Rhagor am y Dreflan

30 Hyd

Dridiau’n ôl mi roddais hysbyseb fach i’r Dreflan.  Heddiw, rhai meddyliau pellach yn ei chylch.

1.     Yn y golygiad newydd hwn gan Robert Rhys ceir rhagymadrodd, nodiadau a geirfa.  Ar briodoldeb y ddau olaf bu tipyn o ystyried a thrafod rhwng y golygydd a minnau.

Anaml iawn y ceir geirfa wrth gwt unrhyw destun llenyddol Saesneg ar ôl Shakespeare; ddim hyd yn oed gweithiau llawn tafodiaith (e.e. Thomas Hardy), neu slang (e.e. P.G. Wodehouse).   Fe ddisgwylir fod pob Sais yn medru ei iaith, neu fe gymerir fod y fath beth i’w gael â geiriadur.   Hyd yma wrth olygu’r gyfres ‘Cyfrolau Cenedl’ fe drechwyd fy ystyfnigrwydd gwleidyddol chwe gwaith gan yr ystyriaeth fod yr eirfa’n ddiddorol.  Felly’r tro hwn. Geirfa fer sydd i’r Dreflan, a gobeithio y bydd y darllenwyr yn gwerthfawrogi’r goleuni ar: anwêdd, colma, cyrajio, cywlas, dynsawd, gim-gam-gwa, meddflyd, wynebiaeth, ymgenglu … a nifer o eiriau difyr eraill.

Bu arfer ar un adeg o roi geirfa mewn llyfrau straeon plant.  Chwithig bellach (o leiaf mi obeithiaf hynny) yw gweld dibynnu ar y Saesneg i esbonio llond ceg o eirfa Gymraeg yn Nedw : gwaddol y cyfnod pryd y dysgid y Gymraeg trwy’r Saesneg, a gweddol y dybiaeth (rhy fyw o hyd) mai’r trosiad Saesneg ohono yw’r esboniad ar air Cymraeg.

Wedyn y nodiadau.  Beth oedd Ysgol Frydeinig, het Jim Crow, German band ? Pwy oedd Mrs Partington ?  Pa rai oedd y chwe sir ?  Beth oedd arwyddocâd aros yn y seiat ?  Beth oedd y gwahaniaeth rhwng pregethwr a gweinidog ?  Esbonnir yn fyr eitemau fel hyn o fyd Daniel Owen.  Dangosir hefyd mor Feiblaidd yw llawer o’i ymadroddion a’i gyfeiriadau, – rhai o’r rheini yn gellweirus neu barodïol.  A oedd angen yr esboniadau hyn?  Wedi ystyried, cytunais fod.  A gallesid mynd ymhellach, oherwydd nid jargon Ymneilltuaeth yn unig sydd wedi mynd yn ddieithr bellach, ond syniadau sylfaenol Cristnogaeth hefyd.

2.     Ysgrifennodd W. J. Gruffydd yn ei Hen Atgofion :   ‘[A]r funud lwcus agorais y gyfrol o’r Drysorfa a oedd yn cynnwys pennod gyntaf Y Dreflan gan Daniel Owen.  Yn ffodus, yr oedd yr holl rannau’n gyflawn yn y Drysorfa, ac ni roddais y llyfrau o’m llaw nes gorffen y Dreflan.  Dyna’r tro cyntaf i mi ei darllen, ond euthum drosti lawer gwaith ar ôl hynny.   Gwn mai prentiswaith Daniel Owen ydyw’r nofel hon, ac nad yw’r beirniaid, pwy bynnag yw’r rheini, yn ei rhestru gyda’i weithiau gorau; ond i mi, hyd y dydd heddiw, nid ysgrifennwyd dim yn y Gymraeg na’r Saesneg na’r un iaith arall a wn, yn debyg i’r Dreflan.  Erbyn hyn, y mae’r Dreflan wedi myned yn symbol i mi am fy maboed gynt, ac ni all y nofel berffeithiaf a gyfansoddwyd erioed gymryd ei lle.’

Onid yw’n rhyfedd, a bron yn anhygoel, nad argraffwyd mo’r Dreflan o gwbl yn ystod yr ugeinfed ganrif?

3.    Mewn eitem o’r blaen ar y blog hwn (23 Awst 2013) mi soniais am y math hwnnw o stori neu ddrama sy’n ein tywys o gwmpas y dref neu’r pentref gan daro i mewn i’r lle yma a’r lle arall a gofyn ‘beth mae hwn-a-hwn yn ei wneud y foment hon?’  Yr union ddyddiau hyn clywn goffáu ac ailchwarae ar yr enwocaf erioed, ond odid, o weithiau ‘rownd y dref’, sef Under Milk Wood.  A bûm yn ailddarllen yn ddiweddar, gan chwerthin fel erioed, stori a drama Wil Sam am ‘Y Dyn Swllt’ ar ei rownd drwy’r pentref  yn ceisio cael  taliadau’r clwb dillad o groen hwn a’r llall.  Mae pennod agoriadol Y Dreflan, arolwg cyflym o’r gwahanol gyrff crefyddol yn eu tro, yn enghraifft glasurol o’r dosbarth difyr hwn o lenyddiaeth.

4.    Yn ddyn ifanc fe gyfieithodd Daniel Owen nofel ddirwestol Americanaidd a’i chyhoeddi’n benodau yn un o’r cylchgronau crefyddol dan yr enw Deng Noswaith yn y Black Lion.  Mae goryfed yn destun yn Y Dreflan, Rhys Lewis a Gwen Tomos.  Ond yr hyn sy’n drawiadol am y tri gwaith gwreiddiol hyn yw i’r awdur osgoi’r demtasiwn i sgrifennu nofel ddirwest.  Gwêl broblem, gwendid a salwch;   mae ei agwedd yn wyddonol.  Nid oes faddeuant i dad Rhys Lewis am y cyfan a wnaeth; ond golwg dosturiol a gymerir ar Bob Pugh yn Y Dreflan ac ar Harri a’i dad yn Gwen Tomos. Am John Aelod Jones, nid yw ei lymeitian ond cam pellach mewn gwiriondeb a oedd yno o’r dechrau.

5.     ‘Beth bynnag yw’r Dreflan, nid stori mohoni,’ dyfarnodd Saunders Lewis.  Wel, wn i ddim.  Mae ynddi gymaint o stori ag mewn llawer o nofelau Victoraidd.  Argraffiadau brodor dienw o ‘bobl a phethau’ o gwmpas y dref sy’n rhoi’r prif fframwaith, ac ym mhen y rheini argraffiadau’r dyn dŵad Noah Rees.  Yna daw llinyn arall, diflaniad a dychweliad un o feibion afradlon y Dreflan.  Ac wrth sefyll ychydig yn ôl, efallai nad rhy ffansïol gweld, yn codi o blith yr amrywiaeth cymeriadau, rhyw batrwm fel hyn o gyferbynnu tri dyn â thri arall.   Tri chymeriad cadarnahol – er na or-ddelfrydir yr un ohonynt; a thri chymeriad negyddol.  Ar y naill law Noah Rees, Benjamin Prys a Pitar Pugh.  Ar y llaw arall, y tri ‘dyn drwg drama’.   Mr. Smart, snob drama.  Sharp Rogers, cybydd drama.  Jeremiah Jenkins, drwgweithredwr drama (ond â’i fab, Tom, yn unol â thema gyson gan Ddaniel Owen, yn fachgen hollol gymeradwy.)

O’r tri dyn drwg, pa un sy’n cynrychioli’r broblem fwyaf, i’r Dreflan ac i Gymru?  ‘Moment ddiffiniol’, fel y dywedir, yw honno pan yw Mr. Smart yn eistedd yng nghadair Benjamin Prys yn y capel.  Ac anfarwol yr olygfa lle mae Freddie, mab Mr. Smart, yn dweud ei adnod:   ‘Iesu d’wedodd, Cadewch i plant bwchin tyfod ataf i, a na wenyrwch irynt.’  Mae ein gwlad bellach yn llawn Ffredïod (er heb lawer o adnodau).  Mr. Smart sydd wedi ennill.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: