cafwyd erioed’ wedi cael ei gyfle, dichon y buasid wedi lliniaru llawer o anghyfiawnder y ganrif a ddilynodd ac y buasai rhai diwygiadau llesol wedi cychwyn yn llawer cynt nag y gwnaethant.  Yn un peth, gallasai’r agwedd tuag at y Chwyldro Ffrengig fod yn dra gwahanol.  Mewn rhyw ystyr nid ymadferodd Chwigiaeth byth wedyn oddi ar ymadawiad Fox.  Gadawyd Edmund Burke: gŵr tra galluog, blaengar a goleuedig eto ar sawl mater, ond a ddychrynwyd gan y Chwyldro Ffrengig i leisio safbwyntiau a ddaeth yn rhai ceidwadol clasurol.  Y Cymro Richard Price yn ysgogi gwrthateb y Gwyddel Burke; y Sais Tom Paine yn ei ateb yntau; a’r Cymro Jac Glan-y-gors yn adleisio Paine.  Dyna’r cylch, a diddorol ydyw.

Yn fuan wedi trechu Napoleon, pa blaid bynnag a oedd yn llywodraethu mewn enw yn San Steffan, daeth yn amlwg fod y gwir awenau yn nwylo ‘the base, bloody and brutal Whigs’ fel y disgrifiwyd hwy gan un o’u beirniaid.  A oeddent yn haeddu’r fath gondemniad?  Sut y daethant i’w ennyn?  Mae’r ateb mewn un gair, difaterwch.  Pobl oedd y Chwigiaid, ac a fuont wedyn, ac ydynt hyd heddiw, mor hunanfodlon yn y gred mai hwy yw’r asgell flaengar, oleuedig fel na welant fod angen gwneud dim i deilyngu’r enw hwnnw.  Peidio â chynhyrfu, peidio â rhuthro, gadael i bethau gymryd eu cwrs, eistedd ar ben llidiart, gwneud y mymryn angenrheidiol ar ôl cadw pawb i ddisgwyl;   mewn gair, popeth sy’n groes i radicaliaeth, dyna fu Chwigiaeth.  Dau Chwig mawr yr ugeinfed ganrif oedd Asquith ac Attlee, a chafodd y ddau yr enw o fod yn arweinwyr ar lywodraethau blaengar.  Os gwir hynny o gwbl, yr oedd yn wir oherwydd presenoldeb  gweinidogion eraill a fedrodd roi’r arweiniad na fynnai’r arweinydd ei roi.  Nid oes neb erioed wedi llawn esbonio agwedd gyndyn, gibdall a dinistriol Asquith tuag at ryddfreinio merched, ac eleni rydym yn coffáu trychineb byd-eang a ddeilliodd o’i gysgadrwydd a’i ddifaterwch ef yn gymaint ag o ddim byd.

Y Chwith ddiogel, barchus yw Chwigiaeth, prif ddiogelydd y status quo a rhwystr mawr ar ddiwygiadau gwir angenrheidiol mewn gwladwriaeth a chymdeithas. Bron bob plaid yn ei thro, fe lithra i’r stad feddwl Chwigaidd os na ddaw rhyw bethau i’w phigo a’i deffro’n barhaus. Yr un eithriad fawr y dyddiau hyn, mae’n ymddangos, yw Plaid Genedlaethol yr Alban.  O blaid Chwigiaeth, rhaid rhestru ei dawn i gadw’r olwynion i droi, dawn werthfawr bob amser;   rydym yn ddyledus iddi dros genedlaethau am barhad a llwyddiant ein sefydliadau seciwlar Cymreig-Brydeinig yng Nghymru.  Gwobr llwyddiant yn hynny o beth yw anrhydeddau’r wladwriaeth i unigolion.

Fe ddylem, ac yn arbennig yng Nghymru efallai, wahaniaethu rhwng ‘Chwigiaid meddal’ a ‘Chwigiaid celyd’.  Nid oes gan y Chwig Meddal fawr o asgwrn i’w grafu;  cyn belled â’i fod yn cael ei gydnabod, nid yw’n ei ffansïo’i hun yn fawr o arweinydd na phroffwyd;   mae’n hapus yn gwasanaethu’r sefydliadau lle mae’n gyfforddus, ac mae am weld eu llwyddiant.   Mae’n gefnogol i’r Gymraeg ac i fesur helaeth o genedlaetholdeb diwylliannol.  Am y Chwig Caled, ei brif nodwedd yng Nghymru yw bod yn wrth-Gymreig, oherwydd cafodd y syniad i’w ben o rywle mai felly y mae bod yn flaengar.

Digwydd pethau rhyfedd weithiau.  Chwigiaid clasurol fu’r Sefydliad ym Mhrifysgol Cymru oddi ar ei sefydlu, pobl y consensws Lib-Labaidd gweddol gysurus.  Ym mhedwerydd a phumed degawd yr ugeinfed ganrif daethant i deimlo eu bod dan fygythiad.  Mewn un cyfwng bu raid iddynt gael, ar fyrder, rhywun i sefyll rhyngddynt a’r bygythiad hwnnw.  Dewiswyd, o bawb, W.J. Gruffydd, dyn nad oedd yn un ohonynt.  Hwyrach yr hoffai’r darllenwyr ddarllen fy stori fer ‘Trobwynt’, yn archif mis Mai 2013 neu yn rhifyn Ionawr eleni o’r Traethodydd.

Atgyfodi Chwigiaeth?   Amhosibl, gan na fu hi erioed farw.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: