Wedi chwe wythnos

1 Tach

Ddoe y dylwn fod wedi sgrifennu hwn, chwe wythnos union ar ôl y llanast dychrynllyd yn yr Alban.

Ie, llanast Sgotaidd clasurol meddaf eto, cymar teilwng i drychinebau Flodden a Culloden, i antur alaethus Darien (a arweiniodd at ddiddymu senedd yr Alban yn 1707), i gyflafan gwacáu’r Ucheldiroedd ac i weithredoedd ffôl y naill un ar ôl y llall o’r brenhinoedd Stuartaidd.  Dywedaf eto, rhyw ddannoedd fud barhaus yw teimlad y Cymro o israddoldeb;   am greu trychinebau, am droi’r drol go-iawn, wyddom ni ddim byd amdani wrth ochr yr Albanwyr.  Yn un peth, fe barhaodd coron a senedd yr Alban am ganrifoedd pryd nad oedd gan y Cymry y naill na’r llall; yr oedd y gwobrau felly yn fwy a’r gwrthdaro’n galetach.  Bu’r Alban yn fwy o genedl na Chymru, a’i phobl yn  ymwybodol o hynny;   yr oedd eu cenedligrwydd yn bresenoldeb, yn realiti, ac am hynny yr oeddent yn ei ofni, – ei ofni’n fawr ar rai adegau.  Gŵyr y Sgotyn mai annibyniaeth yw’r peth priodol iddo, – ond mae’n ofni mynd amdano ac weithiau mae’n camu’n ôl mewn modd syfrdanol.

Adlewyrchiad o hyn fu hynt y Blaid Genedlaethol, yr SNP, oddi ar ei llwyddiant yn 1967.  Ethol saith AS (‘Scotland’s Magnificent Seven’) mewn awyrgylch cadarnhaol iawn yn etholiad Chwefror 1974; cynyddu hyn i roi ‘Scotland’s First Eleven’ fis Hydref yr un flwyddyn, gyda darogan hwyliog o ennill mwyafrif seddau’r Alban yn fuan iawn.  Ond ym mlwyddyn hunllefol 1979 ysgubo’r rhain ymaith gan adael dim ond un neu ddau.  A thrwy’r 1980au ymddangosai’r hen Blaid Cymru, mewn cymhariaeth, yn baragon o wytnwch a dyfalbarhad.

Caf ryw deimlad fod y duedd hon at bendilio manig yn rhan o’r hyn sydd wedi digwydd oddi ar y bore Gwener llwyd wedi’r refferendwm.   Eisoes ar y blog yr wyf wedi llyncu geiriau.  Na, doedd rhoi’r bleidlais i lafnau a llafnesi 16 oed ddim y camgymeriad yr ofnais unwaith ei fod. Na, ni chafwyd ‘effaith Québec’, gyda’r blaid genedlaethol yn edwino’n gyflym a diflannu ar ôl colli mewn refferendwm.   I’r gwrthwyneb, dyma’r trafod a’r ymgyrchu yn parhau, y blogiau a’r gwefannau cenedlaetholgar yn fyw iawn, aelodau yn dylifo i’r SNP, degau o filoedd yn heidio i wrando neges ei darpar arweinydd newydd, a’r polau yn addo’n wych iddi.  Ac – arwydd da  – y Daily Telegraph yn dechrau ymosod arni.  Beth sy’n esbonio hyn oll?

Ystyriwn rai esboniadau posibl.

(a)    Siom yr ‘Adduned’ ?  Dyma’r fersiwn a dderbynnir gan y rhan fwyaf o’r sylwebyddion a’r pynditiaid. Yn ystod yr wythnos olaf cyn y bleidlais cafodd y Sefydliad Prydeinig anferth o fraw, a daeth y tair prif blaid unoliaethol at ei gilydd a chyhoeddi ‘adduned’ o rymoedd, breintiau a manteision arbennig i’r Alban ond iddi aros o fewn yr undeb. Credwyd yr adduned, a dewisodd yr Albanwyr, o fwyafrif, fod yn hogiau da. O fewn dyddiau, caed lle i feddwl nad oedd yr adduned yn werth dim nac yn golygu dim.  Daeth adwaith yn syth, a throdd y llanw yn gryf o blaid yr SNP, ar draul Llafur yn bennaf.

(b)   Euogrwydd ?  Ond y nefoedd fawr, a yw hyn yn esbonio’r ffigiwr o 52% i’r Blaid Genedlaethol yr wythnos hon, a fyddai’n rhoi iddi 54 sedd yn San Steffan gan adael Llafur â phedair, y Democratiaid Rhyddfrydol ag un a’r Ceidwadwyr â dim un? A yw’n esbonio canlyniad Pôl Reuters heddiw, a ddywed y byddai 52% yn pleidleisio dros annibyniaeth gyda 48% yn erbyn (ffigurau a fyddai’n ymaddasu i 49% a 45% ar ôl torri allan yr ‘ymatal’ a’r ‘wn i ddim’)?    A allwn ni dderbyn fod y fath newid wedi digwydd o fewn ychydig ddyddiau wedi’r refferendwm, o ganlyniad i ychydig ystyriaeth bwyllog ac i fethu credu’r ‘adduned’?   Ai ynteu yr esboniad yw fod y Sgotiaid wedi mynd yn  wallgo, – ond yn wallgo y ffordd iawn o’r diwedd?   Rhywbeth nid annhebyg i’r ail, rwy’n mentro awgrymu; neu o leiaf rhywbeth yn galw am esboniad seicolegol; rhywbeth yn codi o’r dyfnder.  Ton o edifeirwch, gan bobl yn gwybod yn eu calonnau eu bod wedi gwneud peth drwg?

(c)   Mynci busnas ?  Trydydd posibilrwydd, – ac fe gaiff y sgeptig gilwenu.  Rhwng 49 a 52 o blaid, a rhwng 45 a 48 yn erbyn.  Tybed, tybed nad dyna oedd gwir ganlyniad y refferendwm, ond bod grymoedd cudd, drwy foddion at eu galw, wedi addasu’r ffigiwr o ryw … 3% ?   Yn union wedi’r canlyniad yr oedd sôn mawr am dwyllo yma ac acw.  Mae’r sôn hwnnw wedi peidio erbyn hyn.  Ond erys y ffaith hanesyddol mai at gastiau mul a thriciau mwnci y try’r Sefydliad Prydeinig yn ddi-ffael ac ym mhob amgylchiad pan fydd wedi ei gornelu. Yr wythnos hon dyma hanes am farw Gough Whitlam, cyn-Brif Weinidog Awstralia, a ddiswyddwyd yn y 1970au mewn modd sy’n ymddangos yn gwbl anghyfansoddiadol ac anghyfreithlon, – a chyda chydweithrediad mwy-na-pharod y Goron medd rhai sylwebyddion.

Os mai (c) sy’n gywir, ymgysurwn yn y wireb nad hir y ceidw’r Diafol ei was; gollyngodd ef yn ddigon sydyn yn Iwerddon, India, Kenya, Malaya, Cyprus …  Os mai (b) sy’n gywir, gobeithiwn y bydd i’r SNP ddal y llanw y tro hwn.  Mae hanner blwyddyn yn amser hir iawn mewn gwleidyddiaeth, a diau y bydd llawer tro ar fyd.  Na ddisgwyliwn y mwyafrifoedd anferth y mae arolygon y dyddiau hyn yn eu haddo.  Digon fydd mwyafrif, yn etholiad San Steffan i ddechrau, ac ym mhen blwyddyn wedyn yn etholiad Holyrood.  Byddai hynny’n wir yn beth gwerth byw ar ei gyfer, y peth gorau a all ddigwydd yn oes neb ohonom sy’n fyw.  Ac un o’i ganlyniadau fyddai gorfodi ailgyflunio’r Chwith yn Lloegr.

Ble mae hyn oll yn gadael Cymru?  Cwestiwn rhy fawr heddiw.

O.N.   Mae’r hen G.A. wedi rhoi’r gorau’n llwyr i brynu’r Telegraph, ond bydd defnyddwyr Yahoo yn gorfod dioddef detholion ohono, yng nghanol lobsgows o straeon tabloid hollol hurt.  Echdoe roedd yn dechrau arni:  ‘Sturgeon – is she going to be as annoying as Salmond?’ A phechod Nicola yn tro hwn, testun ysgrif flin iawn?  Rhyw ffrwtian chwerthin (‘chortling’) wrth gael ei holi gan John Humphreys ! H.y. gwrthod cymryd y BBC o ddifri !

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: