Wele goelcerth !

6 Tach

Felly fe gafodd pobl dda Lewes yn Sussex dipyn o hwyl neithiwr, yn llosgi delw o Alex Salmond ar ben y goelcerth.  Derbyniodd yr heddlu gŵyn, ond fe daniodd rhywun y fatsen yr un fath ac fe losgwyd un ddelw o’r ddwy a fwriadwyd, er difyrrwch i dyrfa o 45,000.

Nid yn annisgwyl, mae peth dicter yn yr Alban, yn enwedig gan fod y Lewesiaid wedi llosgi hefyd Anghenfil Loch Ness a’r 45% a bleidleisiodd dros IE !  Yn ôl yr hanes, chwerthin a wnaeth Alex (chortling, chwedl y Daily Telegraph), gan boeni mwy am Nessie nag amdano’i hun.

Y cwestiwn i Gymru yw, pryd, o pryd y codwn ni arweinydd y barna pobl yr Home Counties ei fod yn deilwng o’i losgi ar Noson Tân Gwyllt?   Hyd y gallaf gofio, ni losgwyd arweinydd o Gymro ers diwrnod llosgi Lloyd George a’i ewythr gan bobl Cricieth adeg Rhyfel y Boer.  Hyd y gwn, ni losgwyd mo Saunders Lewis ar ei fwyaf dadleuol; efallai ei fod ef ei hun wedi defnyddio’r fatsen olaf.

Ddoe y dylwn fod wedi rhoi hysbyseb fach i gerdd Ellis Wynne (Y Bardd Cwsg) am Gynllwyn y Powdr Du, a gyhoeddir am y tro cyntaf yn Hen Lyfr Bach Cerddi’r Bardd Cwsg.  Clywaf fod y pecyn bargen, pedwar Hen Lyfr Bach am £10 yn lle £12, yn mynd yn dda. Ffitio hosan Nadolig.  Ewch amdano tra bydd y stoc yn para !  Gan eich llyfrwerthwr neu o: dalennewydd@yahoo.com

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: