Sawl Alun? Sawl nofel?

20 Rha

Y diwrnod o’r blaen mi gefais lyfr trwy’r post, heb ei archebu na’i ddisgwyl.  Copi ydyw o nofel newydd Alun Cob, Sais, ac fe’i cefais gan Wasg Gomer am ganiatáu dyfynnu ar y cefn bwt o eirda a roeswn i’r awdur am ei lwyddiant yn cofnodi iaith lafar.  Iaith ansafonol, iselwael yw honno yn amlach na pheidio – iaith ‘ddemotig’, chwedl yr arbenigwyr.   Anodd ei hosgoi os am adlewyrchu’n gywir rai mathau o gymdeithas yng Nghymru heddiw, ac nid lleiaf haenau o gymdeithas dinas Bangor.

Rhwng cawdel ieithyddol Cymru a’r angen am gyflwyno rhai digwyddiadau yn Lloegr a mannau eraill, cyfyd cwestiwn pellach, – faint o Saesneg?   Bu raid i nofelwyr Cymraeg wynebu’r cwestiwn ers dros ganrif.  Yn Saesneg y llefarodd Bob Lewis ei eiriau olaf, ‘Doctor, it is broad daylight’.  Yn nofelau Islwyn Ffowc Elis cafodd Dr. Paul Rushmere siarad ei iaith ei hun, – digon i’w gondemnio’i hun ynddi.  Ac efallai y bydd eraill fel finnau’n cofio’r sioc a’r hwyl o ddarllen y tro cyntaf am gyfarfyddiad Terence a Sheila yn Cysgod y Cryman, ‘Haia baby?’ ‘Haia kid?’  Oddi ar 1953 fe gerddodd pethau ymhell, a chynigiodd awduron Cymraeg wahanol ffyrdd o ddelio â’r Saesneg holl-bresennol.  Italeiddio yw un ateb, ac ateb arall yw dweud fod hwn-a-hwn yn dweud y peth-a’r-peth ‘yn Saesneg’.   Cymaint haws lle gallwn dderbyn nad yw’r iaith na Chymraeg na Saesneg, fel yn nramâu cyfandirol Saunders Lewis.  Ac yn wir fe all yr awdur benderfynu mai rhawio’r iaith fain i mewn yw’r unig ateb, fel yma yn y cyfweliad anfarwol â’r hen Paxo flin, drahaus. Serch penderfynu fel hyn mewn rhai golygfeydd, nofel Gymraeg yw Sais, neu fel y’i disgrifir gan ei hawdur, ‘yn Gymraeg, rhan fwya … Sort of.’   Dim ond Cymro a all ei darllen, ac er i hynny ddigwydd yn y stori rwy’n amau a ellid byth gyfieithu’r cyfan ohoni i’r Saesneg.  Sut y byddid yn cyfleu yn Saesneg ansawdd y Gymraeg goman, dila?

Yn wir y tro hwn fe drawodd cwestiwn arall yn fy meddwl, nad oedd yn codi yr un fath yn llyfrau blaenorol Alun Cob.  A yw Alun ei hun yn siarad y fratiaith  isel, Fangoraidd?  Does bosib!  Ond ystyriwch: ‘Dwi’n blydi confused, Keith.’ ‘C’mon, got to be?’  ‘Dim byd, really.’  ‘Meddwl bo fi yn hefyd, cofia.’  ‘Ydw i’n mynd i?’  ‘Helo?  Ti ’di calmio lawr fymryn?’  A rhagor o’r un peth.  Ond wedi dyfynnu fel yna, brysiaf i’m sicrhau fy hun  nad iaith Alun yr awdur yw hon, ond iaith Alun y cymeriad yn y nofel – sydd hefyd yn awdur.

Sawl Alun sydd, i gyd? Mae yna Alun Winston Jones (t. 59), ac mae yna Alun Wyn Jones (t. 215).   Rhagor?  Cymerwn mai Alun Cob, un ohonyn nhw, yw’r ‘A.C.’ a goffeir yn nghyflwyniad y llyfr.  Ond rhaid bod yna o leiaf un Alun Cob arall yw fyw ar y diwedd i sgrifennu’r llyfr, – sef, rŵan, y llyfr a gefais i drwy’r post, ac sydd ar werth yn y siopau y Nadolig hwn, ac y mae ei glawr yn dangos o leiaf dri llyfr o’r un enw o fewn y llyfr nes sefydlu, mewn egwyddor, nad oes diwedd iddi.  ‘Doliau Rwsiaidd’ yw cymhariaeth addas y cymeriad-awdur ei hun; siŵr y bydd rhai ohonom yn cofio dechrau’r hen fersiwn, y fersiwn deledu, o ‘Tincer, Teiliwr, Sowldiwr, Sbïwr’.

I glirio’i feddwl, fe’i caiff yr adolygydd ei hun yn crynhoi rhai pethau. Yn y llyfr sydd yn ei law, gwaith Alun Cob, mae awdur o’r enw Alun Cob, ar ôl cael y syniad i ddechrau mewn breuddwyd,  wedi sgrifennu nofel am lofrudd cyfresol sy’n lladd Saeson gan adael ar ei ôl bob tro, fel rhyw Scarlet Pimpernel o chwith, gerdyn yn dweud ‘Sais’.  Wnâi ‘Sbaenwr’ neu ‘Awstraliad’ mo’r tro wrth gwrs, oherwydd holl fwriad yr awdur o fewn y nofel – fe’i galwn yn ‘A.C. 2’ – yw bod yn wleidyddol-anghywir a chodi helynt er mwyn gwerthu mwy o gopïau.  Mae Gwasg Gomer – yn y nofel – yn cyd-fynd â hynny! Enw’r llofrudd yw Carwyn Jones, ac mae’n gyn-filwr sydd wedi colli ei goes yn Affganistán.  Dyna gymaint ag a wyddom.  Ond, cyn cyhoeddi’r llyfr mae llofrudd arall yn dwyn y syniad oddi ar wefan Gomer.  Cymhellion hollol bersonol sydd gan yr ail lofrudd, dim byd yn erbyn Saeson am eu bod yn Saeson, er mai Saeson yw rhai o’r trancedig yn digwydd bod.  Ond mae’n defnyddio cymhelliad cenhedlig y llofrudd cyntaf fel sgrîn i gamarwain yr heddlu.  Ac fel yna ymlaen.  A ddaliwyd y naill lofrudd neu’r llall?  Gan nad yw’r naill nofel na’r llall yn dweud, cystal inni gasglu na wnaed.  Ond mae’r heddlu’n ymlid Alun Cob i borth y bedd  – un Alun Cob, hynny yw.  Mae Paxman yn ei gyhuddo ar goedd, a daw i’w ddiwedd mewn modd syfrdanol.   Gwell i mi beidio â dweud dim mwy.

Wrth fwynhau llyfr, byddaf yn hoffi meddwl am ei deulu.  O ba lyfrau eraill y mae’n f’atgoffa?  Nid yw’r llyfr ddim gwell, na dim gwaeth, o fod ganddo berthnasau, ond mae’n ddifyr atgofio ambell un. Ym manylder paratoadau ac ymarferion yr ail lofrudd, dyma gymar teilwng i The Day of the Jackal.  Yn nofel Arwel Vittle, Dial yr Hanner Brawd, mae llofrudd cyfresol yn taro, yn ogystal ag un Sais gwrth-Gymreig, resaid o Gymry drwg, y math o bobl a osododd ym mlynyddoedd cynta’r ganrif seiliau’r methiant sydd i’w weld ar bob llaw erbyn hyn.  Drama yn cynnwys drama yw Hamlet, a dramâu am sgrifennu drama yw Yr Adduned (J. Gwilym Jones), Pros Kairon (Huw Lloyd Edwards) a Chwe Chymeriad yn Chwilio am Awdur (Pirandello).  A chan mai nofel am nofel am nofel sydd yma, fe’m gyrrodd i ailddarllen, ar ôl ysbaid go hir, y gwaith ar-y-naw hwnnw At Swim-Two-Birds, gan awdur a chanddo o leiaf dri gwahanol enw (Flann O’Brien, Brian O’Nolan, Myles Na Gopaleen); ynddo mae myfyriwr dienw, creadur diarhebol o ddiog, yn cynllunio tair fersiwn o nofel heb ddechrau na diwedd, a chymeriad o un o’r nofelau yn sgrifennu nofel arall lle mae’r awdur ei hun mewn perygl am ei einioes   … ynghyd â llawer o droadau eraill.

Yn Sais, er bod yma ffantasi o fewn ffantasi a chwarae â hiwmor du, mae hefyd, fel yn llyfrau blaenorol Alun Cob, edrych yn llygaid pethau fel y maent ac ymweld â haenau tywyll nad ydynt mor bell â hynny islaw arwyneb ein cymdeithas.  Nid fy lle i yw awgrymu wrth Alun – sef yr Alun sy’n fyw ar y diwedd – y dylai newid ei faes a newid yr ieithwedd.   Ond petai ryw ddiwrnod yn clywed yr awydd i ddarlunio byd heb ynddo gymaint o angen y fratiaith a’r Saesneg, rwy’n sicr yn byddai’n llwyddiannus yn y fan honno hefyd.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: