Ffenics o’r Fflamau

16 Tach

Cyhoeddodd Alex Salmond na bydd yn ymladd sedd Lewes, Dwyrain Sussex.  Dyna ni felly. Popeth yn iawn.

Ond cofiwch, fe allai fod wedi ennill.  Fel yr oeddwn yn sôn y noson o’r blaen (6 Tachwedd), fe losgwyd Lloyd George yn ei etholaeth ei hun, yn ei dref ei hun, gan ei bobl ei hun oherwydd ei safbwynt ar Ryfel De Affrig.  Ond wedi ychydig fisoedd fe ymladdodd y sedd eto, ei hennill, – a chynyddu ei fwyafrif.

Ar ôl ailddarllen llawer o’i hanes a llawer o’i eiriau yn ddiweddar, fe’i caf hi mor anodd ag erioed peidio ag edmygu Ll.G. am ryw bethau.  Yr oedd iddo ochr gadarnhaol iawn, yn ogystal ag ochr negyddol iawn.  Eleni o bob blwyddyn, digon posib mai’r ail sydd flaenaf yn ein meddyliau os ydym yn Gymry ystyriol.  Ar y pnawn Sul hwnnw ganmlwydd yn ôl, fe gymerodd y tro anghywir a mynd yn was, ac yn y pen draw yn garcharor, i’w hen elynion. Cymaint gwell y gallasai pethau fod petai wedi cymryd y tro arall.  Nid ailadroddaf yma yr hyn y ceisiais ei awgrymu yn chweched stori’r gyfrol Camu’n Ôl.

Cyn bo hir hefyd rwy’n gobeithio y cewch ddarllen Hen Lyfr Bach Lloyd George, un o’r pedwar nesaf yng nghyfres ‘Yr Hen  Lyfrau Bach’.  Gobeithir eu cyhoeddi yn y Gwanwyn, a hei lwc y gwêl y Cyngor Llyfrau ei ffordd yn glir i gefnogi’r gyfres y tro hwn.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: